Dyma’r ail weminar o fewn cyfres o webinarau amser cinio ar gyfer y sector laeth.
Y leinin godro yw’r unig ddarn o’r peiriant godro sydd mewn cyswllt â’r fuwch. Felly, mae nodweddion y leinin yn cael effaith mawr ar yr amodau godro mae buchod yn agored iddynt.
Fodd bynnag, mae’r dewis o leinin yn cael ei wneud fel arfer ar sail 'profi a methu', gydag amser, arian a pherfformiad yn cael ei golli trwy geisio chwilio am y leinin perffaith ar gyfer eich buches. Yn y weminar yma, mae Tom Greenham o Advance Milking yn siarad am y pethau allweddol i’w hystyried wrth ddewis leinin er mwyn gweddu sefyllfa eich buches a’ch blaenoriaethau chi wrth odro.