12 Mehefin 2020

 

Gall addasu i newid fod yn heriol iawn, yn enwedig mewn argyfwng, megis y pandemig COVID-19. Nid oes modd osgoi digwyddiadau annisgwyl ond gellir eu hystyried yn gyfle i ddysgu a datblygu’r busnes, a dyna'n union y mae Fferm Llysiau Organig Tyddyn Teg wedi'i wneud ers dechrau’r argyfwng COVID-19 pan welwyd silffoedd llysiau’n gwagio o ganlyniad i bobl yn prynu mewn panig. Cynhaliodd Cyswllt Ffermio ddau ddigwyddiad agored ar fferm Tyddyn Teg yn ystod 2019. Mae Debbie Handley, swyddog technegol garddwriaeth Cyswllt Ffermio yn egluro sut mae'r busnes wedi ymateb i'r cynnydd diweddar yn y galw am eu cynnyrch.

Mae Tyddyn Teg yn ddaliad 31 erw wedi’i leoli ar lethrau deheuol dyffryn bach rhwng mynyddoedd mawreddog Eryri a harddwch gosgeiddig y Fenai.  Yma maen nhw'n tyfu llysiau gan ddefnyddio dulliau organig, gan gyflenwi bwyd o safon i'r gymuned leol. Mae Tyddyn Teg yn rhannu ymrwymiad i bwysigrwydd bwyd lleol o ansawdd uchel a heriau cynaliadwyedd yn yr unfed ganrif ar hugain, ac maent yn ystyried mai eu prif nod yw cynnal cynhyrchiant llysiau a bodloni anghenion a disgwyliadau eu cwsmeriaid bocsys llysiau. 

Wrth redeg cynllun bocsys llysiau ar gyfer dros 120 o gwsmeriaid, mae fferm Tyddyn Teg wedi gorfod gweithredu mesurau diogelwch i sicrhau bod yr holl gwsmeriaid sy’n ymweld â’r safle’n teimlo bod y mesurau iechyd a diogelwch yn cyfyngu ar effaith coronaferiws. Yn ffodus, roedd Tyddyn Teg wedi rhagweld yr angen i roi mesurau diogelwch llym mewn lle hyd yn oed cyn cyflwyno’r cyfyngiadau symud, ac fe wnaethon nhw gyfathrebu hynny i’w cwsmeriaid gan ddefnyddio eu sianeli cyfryngau cymdeithasol. Ar 13 Mawrth, fe wnaethon nhw gyhoeddi’r neges ganlynol ar Facebook:

“Noder: nes bod y sefyllfa iechyd bresennol yn newid, byddwn yn rhoi eich holl ddail a’ch saladau mewn bagiau unigol er mwyn lleihau’r perygl o halogiad. Ymddiheurwn am ddefnyddio cymaint o blastig, ond mae’n fioddiraddadwy ac mae eich iechyd chi’n bwysig i ni.”

 

Ar 17 Mawrth fe wnaethon nhw gyhoeddi’r canlynol:

Wrth i’r coronafeirws ledaenu ar draws y DU, rydym ni’n cymryd camau rhagweithiol i sicrhau eich bod chi mor ddiogel â phosibl wrth ddod i gasglu eich llysiau. Gobeithio eich bod chi i gyd yn iach, yn gallu bwyta’n dda, ac yn bwysicaf oll yn dawel eich meddwl yn ystod cyfnod sy’n gallu teimlo’n bryderus ac yn anodd iawn.

Rydym ni wedi gwneud ychydig o addasiadau i’n siop hunanwasanaeth o’r wythnos hon ymlaen.

Rydym ni wrthi’n gosod sinc golchi dwylo ger y siop, reit y tu allan, felly defnyddiwch hwn a’r sebon a ddarperir cyn ac ar ôl i chi gasglu eich llysiau. Rydym hefyd wedi archebu glanweithydd dwylo yn y siop i gwsmeriaid ei ddefnyddio.

Bydd unrhyw eitemau salad neu lysiau gwyrdd rhydd yn cael eu rhoi yn ôl mewn bagiau caeedig am y tro.

Byddwn yn diheintio ac yn glanhau pob arwyneb yn y siop, ynghyd â handlen y drws mor aml â phosibl drwy gydol amseroedd casglu.

Gofynnwn i chi fod yn amyneddgar ac i alluogi un cwsmer fod yn y siop ar y tro, gan aros iddynt ddod allan cyn i chi fynd i mewn.

Mae gennym rywfaint o gapasiti i ddosbarthu bocsys i gwsmeriaid yn yr ardal leol sy’n arbennig o agored i gael eu heffeithio gan y coronafeirws - mae hyn yn golygu unrhyw gwsmeriaid dros 70 mlwydd oed a/neu’r rhai gyda phroblemau awtoimiwnedd neu anadlol, neu unrhyw gyflwr arall sy’n eich rhoi mewn perygl. Os hoffech fanteisio ar y gwasanaeth hwn, cysylltwch â ni.

Hefyd, byddem yn argymell, os yn bosibl, eich bod yn ymweld â ni ar adegau llai prysur er mwyn cyfyngu ar gyswllt rhwng pobl - cofiwch fod y siop yn un hunanwasanaeth a gallwch alw heibio 24/7 heblaw ar ddydd Mercher. Ein hamseroedd llai prysur yw:

  • cyn 9am bob dydd; 
  • ar ôl 6pm bob dydd; 
  • mae’r boreau yn dawelach na’r prynhawniau fel arfer.

Byddwn yn parhau i adolygu ein cynlluniau wrth i bethau ddatblygu, ond mae croeso i chi awgrymu syniadau. 

Hoffem eich sicrhau, fel y rhai sy’n tyfu’r mwyafrif o’r cynnyrch yn y bocsys llysiau ar hyn o bryd, na fyddwn yn rhoi’r gorau i dyfu na chyflenwi llysiau ffres bob wythnos, beth bynnag sy’n digwydd. Mae ein cyflenwr tatws, nionod a llysiau gwraidd wedi ein sicrhau y gallant barhau i'n cyflenwi hefyd, fel y gallwch barhau i gael eich llysiau ffres iach sy'n rhoi hwb imiwnedd.

Credwn, ar adegau fel y rhain, fod cynlluniau amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned leol fel ein un ni yn hanfodol, a beth bynnag sy'n digwydd, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau eich bod yn parhau i dderbyn llysiau lleol sydd wedi’u cynhyrchu’n gynaliadwy.

Ffig 1. Cyfleusterau golchi dwylo a mainc aros y tu allan i siop Tyddyn Teg ar y safle.

 

Yn ôl erthygl gan y BBC ar 27 Ebrill 2020 “mae ffermydd ffrwythau a llysiau yn ffynnu yn ystod yr argyfwng coronafeirws”. Roedd arolwg diweddar yn nodi “cynnydd dramatig yn y galw” ac mae’r galw hwn wedi parhau trwy gydol y pandemig.

Gan ymateb i anghenion cwsmeriaid yn rhagweithiol ac yn sensitif trwy gyfnod o argyfwng cwbl ddigynsail, mae Tyddyn Teg wedi gallu cynyddu eu sylfaen cwsmeriaid ar gyfer y cynllun bocsys llysiau a pharhau i ddarparu cyflenwad lleol di-dor. Gyda’r galw am ffrwythau a llysiau lleol bellach dan y chwyddwydr, nawr yw’r amser i ffermwyr edrych ar y posibilrwydd o arallgyfeirio i fentrau garddwriaeth ochr yn ochr â’u gweithgareddau ffermio presennol, gan ddod â ffrwd incwm newydd, datblygu cysylltiadau cryfach gyda’r gymuned leol ac atgyfnerthu’r economi leol yng Nghymru.
 

Ffig 2. Llysiau ffres a dyfwyd ar fferm Tyddyn Teg

 

Mae Cyswllt Ffermio wedi ymrwymo i gefnogi ffermwyr yn ystod y cyfnod heriol a chyfnewidiol hwn drwy gynnig gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant. Os oes gennych ddiddordeb archwilio cyfleoedd ym maes garddwriaeth, cysylltwch â Debbie Handley, Swyddog Technegol Garddwriaeth Gogledd Cymru ar debbie.handley@menterabusnes.co.uk neu cliciwch yma.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cynllun gwrthsefyll newid hinsawdd ar gyfer Busnesau Garddwriaeth yng Nghymru
Ydych chi erioed wedi meddwl sut i wella perfformiad eich diadell? Sut gallai’r 2 cilogram o bwysau ychwanegol hwnnw fesul oen effeithio ar eich perfformiad ariannol? Meddyliwch am eneteg.
17 Hydref 2024 Mae Cyswllt Ffermio yn edrych ymlaen at ail-agor y
Ymweld ag Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio: Arddangosiad o Ragoriaeth Amaethyddol
14 Hydref 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi cwblhau cyfres