18 Mehefin 2020

 

Dr Cate Williams: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Mae cnydau a dyfir gartref yn cynnig mantais economaidd ac amgylcheddol dros ddwysfwyd a brynir i mewn a silwair.
  • Ceir nifer o wahanol opsiynau gan ddibynnu ar leoliad y fferm, math o dir a phridd, math o fenter a gofynion o ran maeth.
  • Er mwyn pesgi gwartheg bîff, mae egni metaboladwy, cynnwys protein a starts yn faetholion pwysig er mwyn sicrhau cynnydd da bob dydd, gan leihau’r risg o asidosis yn y rwmen.
  • I rai, gallai pesgi oddi ar y borfa fod yn opsiwn. Mae’n ddewis rhatach na phrynu bwyd i mewn, pan fod porfeydd yn cael eu rheoli’n dda gan ddefnyddio systemau pori cylchdro.

 

Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae systemau cynhyrchu da byw wedi mynd yn fwy dwys, gydag anifeiliaid mwy cynhyrchiol sydd angen mwy o borthiant sy’n llawn maetholion a phrotein. O ganlyniad, mae dibyniaeth ar brotein llysiau wedi cynyddu. Mae blawd ffa soia yn cael ei ystyried yn gynhwysyn ‘safon aur’ mewn dwysfwydydd anifeiliaid, gan ddarparu lefelau uchel o brotein ac egni ar gyfer pesgi ac er mwyn cynhyrchu llaeth. Fodd bynnag, nid yw amaethyddiaeth tir âr yn y DU yn gallu bodloni’r galw am ffa soia, yn bennaf o ganlyniad i’r hinsawdd dymherus, felly mae ffa soia wedi’u mewnforio yn llenwi’r bwlch hwn i raddau helaeth. Mae’r DU bellach yn mewnforio o ddeutu 2 miliwn tunnell o ffa soia bob blwyddyn, gyda 90% ohono’n cael ei ddefnyddio mewn dwysfwyd anifeiliaid a’r mwyafrif ohono’n dod o’r Unol Daleithiau a De America. Er nad yw’r broses o dyfu’r ffa soia nag unrhyw fath arall o ffa yn broblematig ynddo’i hun, mae graddfa ei gynhyrchiant yn achosi problemau.  Mae systemau ungnwd mawr yn arwain at nifer o broblemau amgylcheddol - digoedwigo i wneud lle ar gyfer plannu, erydiad a disbyddu pridd, defnyddio mwy o blaleiddiaid a chynnydd mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr o ganlyniad i gynaeafu a chludo. O ganlyniad, mae nifer o ffermwyr y DU bellach yn edrych ar gynhyrchu cnydau a dyfir gartref, sydd nid yn unig yn lleihau’r effaith ar yr amgylchedd, ond hefyd yn gallu cael effaith sylweddol ar broffidioldeb, gan fod bwydydd a brynir i mewn yn cynrychioli cyfran fawr o gostau nifer o ffermydd (oddeutu 75% mewn systemau pesgi bîff). Mae newidiadau o’r fath i’w gweld ar draws ystod o ddiwydiannau, o ddofednod a phorc i laeth a bîff ac mae’r potensial ganddynt i wneud ffermio’n fwy cynaliadwy yn gyffredinol. Bydd yr erthygl hon yn canolbwyntio ar y diwydiant pesgi bîff.

 

Nifer o opsiynau…

Haidd

Mae haidd yn gnwd poblogaidd yn y DU ac mae’n gwneud yn dda mewn hinsawdd dymherus. Haidd yw’r grawn mwyaf treuliadwy i anifeiliaid cnoi cil ar ôl ceirch a gwenith, ac mae’n cynnig lefelau uchel o starts ac egni o ganlyniad i’w gyfradd eplesu sydyn. Anfantais lefelau starts uchel wrth gwrs yw asidosis yn y rwmen. Mae grawn uchel mewn starts megis haidd yn cynhyrchu asid. Mae’r rwmen yn gallu ymdopi gydag ychydig o asid, ond mae’r lefel uchel sy’n cael ei borthi mewn systemau pesgi’n golygu nad yw’r rwmen yn gallu amddiffyn ei hun. Mae poblogaeth ficrobaidd y rwmen yn lleihau o ran amrywiaeth, sefydlogrwydd a’r gallu i eplesu, gan amddifadu’r anifail o’r maetholion. Nid yw perfedd anifeiliaid cnoi cil yn dda iawn am dreulio starts, felly mae’n bosibl y byddai grawn hefyd yn casglu yng ngholuddyn yr anifail oherwydd diffyg ensymau sy’n diraddio starts.  Gall hyn hybu twf bacteria gwenwynig a allai arwain at gymhlethdodau iechyd difrifol. Mae cynnwys starts, ac felly’r gyfradd eplesu, yn amrywio gan ddibynnu ar y cyltifar haidd. Felly, mae’n bwysig nodi’r gwahaniaethau hyn fel bod ffermwyr yn gallu dewis a bwydo’r amrywiaethau mwyaf addas i sicrhau’r cynhyrchiant gorau heb beryglu iechyd y rwmen.

Mae haidd yn ffynhonnell dda o brotein crai a’r asidau amino lysin, methionine a tryptophan (tabl 1). Nid yw gwartheg yn gallu cynhyrchu’r asidau amino hyn eu hunain  felly mae’n rhaid iddynt eu derbyn drwy’r diet. Yn aml, yr asidau amino mwyaf prin yw methionin, lysin a cystein, ac mae haidd yn cynnig mwy o’r rhain nag India corn neu wenith. Mae haidd hefyd yn is o ran starts a braster o’i gymharu ag India corn a gwenith (Tabl 1). Fodd bynnag, gall haidd fod yn isel o ran fitaminau a chalsiwm, ac o ganlyniad, bydd anifeiliaid angen ychwanegion yn eu diet.

Maetholion

Haidd

India corn

Gwenith

Deunydd Sych

880

880

880

Protein Crai (CP)

115

88

135

Protein Crai Anniraddadwy (g/kg CP)

280

500

250

Ffibr glanedol niwral

181

108

118

Ffibr glanedol asidig

60

30

40

Starts

570

720

770

Braster

19

38

22

Lludw

23

14

17

Lysin

4.3

2.1

3.5

Methionin + Cysteine

4.2

3.0

5.1

Tryptophan

1.8

0.9

1.5

Tabl 1: Cyfansoddiad maethol haidd, India corn a gwenith wrth eu bwydo, Nikkhah, 2012.

 

Mae rheoli’r broses o fwydo haidd yn hanfodol, a dylid cyfyngu ar faint sy’n cael ei gynnwys er mwyn diogelu iechyd y rwmen. Mae hefyd yn bwysig ystyried y dull prosesu, ynghyd â’r math, gan y bydd hyn yn effeithio ar ei gynnwys maethol. Y prif ddulliau o brosesu haidd yn y DU yw rholio neu grimpio, ond gellir hefyd bwyd haidd yn ‘gyfan’. Mae astudiaethau wedi dangos bod bwydo haidd yn gyfan yn lleihau treuliadwyedd o oddeutu 48% ac yn arwain at nifer fawr o’r cnewyll yn cael eu hysgarthu, gan ddangos treuliad anghyflawn. Mae prosesu’n cynyddu gwerth maethol yr haidd yn sylweddol gan nad oes modd difrodi’r cibyn ffibrog yn ddigonol wrth gnoi, sy’n cyfyngu mynediad at y maetholion allweddol sydd ar gael tu mewn. Mae’r penderfyniad ynglŷn â chrimpio neu rolio yn dibynnu ar y cynhyrchydd, ond mae’n debyg y gallai crimpio fod yn fwy buddiol. Mae crimpio haidd yn cynnig y cyfle i gynaeafu’n gynt (gan ganiatáu ar gyfer hau cnydau dilynol ynghynt) ac yn gwaredu’r angen i sychu gan fod y grawn yn cael ei gywasgu yn y clamp, yn debyg iawn i silwair. Y brif anfantais sy’n gysylltiedig â chrimpio fodd bynnag yw bod angen offer arbenigol, ynghyd â chadwolion, fodd  bynnag, mae’n bosibl y byddai modd cydbwyso’r buddsoddiad cychwynnol hwn ynghyd ag ychwanegu fitaminau, wrth ystyried costau bwyd a brynir i mewn.

Yn 2020, heuwyd 26 erw o haidd ar  fferm arddangos Cyswllt Ffermio, Bodwi i ymchwilio i effeithiolrwydd crimpio a’i gynnwys mewn dogn pesgi, gyda chynlluniau posibl ar gyfer tyfu a bwydo silwair meillion coch. Mae’r safle’n anelu at leihau eu costau prynu bwyd i mewn a allai eu helpu i wneud y busnes yn fwy cynaliadwy a lleihau ôl troed carbon y fferm.

 

Gwenith

Gwenith yw’r cnwd âr mwyaf yn ôl ardal yn y DU, gan gynhyrchu 14-16 miliwn tunnell y flwyddyn, a chyflenwi’r diwydiant malu ym Mhrydain ac allforio swm sylweddol i wledydd tramor. Fel bwyd i anifeiliaid, mae gwenith yn debyg i haidd o ran proffil maeth, gan gynnwys grawn sy’n isel mewn ffibr, uchel mewn egni ac uchel mewn starts. Mae gwenith yn cynnig lefelau uwch o starts o’i gymharu â haidd ac India corn, ac o ganlyniad, mae asidosis yn y rwmen yn broblem gyffredin ymysg gwartheg sy’n cael eu bwydo ar wenith (Tabl 1). Mae astudiaethau wedi dangos er nad yw defnyddio gwenith yn hytrach na haidd yn effeithio ar dreuliadwyedd cyffredinol, mae’n achosi newidiadau ym mhoblogaeth ficrobaidd y rwmen, gan gynyddu niferoedd bacteria sy’n gyfrifol am ddiraddio starts a chynyddu’r cyfnod pan fo pH yn mynd yn is na 5.8. Mae tystiolaeth o’r fath yn awgrymu y gallai haidd fod yn well na gwenith o ran iechyd y rwmen neu y dylid bwydo gwenith yn ofalus.

 

Fel haidd, mae gwenith yn cynnig lefelau cymedrol o brotein crai, a’r asidau amino methionin a lysin yn ogystal â cystein, fodd bynnag, gall y grawn fod yn isel o ran fitaminau a chalsiwm (Tabl 1). O ganlyniad, dylid bwydo grawn gwenith yn ofalus (40% neu’n llai) ar y cyd â phorthiant o ansawdd uchel i osgoi asidosis ac ychwanegu fitaminau ychwanegol. Mae’n rhai prosesu gwenith hefyd, drwy ei rolio gan amlaf, i allu cyrraedd y maetholion yn y cibyn. Mae astudiaethau cynnar yn edrych ar borthi gwenith heb ei brosesu’n dangos cynnydd o 18% mewn cymeriant bwyd a bod y bwyd sy’n ofynnol ar gyfer pob lb o gynnydd wedi cynyddu 15.8%, gan wneud gwenith cyflawn yn borthiant drud ac aneffeithiol. Gall prosesu eithafol hefyd arwain effeithio’n negyddol ar y cnwd, gan gynhyrchu gwenith gyda gwead fel blawd.


India Corn

Gellir bwydo India Corn ar ffurf grawn wedi’i grimpio neu fel silwair ac mae’n borthiant poblogaidd er mwyn pesgi gwartheg bîff yn y DU. Fodd bynnag, nid yw pob ardal yn y DU yn addas ar gyfer tyfu India Corn - mae’r mwyafrif yn cael ei hau yng nghanolbarth i Dde Lloegr ac ardaloedd cysgodol yng Nghymru. O ganlyniad, mae’n bwysig asesu’r tir o ran lleoliad, math o bridd ac uchder cyn dewis hau cnwd India corn.

Fodd bynnag, mae India corn yn cynnig nifer o fuddion, o safbwynt economaidd ac o safbwynt maeth. Fel gwenith a haidd, mae India corn hefyd yn uchel mewn starts, ac felly egni, ond o’i gymharu â haidd, mae India corn yn cynnwys mwy o starts anniraddadwy yn y rwmen neu starts dargyfeiriol. Mae hyn yn golygu nad oes modd i oddeutu 35% o gyfanswm y starts gael ei dreulio yn y rwmen ac mae’n symud i’r coluddyn bach. Mae hyn yn arwain at ryddhau’r egni’n araf ac mae’r risg o asidosis yn y rwmen yn llawer is. Fodd bynnag, mae India corn yn cynnwys ychydig yn llai o brotein na gwenith na haidd (9-10%) felly bydd angen ei gydbwyso gyda bwyd arall sy’n uchel mewn protein. Bu astudiaeth gan Brifysgol Harper Adams yn edrych ar berfformiad teirw a gafodd eu pesgi ar ddiet yn seiliedig ar haidd o’i gymharu â diet India corn wedi’i grimpio. Darganfuwyd yn ystod yr astudiaeth fod y rhai a oedd wedi’u pesgi ar India corn wedi’i besgi yn sicrhau gwell cynnydd pwysau byw dyddiol, yn pesgi’n gynt (141 o’i gymharu â154 diwrnod) ac yn pwyso mwy ar y bach (o 6kg). Yn ogystal, roedd y rhai a oedd wedi cael eu bwydo ar ddiet yn seiliedig ar India corn yn ddioddef llai o glwyfau ar yr iau, sy’n gallu awgrymu asidosis yn y rwmen. Mae’n bwysig pwyso a mesur manteision ac anfanteision porthiant, ac mae India corn yn gnwd mwy diogel o ran asidosis yn y rwmen ac yn helpu anifeiliaid i berfformio’n dda, ond dylid hefyd ystyried yr ochr economaidd o ychwanegu protein.

 

Opsiwn arall ar gyfer bwydo India corn yw ar ffurf sgil-gynhyrchion - grawn o ddistyllwyr India corn neu borthiant glwten India corn. Mae’r ddau ddull yma o brosesu’n cynhyrchu cynnyrch gyda lefelau protein crai uwch (20-25%) gan gynnal lefelau egni. Mae grawn distyllwyr India corn yn benodol yn cynnig ffibr treuliadwy iawn a lefelau uchel o brotein dargyfeiriol (neu brotein anniraddadwy yn y rwmen). Mae protein dargyfeiriol yn dianc o’r rwmen ac yn parhau i deithio i’r coluddyn lle gellir ei amsugno at ddefnydd yr anifail yn hytrach na microbiom y rwmen. Fodd bynnag, gall proffil maetholion grawn o ddistyllwyr India corn fod yn amrywiol iawn, ac mae cynaliadwyedd ac arfaeledd yn dibynnu ar leoliad daearyddol. Gall lefelau uchel o olew hefyd gyfyngu ar eu defnydd, gan na ddylai brasterau fod yn uwch na 5% o ddiet anifeiliaid cnoi cil. Unwaith eto, mae’n bwysig pwyso a mesur y manteision a’r anfanteision, a gwneud penderfyniad yn seiliedig ar sefyllfa unigol pob fferm wrth ddewis porthiant.

 

Pesgi ar laswellt

Opsiwn arall yn hytrach na phesgi gwartheg bîff dan do ar ddwysfwyd yw eu pesgi ar y borfa. Mae defnyddio glaswellt o ansawdd uchel, sy’n dreuliadwy iawn, yn rhatach na phrynu porthiant i mewn ac mae modd cyflawni hyn drwy reolaeth dda a rhoi ystyriaeth ddigonol i’r farchnad darged. Yn yr haf, mae digonedd o laswellt ar gael fel arfer gydag amodau da ar gyfer pori, ac anaml iawn y mae angen rhoi dwysfwyd ychwanegol. Fodd bynnag, mae’n bosibl y byddai angen rhoi ychwanegion yn ystod yr hydref. Mae heffrod a bridiau cynhenid yn benodol wedi’u haddasu’n dda ar gyfer pesgi ar y borfa, ond mae’n bosibl y bydd angen dwysfwyd ychwanegol ar fridiau cyfandirol gyda chyfradd twf arafach. Gall stocio’r caeau’n fwy dwys yn ystod y gwanwyn ac yna lleihau’r cyfraddau’n hwyrach yn y tymor helpu i gynnal uchder ac ansawdd y borfa, yn enwedig ar y cyd â dulliau pori cylchdro.  Serch hynny, mae glaswellt yr hydref yn dal i fod yn opsiwn mwy fforddiadwy na silwair neu ddwysfwyd ac mae ychwanegu dwysfwyd am gyfnod byr yn lleihau’r angen am silwair mwy costus yn ddiweddarach yn y tymor. Egni heblaw protein yw’r ffactor sy’n cyfyngu ar laswellt yr hydref, felly mae’n bwysicach i ddefnyddio caeau sy’n cynnwys mwy o egni na chaeau sy’n cynnwys lefelau protein uchel.

Gall diet anifeiliaid cnoi cil hefyd effeithio ar y cynnyrch terfynol o ran ansawdd, cyfansoddiad a nodweddion synhwyraidd. Mae nifer o astudiaethau’n nodi bod proffil asidau brasterog cig o anifeiliaid sydd wedi pori glaswellt yn benodol yn wahanol i gig gwartheg sydd wedi’u pesgi ar ddwysfwyd. Er bod cig o’r anifeiliaid sydd wedi cael eu pesgi ar y dietau hyn yn gymharol debyg o ran cynnwys braster dirlawn (SFA), mae’r rhai sydd wedi’u pesgi ar laswellt yn cynhyrchu cig gyda lefel uwch o frasterau poly-annirlawn sy’n fuddiol i’r iechyd (PUFA), omega-3 ac omega-6 yn bennaf.  Mae astudiaethau wedi dangos bod lliw cig yr anifeiliaid a oedd wedi’u pesgi ar y borfa yn dywyllach fel arfer, sy’n cael ei ddylanwadu mae’n debyg gan gyfuniad o ffactorau, gan gynnwys mwy o symudiad yn yr awyr agored yn y cae. Nid oes consensws o ran gwahanol flas rhwng y ddau fath o ddiet - mae rhai’n honni bod anifeiliaid sydd wedi’u pesgi ar y borfa’n blasu’n well nag anifeiliaid sydd wedi’u pesgi ar rawn, ac eraill yn dweud y gwrthwyneb. Fodd bynnag, ceir cynnydd pendant yn niddordeb y cwsmeriaid mewn bîff sydd wedi’i besgi ar y borfa - ystyrir bod safonau lles yn uwch, ynghyd â buddion posibl o ran iechyd. O ganlyniad, mae cwsmeriaid yn fodlon talu prisiau uwch. 

 

Codlysiau

Er mwyn cynyddu’r protein yn y  borfa a/neu’r silwair, mae’n bosibl y gellir ystyried defnyddio codlysiau. Gall codlysiau hefyd gynyddu cymeriant deunydd sych a chynnig mantais ychwanegol o allu sefydlogi nitrogen. Mae nitrogen atmosfferig yn cael ei gipio a’i drosi gan facteria symbiotig yn y gwreiddiau i’w droi’n ffurf sy’n ddefnyddiol i’r planhigyn. Mae hyn yn gyfwerth â 100-150kg N/ha y flwyddyn ar gyfer cymysgedd meillion gwyn, 150-250kg N/ha y flwyddyn ar gyfer cymysgedd meillion coch, gan leihau’r angen i ddefnyddio gwrtaith nitrogen, sy’n cynnig buddion economaidd ac amgylcheddol. 

Mae’n bosibl mai’r codlysiau mwyaf poblogaidd i’w defnyddio ar gyfer da byw yw meillion coch a gwyn. Mae’r ddwy rywogaeth yn cynnig lefelau protein uwch o’i gymharu â rhygwellt parhaol (PRG) ac mae meillion gwyn yn cynnwys mwy o fwynau, magnesiwm, calsiwm ffosfforws, copr a seleniwm. Mae meillion coch hefyd yn cynhyrchu’r ensym polyphenol oxidase (PPO) sy’n gweithio i ddiogelu’r protein sy’n cael ei storio yn y planhigyn. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol mewn silwair sy’n cynnwys protein o ansawdd uwch ac ar lefel uwch na silwair rhygwellt parhaol (14-19% o’i gymharu â 13.8% yn y drefn honno). Mae cymysgeddau sy’n cynnwys meillion coch yn cynhyrchu mwy yn gyson na rhygwellt parhaol yn unig pan fydd yn cael ei dorri fel silwair ac mae’n dueddol o berfformio’n well na meillion gwyn yn yr agwedd hon. O ganlyniad, mae nifer o ffynonellau’n argymell meillion gwyn ar gyfer pori a meillion coch ar gyfer silwair. Mae cymysgeddau meillion a llyriad wedi cael eu profi i gynyddu cymeriant porthiant o’i gymharu ag ungnwd rhygwellt parhaol, gan ddangos perthynas linellol rhwng % y meillion a chymeriant deunydd sych. Yn gyffredinol, y gyfradd o feillion gwyn a argymhellir ar gyfer pori gwartheg yw 30%, a byddai gwaith ymchwil pellach i ganfod y cyfraddau gorau posibl ar gyfer gwartheg bîff yn ddefnyddiol.

Mae dwy anfantais allweddol yn ymwneud â defnyddio meillion coch mewn porfeydd neu silwair. Y cyntaf o’r rhain yw ei fod yn gnwd tymor byr, yn para rhwng 3-4 mlynedd, ond gall meillion gwyn bara am hyd at 10 mlynedd os bydd yn cael ei reoli’n dda. Yr ail yw’r risg o glwy’r boten sy’n cael ei achosi gan brotein o’r meillion coch yn cael ei dorri i lawr yn sydyn gan arwain at gynhyrchu llawer o wynt yn fewnol. Wrth i’r rwmen chwyddo, mae’n rhoi mwy o bwysau ar organau mewnol eraill, yn enwedig yr ysgyfaint. Fodd bynnag, drwy reoli’n effeithiol, mae’n bosibl lleihau’r risg o glwy’r boten yn sylweddol - drwy gyfyngu ar fynediad at feillion pan mae’r da byw’n cael eu troi allan yn y lle cyntaf, cynnig ffibr ychwanegol megis gwair neu wellt neu drwy roi ychwanegion i atal chwydd. Ychydig iawn o risg o glwy’r boten sydd wrth fwydo meillion coch, fodd bynnag. Ar y cyfan, mae cynnwys meillion mewn porfeydd neu silwair yn cynnig nifer o fuddion posibl, o safbwynt perfformiad yr anifail, ar gyfer yr amgylchedd a phroffidioldeb y busnes fferm.

 

Crynodeb

Wrth i ffermwyr y DU wynebu pwysau cynyddol i fod yn fwy effeithlon a chynhyrchiol a lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd ar yr un pryd, mar nifer yn edrych ar leihau faint o borthiant a brynir i mewn. O ganlyniad, mae rhai’n ystyried plannu eu cnydau porthiant eu hunain - boed hynny’n rawn neu’n laswellt ar gyfer silwair neu bori. Mae gan gnydau a dyfir gartref botensial i leihau ôl troed carbon ffermwyr drwy waredu gweithgareddau mewnforio a’r nwyon tŷ gwydr sy’n gysylltiedig â chludiant; gallai’r newid hwn hefyd gyfrannu at leihau problemau amgylcheddol i’r wlad sy’n allforio. yn ogystal, er y bydd angen buddsoddiad cychwynnol, mae tyfu a chynaeafu cnydau ar y fferm gartref yn fwy ymarferol yn economaidd na phrynu bwyd i mewn. Fodd bynnag, mae’n rhaid dewis pa gnwd i’w dyfu. Er y bydd y penderfyniad yn ddibynnol ar nifer o ffactorau eraill, mae’n debygol mai maeth yr anifeiliaid fydd y brif ystyriaeth. Yn enwedig o ran pesgi bîff, mae egni metaboladwy a phrotein yn gydrannau allweddol o’r porthiant, ond dylid hefyd ystyried lefelau starts. Mae cydbwyso lefelau starts mewn porthiant er mwyn darparu digon o egni a sicrhau cynnydd pwysau byw dyddiol, a lleihau’r risg o asidosis ar yr un pryd, yn hanfodol. Gallai hefyd fod yn werth ystyried yr asidau amino unigol mewn porthiant - gan fod asidau amino hanfodol yn gydran werthfawr mewn porthiant. Mae’n bosibl bod potensial hefyd i besgi oddi ar laswellt, er mae’n bosibl y bydd angen dwysfwyd ategol wrth i’r hydref agosau, ac yn enwedig ar gyfer bridiau cyfandirol. Fodd bynnag, pan fydd y borfa’n cael ei rheoli’n dda, mae pesgi ar laswellt yn opsiwn rhatach na dwysfwyd a brynir i mewn a silwair, yn enwedig o ystyried diddordeb cynyddol gan gwsmeriaid mewn bîff sydd wedi’i besgi ar laswellt.

 

Cliciwch yma i weld fersiwn PDF o'r erthygl hon.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cynllun gwrthsefyll newid hinsawdd ar gyfer Busnesau Garddwriaeth yng Nghymru
Opsiynau amgen ar gyfer deunydd gorwedd i wartheg llaeth: Tail sych wedi’i ailgylchu
Dr Natalie Meades: IBERS, Aberystwyth University. Mawrth 2024 Mae
Cyfleoedd ar gyfer sefydlu gwerth tail a slyri a’u defnydd mewn economi gylchol
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Ebrill 2024