8 Hydref 2020

 

Heddiw ar Ddiwrnod Aer Glân mae astudiaeth Cyswllt Ffermio wedi canfod y gallai defnyddwyr helpu cynhyrchwyr wyau i leihau lefelau amonia drwy brynu wyau gwyn ychydig yn llai, yn lle wyau brown mawr iawn.

Enillodd y ffermwr Llyr Jones fwrsariaeth drwy Raglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio i archwilio sut all cynhyrchwr wyau maes greu llai o amonia wrth gynhyrchu wyau. 

Mae Llyr yn rhedeg uned wyau maes â 16,000 o ieir yn Derwydd, Llanfihangel Glyn Myfyr ger Corwen, ac mae ganddo fwriad i adeiladu ail uned, gan ddyblu nifer yr ieir yn ei system.

Ond cyn bwrw ymlaen, roedd yn awyddus i archwilio’r arferion gorau ar sut i leihau lefelau amonia a chadw’r un lefel cynhyrchiant ar yr un pryd. 

Aeth astudiaeth Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio Llyr ag ef i’r Iseldiroedd – i Kipster, fferm wyau di-garbon sy’n cadw ieir gwyn.

Mae’r ieir hyn yn dodwy wyau gwyn sy’n pwyso ar gyfartaledd 62g; bydd iâr wen yn bwyta 118g/dydd i gynhyrchu wy o’r maint hwn.

Mewn cyferbyniad, mae iâr frown angen 125g/dydd i gynhyrchu wy 63g. 

Mae ieir gwyn, yn ogystal ag yn bwyta llai o borthiant, hefyd yn dodwy am 80 wythnos ar gyfartaledd o’i gymharu ag ieir brown sy’n dodwy am 74 wythnos.

“Bydd angen i archfarchnadoedd a defnyddwyr ‘gloddio’n ddwfn’ a thalu pris uwch am nwyddau a bwyd nad ydynt yn gwneud niwed i’r amgylchedd,” awgryma Llyr.

“Mae’n bosibl y bydd angen i ddefnyddwyr wneud newidiadau bach, fel prynu wyau gwyn, ychydig yn llai yn hytrach nag wyau brown mawr iawn a phrynu bwyd tymhorol lleol yn hytrach na’i hedfan o ben arall y byd er mwyn gallu ei werthu’n ffres.”

Ar ei ymweliad â’r Iseldiroedd aeth Llyr hefyd i bencadlys Jansen Poultry Equipment, sef cwmni sy’n cynhyrchu peiriannau lleihau amonia. 

Mae’r peiriannau sychu hyn, sy’n costio £45,000, yn sychu tail ieir o 30% deunydd sych i 60%, gan leihau’r lefelau amonia 30%.

Ychydig iawn o bŵer mae’n ei ddefnyddio, eglura Llyr, gan ei fod yn rhedeg y tail dros 200m o feltiau. 

Mae’r cwmni hefyd yn cynhyrchu sgwriwr amonia cemegol sy’n lleihau amonia 90%.

Caiff aer o’r sied ieir ei wthio i mewn i’r sgwriwr aer cemegol, lle caiff asid sylffwrig ei chwistrellu ar yr aer; mae’r asid yn glynu wrth yr amonia, ac yna caiff dŵr ei ychwanegu i leihau’r lefel pH i niwtral, meddai Llyr.

“Gall y ffermwr gynhyrchu 60m3 o wrtaith gyda gwerth N o 20%.

“Mae’r arbediad a geir drwy beidio â phrynu gwrtaith i mewn yn talu’n hawdd am gost rhedeg y sgwriwr aer cemegol. Anfantais y sgwriwr cemegol yw’r gost adeiladu. Oherwydd bod angen defnyddio dur gwrthstaen, mae’r gost adeiladu yn £90,000, ac mae’r costau rhedeg yn £5,000 y flwyddyn.”

Bu Llyr hefyd yng Nghynhadledd Strategaeth Datblygu Coetir Ffermydd y DU ar Aer Glân yng Nghaeredin a hefyd yn y Sefydliad Biowyddorau yng Ngogledd Iwerddon.

O ganlyniad i’w astudiaeth, mae’n dod i’r casgliad y gall ffermwyr leihau llygredd aer dim ond drwy wneud newidiadau bychain yn eu harferion ffermio dyddiol, fel carthu oddi tan yr ieir bob dydd yn hytrach na ddwywaith yr wythnos. 

Mae plannu coed ar y maes hefyd yn gwneud lles, meddai. 

“Rwy’n teimlo o gallai hwn fod yn gyfle ariannol ar y rhan fwyaf o ffermydd yng Nghymru drwy dyfu coed ar dir amaethyddol gwael.

“Mae saith-deg y cant o’r tir yn y DU yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth, ac rwy’n credu bod ffermwyr yn ddolen holl bwysig yn y gadwyn i leihau llygredd aer yn y DU. Hefyd, gallai ffordd newydd o werthu bwyd drwy ddweud mai taith fwyd fer sydd i’r cynnyrch, neu ei fod yn helpu i frwydro yn erbyn llygredd aer, fod o fantais.”

Bydd geneteg a gwahanol borthiant hefyd yn helpu i leihau amonia mewn amaethyddiaeth, ychwanega.

“Gallem hefyd weld ffermydd yn cynhyrchu eu gwrtaith eu hunain drwy adeiladu sgwrwyr aer cemegol neu drwy ddefnyddio dulliau gwell o daenu slyri ar gaeau,” meddai. 

Gellir darllen adroddiad Llyr yn llawn yma.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter