Mae perygl i bob ffermwr golli amser a cholli elw. Boed hynny’n amser sy’n cael ei dreulio’n edrych am baent ar gynffon buchod, neu’n aros am arwyddion lloea mewn buwch na fydd yn geni llo am ddyddiau. Mae’r cwmni technoleg amaeth Moocall wedi datblygu cynhyrchion arloesol i helpu ffermwyr i wneud y gorau o’u hamser.
Mae'r gweminar yn trafod y canlynol:
- Cost methu buchod yn lloea.
- Trosolwg o'r synhwyrydd lloea Moocall.
- Sut i ddefnyddio’r synhwyrydd lloea – arweiniad ar sut i'w osod
- Cael gwell elw gyda thechnoleg synhwyro buchod yn gofyn tarw.
- Darganfod yn fuan os nad yw’r tarw’n perfformio
- Sut i ddefnyddio’r Moocall HEAT – arweiniad ar sut i'w osod