2 Hydref 2020

 

Seiliwyd penderfyniadau ar ddata o ran tyfu glaswellt a’i ddefnyddio ar fferm odro yng Nghymru wrth iddi geisio dyblu faint o laeth a gynhyrchir ar laswellt yn ei buches gynhyrchiol sy’n lloea trwy’r flwyddyn.

Mae’r fuches Holstein ar Erw Fawr, safle arddangos Cyswllt Ffermio teuluol ger Caergybi, yn cynhyrchu cyfartaledd cynnyrch llaeth o 9,000 litr o laeth gan bob buwch.

Yn 2018, pan oedd hi’n anodd tyfu glaswellt oherwydd y tywydd eithriadol o oer yn y gwanwyn a haf sych iawn, dim ond 1,700 litr y fuwch o’r litrau hynny oedd yn dod o laswellt a borwyd a silwair.

Trwy eu gwaith prosiect gyda Cyswllt Ffermio, gan gynnwys gwella’r rheolaeth ar laswellt a’r defnydd ohono trwy fesur a llunio cyllideb, fe ellid llwyddo i gael 4,000 litr o bob buwch, dywedodd Ceredig Evans wrth wylwyr darllediad Yn Fyw o’r Fferm Cyswllt Ffermio o Erw Fawr.

Er bod y buchod mwyaf cynhyrchiol yn cael eu cadw dan do, sefydlwyd cylchdro o gwmpas y fferm i’r gwartheg sy’n cynhyrchu llai.

Glaswellt o safon uchel a borir yn awr yw’r gyfran fwyaf o ddogn buchod cyflo a llai cynhyrchiol sy’n cynhyrchu 25-30 litr y fuwch y dydd; cedwir 2.75 o unedau da byw'r hectar ar y padogau.

“Yn y gorffennol roedd y pori yn seiliedig ar reddf ond yn awr rydym yn defnyddio offer i gael gwybod faint o laswellt y gall y fferm ei dyfu a sut y gallwn stocio’r tir yn ystod amseroedd gwahanol yn y tymor tyfu,” esboniodd Ceredig, sy’n ffermio gyda’i wraig, Sara, a’i rieni, Ifan ac Ann.

Roedd y fferm yn arfer godro Friesians Prydeinig ond dechreuodd ddefnyddio geneteg Holstein 40 mlynedd yn ôl, gan sefydlu’r fuches ‘Branwen’ o 300 o fuchod pedigri, â’r llaeth yn cael ei werthu i Arla.

“Mae’n mynd i gymryd amser i’r gwartheg arfer â’r system ond mae gennym fwy o laswellt yn cael ei dyfu a mwy o fuchod yn pori,” dywedodd Ceredig.

Mae’r gwartheg sych yn cael eu cadw dan do ar ddiet trosglwyddo am chwe wythnos cyn lloea, i baratoi eu rwmen ar gyfer y cyfanswm mawr o borthiant yn ystod eu llaethiad nesaf.

Gwaith Sara yw mesur y glaswellt ac mae’n defnyddio mesurydd plât yn wythnosol yn ystod y tymor pori ac yn cofnodi’r data ar feddalwedd cyfrifiadurol.

Mae’r wybodaeth hon yn cael ei rhannu gyda gweddill y tîm yn wythnosol a’i ddefnyddio i benderfynu ar y dyraniad pori wythnosol.

Dywedodd yr hwsmon Martin Owen bod y glaswellt a gynhyrchir yn cael ei ddefnyddio i seilio penderfyniadau pori arno gan roi pwyslais ar sicrhau nad yw’r gyfradd dyfu yn mynd yn is na’r galw amdano.

Swyddog Technegol Llaeth Cyswllt Ffermio, Rhys Davies, sydd wedi bod yn goruchwylio’r prosiectau safle arddangos yn Erw Fawr.

Dywedodd eu bod wedi canfod y padogau gorau trwy gasglu data. Roedd 8.8tDM/ha trawiadol o laswellt wedi ei dyfu ar y fferm yn y flwyddyn hyd ddiwedd Awst.

Esboniodd Mr Davies sut y mae’r dyraniadau yn cael eu cyfrifo. “Os oes ar fuwch angen 15kgDM/dydd o laswellt sy’n cael ei bori, ar draws 100 o fuchod mae hynny’n golygu bod y gofyn glaswellt yn 1,500kgDM/y dydd.

“Bydd cae un hectar yr eir iddo ar 3,000kgDM/ha ac sy’n cael ei bori i lawr i 1,500kgDM/ha felly â 24 awr o borfa ar gael.’’

Roedd y wybodaeth a gasglwyd wrth fesur yn Erw Fawr wedi rhoi cyfle i gymryd camau i adfer padogau, ac efallai y bydd yn cael ei ddefnyddio yn y dyfodol ar gyfer arolygon hinsawdd o ran storio carbon.

“Rydym yn awr yn hapus iawn o ran mesur glaswellt, ond bydd y dyfodol yn ymwneud â chael cyflenwad glaswellt y fferm yn y lle iawn ar yr adegau iawn,” dywedodd Ceredig.

Mae cynllun ail-hadu yn yr hydref wedi ei sefydlu.

Bydd gwneud y mwyaf o’r glaswellt sydd ar gael yn helpu’r busnes i wella effeithlonrwydd y fuches, ei chynaliadwyedd a’i phroffidioldeb, ychwanegodd Ceredig.

Mae Martin yn aelod o grŵp llaeth uwch Rhagori ar Bori Cyswllt Ffermio ac roedd trafodaethau’r grŵp ac ymweliadau â ffermydd eraill wedi ei helpu i roi rhagor o wybodaeth iddo o ran godro ar sail glaswellt.

Roedd wedi ei annog i ganolbwyntio ar ddefnyddio bob blewyn o laswellt a dyfir ar y fferm, dywedodd.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu