22 Gorffennaf 2020

 

Bu Fferm Pantyderi, un o safleoedd arddangos Cyswllt Ffermio ym Moncath, yn cynnal gweithgaredd mapio priddoedd gan ddefnyddio technoleg sganio Dargludedd Trydan ar 60 hectar (ha) o dir a ddefnyddir ar gyfer tyfu grawn a 40ha o laswelltir.

Mae’r dechnoleg hon yn mapio sut mae nodweddion priddoedd yn amrywio ar draws pob cae. 

Gan ddefnyddio’r wybodaeth hon, rhannwyd y caeau ar fferm Pantyderi yn barthau rheoli, a chasglwyd samplau pridd i roi darlun clir er mwyn creu cyfradd amrywiol ar gyfer gwasgaru calch, gwrtaith a hau hadau.

Ar y tir âr mae hyn wedi caniatáu i’r ffermwyr Wyn ac Eurig Jones wneud arbedion o £720 mewn costau calch - yn hytrach na gwasgaru calch ar gyfradd sefydlog o 170 tunnell ar gost o £5,100, roedd y mapiau gwasgaru ar gyfradd amrywiol yn caniatáu i galch gael ei dargedu lle'r oedd ei angen, gan leihau'r cyfaint a wasgarwyd i 146 tunnell.

Mae'r fferm bellach yn tyfu cnwd o haidd gwanwyn gan reoli mewnbynnau ar gyfradd amrywiol, ac mae'n gweithio gyda Cyswllt Ffermio i gymharu perfformiad a chostau gyda chae cyfagos o haidd o'r un maint gyda phridd tebyg lle mae mewnbynnau'n cael eu defnyddio ar gyfradd sefydlog. 
 
Mewn rhannau o'r cae cyfradd amrywiol lle mae pridd yn salach, heuwyd hadau ar gyfradd uwch i gydbwyso cynnyrch y cnwd ar draws y cae. 

Defnyddiodd y contractwr y mapiau digidol a ddarparwyd ar gof bach sy’n cysylltu trwy system GPS y tractor a’r panel rheoli i ddarparu gwybodaeth ar gyfer y dril sy’n hau ar gyfradd amrywiol. 

Mae Cyswllt Ffermio yn monitro gwahaniaethau yn natblygiad cnydau rhwng y ddau gae a bydd yn cymharu'r cynnyrch adeg y cynhaeaf.

Maent wedi sicrhau arbedion ar y glaswelltir hefyd - ar gyfradd amrywiol, gwasgarwyd 171 tunnell o galch yn hytrach na’r 182 tunnell a fyddai wedi cael ei wasgaru ar gyfradd sefydlog; roedd hyn yn cynrychioli arbediad o £324.
 
Dywed Dr Delana Davies, Swyddog Gweithredol Cyfnewid Gwybodaeth gyda Cyswllt Ffermio, sy'n goruchwylio'r prosiect, fod un cae 6.86ha wedi amlygu gwerth mapio pridd. 

“Er bod pridd y cae cyfan yn cael ei ystyried yn lôm gwaddodlyd tywodlyd, mae dau o’r pedwar parth yn cynnwys priddoedd gyda mwy o dywod, ac mae’r ddau barth arall yn cynnwys cyfran uwch o silt a chlai.

“Pe bai pH cyfartalog y cae wedi llywio faint o galch oedd yn cael ei wasgaru ar gyfradd sefydlog, byddai dau barth wedi bod yn brin o galch, a byddai gormodedd wedi cael ei wasgaru ar y ddau barth arall.”

Cynhaliwyd y gwaith mapio a'r samplu pridd gan Ben Burgess o gwmni Agrii Rhiza, a chrëwyd y mapiau parth rheoli a’r argymhellion gwasgaru ar gyfradd amrywiol yn unol â’r mapiau.

Dywed fod mapio pridd yn golygu nad oes angen i ffermwyr drin pob cae yr un fath er mwyn gwella glaswelltir a chynnyrch cnydau erbyn hyn.

“Mae ffermwyr bob amser yn ceisio cael mwy o’u tir ond i wneud hyn, mae angen iddyn nhw wybod beth yw statws maeth eu priddoedd yn y lle cyntaf er mwyn deall sut allan nhw sicrhau ei fod yn perfformio’n well iddyn nhw,” meddai Mr Burgess.

Mae Cyswllt Ffermio wedi canfod ffordd arloesol o ymateb i’r ffaith bod digwyddiadau ar ffermydd wedi cael eu gohirio ar gyfer yr haf drwy gynnal cyfres o ddarllediadau digidol byw oddi ar ei safleoedd arddangos.

Bydd y darllediadau hyn yn mynd â'r digwyddiadau i ffermwyr, gan alluogi Cyswllt Ffermio i barhau i ymgysylltu â nhw yn ystod y pandemig.

Am ragor o fanylion, ewch i dudalen Beth Sydd Ymlaen Cyswllt Ffermio


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu