18 Awst 2020

 

Er nad yw hyfforddiant arferol Cyswllt Ffermio wedi dychwelyd yn llawn hyd yn hyn o ganlyniad i gyfyngiadau Covid-19, gall cyrsiau hyfforddi wyneb i wyneb sy’n cael eu cynnal yn yr awyr agored yn unig ailddechrau ar unwaith. Mae hyn yn golygu bod hyfforddiant wyneb yn wyneb ar gael, ar yr amod bod rheoliadau Covid-19 presennol Llywodraeth Cymru’n cael eu bodloni a bod pob unigolyn yn cadw pellter o ddau fetr oddi wrth ei gilydd.  

Gellir hefyd cynnal hyfforddiant mewn siediau mawr, ysguboriau neu adeiladau allanol, lle gellir cadw at y rheol pellter dau fetr a rheoliadau Covid-19 eraill. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio y bydd ei chanllawiau'n agored i newid pe bai'r pandemig yn gwaethygu. Y gobaith yw y bydd modd ailddechrau hyfforddiant dan do Cyswllt Ffermio yn llawn yn yr Hydref. 
Mae Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Lantra Cymru, sydd, ynghyd â Menter a Busnes, yn darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, yn croesawu'r cyhoeddiad.

"Gyda holl hyfforddiant wyneb i wyneb Cyswllt Ffermio naill ai wedi'i ariannu'n llawn hyd at 80%, mae'n newyddion da iawn i'r diwydiant bod cymaint o gyrsiau wyneb i wyneb ar gael unwaith eto. 

"Mae datblygiad personol, busnes a thechnegol yn hanfodol wrth i ffermwyr a choedwigwyr baratoi ar gyfer dyfodol y tu allan i'r UE, a gyda dros 80 o bynciau i ddewis ohonynt, gallai nawr fod yn amser delfrydol i ddysgu rhywbeth newydd neu ehangu eich gwybodaeth ar bwnc penodol. 
"Bydd sgiliau newydd hefyd yn arbennig o fuddiol i'r rheini sydd wedi gorfod addasu eu model busnes oherwydd y newid yn amodau'r farchnad yn sgil y pandemig," meddai Mr Thomas, gan ychwanegu y bydd yr holl hyfforddiant Cyswllt Ffermio a gwblhawyd yn cael ei ychwanegu at gofnodion datblygiad proffesiynol 'Storfa Sgiliau' ar-lein pob hyfforddai.
 
Dylai unigolion cofrestredig sydd wedi derbyn cymeradwyaeth ar gyfer hyfforddiant wyneb i wyneb ond heb allu cwblhau’r cwrs am ei fod wedi’i ohirio yn sgil cyfnod clo’r pandemig, gysylltu â’r darparwr hyfforddiant a ddewiswyd ganddynt cyn gynted â phosib i drafod eu hopsiynau. Gall y rhai nad ydynt eisoes wedi gwneud cais am hyfforddiant a ariennir wneud hynny o fewn y cyfnod ymgeisio sgiliau nesaf rhwng 09:00 ddydd Llun 7 Medi a 17:00 ddydd Gwener 30 Hydref 2020.

Mae ystod hyfforddiant digidol neu 'o bell' Cyswllt Ffermio wedi cynyddu'n raddol ers dechrau’r pandemig ac mae bellach ar gael ar gyfer nifer o gyrsiau Cyswllt Ffermio gan gynnwys diogelwch bwyd, hyfforddiant sy'n gysylltiedig â busnes, hyfforddiant sy'n gysylltiedig â dofednod a phynciau iechyd a lles anifeiliaid.  

Gall opsiynau hyfforddi o fewn rhaglenni hyfforddiant TGCh ac iechyd anifeiliaid a ariennir yn llawn gan Cyswllt Ffermio gael eu darparu o bell, naill ai un-i-un neu fersiwn ‘rhithiol’ o’r gweithdy grŵp iechyd anifeiliaid er enghraifft. Yn ogystal, cafodd ystod o fodiwlau rhyngweithiol e-ddysgu a ariennir yn llawn gan Cyswllt Ffermio eu hadnewyddu a'u ehangu yn ddiweddar i gyflwyno mwy o bynciau.   

Am wybodaeth bellach am raglen sgiliau a dysgu gydol oes Cyswllt Ffermio, cysylltwch â'ch swyddog datblygu lleol neu eich darparwr hyfforddiant dewisol. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth, rhestr o'r holl ddarparwyr hyfforddiant a'r cyrsiau sydd ar gael ar hyn o bryd. 

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu