Gwella ffrwythlondeb a chyfraddau lloia buchesi godro yn y De-orllewin drwy ddiagnosio beichiogrwydd yn gynnar gan ddefnyddio protein B sy'n benodol i feichiogrwydd (PSPB)

Mae protein B sy’n benodol i feichiogrwydd (PSPB) i'w gael yng ngwaed y fuwch mor gynnar â 28-30 diwrnod ar ôl ei throi at y tarw ac fe allai hyn fod yn ddangosydd cynnar o feichiogrwydd. Mae ffrwythlondeb gwael yn broblem iechyd drud ar ffermydd llaeth ac mae'n bwysig dod o hyd i ateb i wella hyn mewn buchesi. Mae’n bosibl y gallai gwell ffrwythlondeb a diagnosio beichiogrwydd (PD) yn gynharach drwy brofi'r PSPB yn y gwaed wella cyfraddau beichiogi, gan leihau'r bwlch lloia ar y fferm a gwella cynhyrchiant llaeth o ganlyniad. Mae diagnosis cynnar nad yw’r fuwch yn feichiog drwy ddefnyddio'r dull PSPB hefyd yn golygu y gall y ffermwr ymchwilio i'r rhesymau pam nad yw'r fuwch yn feichiog a gwneud newidiadau priodol yn gynharach.

Mae pedwar ffermwr yn y De sy’n godro cyfanswm o ryw 2000 o fuchod, a phob un yn defnyddio system gynhyrchu wahanol, yn ymchwilio i weld a fydd diagnosio beichiogrwydd drwy ddefnyddio PSPB yn gwella ffrwythlondeb. Ar hyn o bryd, maen nhw i gyd yn defnyddio archwiliad o’r groth drwy grychguriadau neu offer uwchsain neu’n arsylwi ar estrws fel y dull o ddiagnosio beichiogrwydd ar y fferm. Mae'r dulliau hyn wedi bod yn arfer safonol ar ffermydd ers blynyddoedd lawer ac er bod crychguriadau’r rectwm yn rhad ac yn gyfleus i'r ffermwyr, dim ond o 5-6 wythnos (35-42 o ddiwrnodau) ar ôl i’r fuwch gael ei chyplu y gall y dull hwn ddiagnosio beichiogrwydd.


Cynllun y prosiect 

  • Yn y prosiect 12 mis hwn, bydd yr holl fuchod magu’n cael eu rhannu'n ddau grŵp ar hap. Mewn un grŵp bydd y diagnosis beichiogrwydd yn cael ei wneud drwy ddefnyddio sgan uwchsain ac yn y grŵp arall bydd beichiogrwydd yn cael ei ddiagnosio drwy ddefnyddio PSPB.
  • Wedyn bydd y ffermwyr yn parhau â'u rhaglen fridio arferol ar y fferm. Yn achos y buchod yn y grŵp PSPB, fe gaiff eu gwaed nhw ei samplu gan filfeddyg mor agos â phosibl at 28 diwrnod ar ôl eu troi at y tarw.
  • Yn dilyn y 12 mis o brofi, bydd y data o'r pedair fferm yn cael ei ddadansoddi a bydd cymhariaeth yn cael ei gwneud rhwng sganio uwchsain a PSPB. Bydd dadansoddiad cost-budd yn cael ei wneud hefyd.

Mae'r AHDB yn dweud bod ffrwythlondeb gwael ar y fferm ar hyn o bryd yn cyfateb i gyfartaledd cenedlaethol o 3.5 ceiniog y litr o gostau ychwanegol, o ganlyniad i fylchau hir rhwng pob llo a methiant i feichiogi. Gallai mabwysiadu dull o ddiagnosio beichiogrwydd, neu ddiffyg beichiogrwydd, yn gynnar hefyd leihau’r costau sy'n gysylltiedig â’r canlynol:

  • Colli cynhyrchiant llaeth drwy ormod o ddiwrnodau sych neu drwy ffeirio’r cyfnod cynhyrchu gorau am gyfnod llaetha diweddarach.
  • Aflonyddu ar y tymor lloia a’r patrwm cynhyrchu llaeth.
  • Gorfod cwlio am fod buchod nad ydyn nhw’n feichiog yn cael eu gweld yn hwyr, sy’n golygu bod angen mwy o anifeiliaid cadw (drwy eu prynu neu drwy eu magu).
  • Mynd i’r afael ag anffrwythlondeb ac ail-fridio anifeiliaid drwy ddefnyddio AI etc.
  • Triniaethau gan y milfeddyg.