3 Tachwedd 2020

 

Wrth i’r cyfyngiadau ar deithio dianghenraid barhau oherwydd Covid-19, mae Cyswllt Ffermio am fynd â ffermwyr a choedwigwyr i ymweld â ffermydd ar gyfres o rithdeithiau rhyngwladol. Bydd y teithiau hyn yn adeiladu ar amcanion y rhaglenni Cyfnewidfa Rheolaeth a Theithiau Astudio poblogaidd sydd wedi cefnogi mwy na 70 o ymweliadau a theithiau cyfnewid tramor i unigolion a grwpiau ers 2015. Yn hanesyddol, byddai’r ymweliadau hyn a ariannwyd yn llawn wedi eu cyfyngu i wledydd yn yr Undeb Ewropeaidd. Ond, mae’r cynnig newydd hwn yn caniatáu i gyfranogwyr wibio ar Zoom o amgylch y byd, gan ddysgu am ffyrdd newydd a gwell o weithio yn y sectorau ffermio neu goedwigaeth ar draws y glôb, oll o gysur eu cartrefi eu hunain.

Darperir y teithiau drwy ffilmiau byr a gweminarau, a bydd ffermwyr a choedwigwyr o wledydd tramor yn dangos arferion gorau a dulliau arloesol yn ogystal â chyflwyno syniadau newydd a ffyrdd gwell o weithio y gall ffermwyr a choedwigwyr o Gymru wedyn eu defnyddio yn eu busnesau eu hunain.

Mae Cyswllt Ffermio’n annog busnesau cofrestredig i gyflwyno eu dewis themâu a phynciau a’u barn ynglŷn ag unrhyw fusnesau ddylai gael eu cynnwys. Croesewir awgrymiadau gan bob sector o amaethyddiaeth, yn cynnwys garddwriaeth, coedwigaeth a sectorau mwy anarferol sydd heb gael eu harchwilio hyd yn hyn. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn cynigion yw 12:00pm ar Ddydd Gwener 27 Tachwedd 2020. Dylai’r cynigion esbonio sut mae eu dewis bwnc yn bwysig ac yn berthnasol i’r diwydiant amaethyddol ehangach, beth yw’r buddion posibl i fusnesau unigol a dylent hefyd fod yn ceisio:

  • Gwella gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o arferion gorau a’r arferion arloesol diweddaraf ar lawr gwlad
  • Annog defnydd effeithlon o adnoddau a chefnogi’r symudiad at fusnesau carbon isel a busnesau sy’n gallu dygymod â’r newid yn yr hinsawdd mewn amaethyddiaeth a/neu goedwigaeth
  • Archwilio dulliau arloesol o reoli ffermydd neu goedwigoedd a fydd yn helpu i adfer, gynnal neu wella ecosystemau sy’n ddibynol ar amaethyddiaeth neu goedwigaeth
  • Gwella cystadleurwydd pob math o amaethyddiaeth a gwella hyfywedd ffermydd
  • Pennu cysylltiadau rhyngwladol a galluogi rhwydwaith i gyfnewid gwybodaeth, arbenigedd ac arloesedd er mwyn cefnogi datblygiad eich busnes a’ch sector yn y tymor hir
  • Cefnogi’r broses o dreialu technolegau newydd, arferion rheoli a methodolegau – “Profi cyn penderfynu”
  • Adeiladu ar waith presennol Cyswllt Ffermio

Wrth i’r cyfnod cyflwyno syniadau agor, dywedodd Einir Davies, Rheolwr Datblygu a Mentora i Menter a Busnes sy’n darparu’r rhaglen Cyswllt Ffermio,

“Ni ddylai’r cyfyngiadau presennol ar deithio ddechrau rhwystro ein gallu i gyfnewid gwybodaeth felly rydym yn creu platfform diogel lle gallwn archwilio arferion gorau ac arloesol heb orfod gadael y fferm. Rydym yn edrych ymlaen at ganfod pa themâu a phynciau fydd yn boblogaidd gyda ffermwyr a choedwigwyr Cymru ac adeiladu rhwydwaith o gysylltiadau rhyngwladol gwerthfawr i ddysgu ganddynt am flynyddoedd i ddod”.

Gallwch gyflwyno cynigion i Cyswllt Ffermio yma lle cânt eu hasesu a’u sgorio. Os cânt eu rhoi ar y rhestr fer, cewch eich gwahodd i gyfarfod ffôn neu Zoom i ateb unrhyw gwestiynau er mwyn rhoi eglurhad ac i drafod a datblygu eich syniadau ymhellach gydag aelodau o’r tîm Cyswllt Ffermio.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites