2 Mehefin 2020

 

Gallai system ddwys i besgi teirw helpu menter buches sugno yng Ngheredigion i ychwanegu gwerth i wartheg.

Mae Huw a Meinir Jones yn dymuno manteisio i'r eithaf ar effeithlonrwydd, cynhyrchiant a phroffidioldeb y fuches ar fferm Bryn, safle arddangos Cyswllt Ffermio ger Aberteifi.

Un o'r prosiectau y maent wedi cychwyn arno ar y cyd â Cyswllt Ffermio yw asesu effeithlonrwydd cynhyrchu gwartheg wedi'u pesgi o'u cymharu â gwartheg stôr.

Maent yn bwriadu pesgi pymtheg o deirw Charolais ynghyd â rhai o'u teirw Henffordd trymaf.

Rhoddir 8-9 cilogram o fwyd/pen/dydd i'r rhain ar gyfartaledd yn ystod y cyfnod pesgi a bwydir gwellt iddynt faint a fynnir er mwyn darparu ffibr yn y diet a lleihau'r risg o ddioddef asidosis.

Bydd bustych a heffrod stôr yn cael 2.5 cilogram/pen/dydd yn ystod y gaeaf, ac 1 cilogram y dydd pellach ar ddiwedd yr haf yn ôl yr angen er mwyn bodloni'r fanyleb.

Tyfir y porthiant ar y safle yn bennaf, ynghyd â chymysgedd a fydd yn cynnwys maetholion allweddol er mwyn sicrhau'r maeth cywir.

Gallai pesgi gwartheg leihau'r risg y bydd TB yn cyfyngu ar y busnes gymaint ag y bo modd hefyd trwy werthu gwartheg fel gwartheg stôr.

Yn ystod ei blwyddyn gyntaf fel safle arddangos, mae fferm Bryn yn defnyddio meincnodi fel offeryn rheoli er mwyn nodi meysydd allweddol er mwyn gwella'r fuches.

Bellach, mae Mr a Mrs Jones yn targedu effeithlonrwydd a ffrwythlondeb gwartheg, rheolaeth y fuches a chyfraddau tyfiant lloi.

Mae'r pâr eisoes wedi gwella perfformiad y fuches trwy newid i fridiau gwartheg ochr y fam a thrwy leihau'r cyfnod lloia i 10 wythnos.

Maent wedi dewis teirw gyda Gwerthoedd Genetig Bras (EBVs) terfynol a mamol da ar gyfer lloi i'w gwerthu ac anifeiliaid cadw.

Mae gaeafu gwartheg yn yr awyr agored ar fresych deiliog a maip sofl a didol-borthi lloi wedi gwella perfformiad hefyd.

Nod Mr a Mrs Jones yw datblygu'r rhain ymhellach trwy feincnodi a gosod dangosyddion perfformiad allweddol (KPIs).

Un o'r rhain yw nifer y lloi a fegir fesul buwch – maent yn dymuno codi hwn o'r 88% presennol i 95% trwy gyfrwng cofnodion lloia parhaus, diagnosis beichiogrwydd a dyddiadau cael tarw.

Os byddant yn gallu cyflawni hyn, yn unol â'r pris gwerthu cyfartalog cyfredol y pen o £750/anifail, gallai sicrhau allbwn ychwanegol a fyddai'n werth £4,500 at ei gilydd.

Targedir effeithlonrwydd gwartheg hefyd – mae'r teulu Jones yn dymuno cynyddu pwysau lloi fel canran o bwysau'r fuwch i 50% neu'n uwch.

Ar draws y fuches, cynhelir gweithgarwch profi parhaus am glefydau megis BVD a Chlefyd Johne er mwyn gwella iechyd cyffredinol.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Coeden a dyfir ar fferm Rhwydwaith Coed Nadolig Cyswllt Ffermio yn cyflenwi Rhif 10
19 Tachwedd 2024 Mae gan fusnes o Bowys sy'n aelod o rwydwaith o
Estyn allan i’r genhedlaeth iau – Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn targedu’r ifanc mewn ymgais i wneud ffermydd Cymru yn fwy diogel
18 Tachwedd 2024 Nid yw bob amser yn hawdd dweud wrth ffermwr
Gwella’r gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd drwy gyrsiau Cyswllt Ffermio
13 Tachwedd 2024 Gall hyfforddiant a sgiliau newydd helpu