27 Hydref 2020
Estynnir gwahoddiad i ffermwyr ar draws Cymru i fynychu gweminar Cyswllt Ffermio, lle bydd arbenigwyr gwâdd yn rhoi manylion am gynllun Gorchuddio Iardiau y Grant Busnes i Ffermydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar.
Disgwylir i'r weminar bara tua awr ac fe'i cynhelir am 7.30pm ar nos Fercher, 4 Tachwedd.
Bydd Keith Owen, arbenigwr amgylcheddol a chyfarwyddwr Kebek, sydd hefyd yn fentor Cyswllt Ffermio cymeradwy am y pwnc, yn siaradwr gwâdd, a bydd Richard Evans, un o brif swyddogion polisi y cynllun yn Is-adran Amaeth, Cynaliadwyedd a Datblygu Llywodraeth Cymru yn ymuno ag ef.
Bydd y gefnogaeth sydd ar gael drwy'r cynllun grant cyfalaf Grant Busnes i Ffermydd - Gorchuddio Iardiau yn cefnogi adeiladu to newydd dros iardiau sydd eisoes yn bodoli er mwyn gwahanu dŵr glaw a slyri. Bydd hyn yn helpu i leihau cyfanswm y slyri/dŵr budr sy'n cyrraedd storfa slyri busnes fferm ar hyn o bryd, gan ryddhau capasiti storio gwerthfawr a helpu'r fferm i gyflawni rheoliadau cyfredol SAFFO (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol), a hefyd, i baratoi am y cam posibl o gyflwyno rheoliadau rheoli llygredd newydd y maent eisoes yn cael eu drafftio.
Esboniodd Mr Owen mai nod y grant yw cynorthwyo gwelliannau i weithgarwch rheoli maetholion ar y fferm trwy wella seilwaith presennol fferm.
“Mae lleihau cyfanswm y slyri/dŵr budr a gynhyrchir, gan geisio sicrhau bod ffermydd yn agosach at sicrhau'r gydymffurfiaeth reoliadol gyfredol a'r darpar gydymffurfiaeth reoliadol, yn hollbwysig,” dywedodd Mr. Owen, gan ychwanegu y rhoddir sylw i bwysigrwydd a manteision seilwaith yn y seminar.
“Mae'r grant hwn i roi to ar ben iardiau budr yn gyfle delfrydol i fuddsoddi mewn seilwaith a fydd yn helpu ffermwyr i sicrhau cydymffurfiaeth gyfredol.
“Mae gorchuddio iardiau yn cynrychioli buddsoddiad a fydd yn helpu ffermwyr i ddangos i Gyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn cymryd camau rhagweithiol hefyd, a bod ganddynt gynllun yn ei le i wneud gwelliannau i'w seilwaith cyfredol,” dywedodd Mr. Owen.
Dywedodd Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, sy'n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru ar y cyd â Lantra Cymru, bod y ffaith y bydd y cynllun ariannu newydd hwn ar gael yn cynnig cymhelliant i nifer o ffermwyr.
“Bydd y weminar hon yn annog unrhyw fusnesau fferm nad ydynt eisoes wedi rhoi sylw i'r mater, i gymryd y camau cyntaf er mwyn lleihau gweithgarwch cynhyrchu slyri a dŵr budr ar eu ffermydd.”
Bydd Mrs Williams yn cadeirio'r weminar, ac anogodd ffermwyr ym mhob man i archebu eu lle ar gyfer y sesiwn ar-lein ymlaen llaw, ac ychwanegodd y bydd digon o gyfle i gyfranogwyr ofyn cwestiynau.
Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.