23 Tachwedd 2020

 

Yr wythnos nesaf bydd ‘Damara Môn’, brand cig oen arbenigol o Ynys Môn yn cael ei lawnsio, gan gynnig profiad bwyta gwahanol a newydd, sydd eisoes wedi denu diddordeb pobl ledled y DU.

“Mewn llawer o wledydd o gwmpas y Byd, mae cig oen Damara yn cael ei werthfawrogi a’i ystyried fel y gorau,” esboniodd y ffermwr Peter Williams. “Ni yw’r cyntaf i ddod â’r profiad hwn i Gymru a’r DU, ac er mai dim ond rwan rydyn ni’n lawnsio, rydyn ni eisoes wedi cael nifer o ymholiadau oherwydd y sylw gawsom yn y cyfryngau pan gafodd yr ŵyn eu geni. Mae’r diwydiant yn ysu am brofiadau bwyta newydd.”

Mae defaid Damara yn tarddu o Affrica a'r Dwyrain Canol ac yn nodedig oherwydd eu cynffonau a'u marciau unigryw. Mae’r epil cyntaf a aned yn gynharach yn 2020 wedi addasu’n dda i dywydd Ynys Môn.

“Roeddem yn hyderus na fyddai’r tymheredd yn broblem,” rhannodd Peter. “Mae'n mynd yn oerach ac yn boethach yn yr anialwch.  Des i ar draws y brîd am y tro cyntaf pan oeddwn i'n gweithio yn Saudi Arabia fel bugail ar ddiwedd yr 80au.”

“Dydy’r glaw ddim i’w weld yn eu poeni hyd yn hyn.  Maen nhw'n ymddangos yn hapus iawn allan yn y caeau yma.”

Ynghyd â’i gyd-ffermwr Bedwyr Jones a ffrind teuluol Tricia Sutton, sy’n gyn-filfeddyg y llywodraeth, ffurfiodd Peter grŵp a aeth ymlaen i sicrhau cyllid a chefnogaeth arbenigol y  rhaglen ‘EIP Wales’ (Partneriaeth Arloesi Ewropeaidd) sy’n cael ei redeg gan Cyswllt Ffermio.

“Caniataodd ‘EIP Wales’ inni wireddu ein cynlluniau, a chyda cefnogaeth ein ‘Brocer Arloesi’, Geraint Hughes, llwyddwyd i fewnforio embryonau a semen Damara,” esboniodd Tricia Sutton, sydd hefyd o Ynys Môn. “Rydyn ni nawr yn cynnal treialon i fonitro sut mae'r ŵyn pur a chroes yn perfformio, gan sicrhau fod lles yr ŵyn yn flaenoriaeth.”

Ynghyd â ffermwyr eraill ac aelodau o’r teulu, ffurfiodd Peter a Bedwyr Grŵp ‘Agrisgôp’ fis Awst diwethaf, sydd hefyd yn wasanaeth cefnogi a ddarperir gan Cyswllt Ffermio.

“Rydym wedi dechrau gweithio ar ddatblygu llwybr i’r farchnad ar gyfer ‘Damara Môn’, sydd wedi cynnwys gwaith brandio cychwynnol, sefydlu sianeli cyfathrebu a dechrau hyrwyddo’r profiad bwyta unigryw y gallwn ei gynnig,” meddai Peter yn frwd.

Bydd ‘Damara Môn’ yn cynnal wythnos lawnsio ddigidol o ddydd Llun, Tachwedd 30ain ymlaen. Ymhlith y gweithgareddau a gynlluniwyd mae cyhoeddi fideo a gomisiynwyd yn arbennig i gyflwyno'r brand, lawnsiad eu tudalen Facebook, rhannu syniadau am ryseitiau fel ysgwydd cig oen 'Damara Môn' a Koftas a brofodd yn boblogaidd iawn yn y treialon blasu cychwynnol a sesiwn Holi ac Ateb byw gyda Peter, Bedwyr a Tricia dros Zoom.

“Gallwch gael yr holl fanylion o dudalen Facebook ‘Damara Môn’,” nododd Peter. “Rydyn ni eisiau rhannu ein stori a rhoi cyfle i bobl ddysgu am y brîd defaid Damara, ac, wrth gwrs, i brofi'r blas unigryw.”

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffenestr cyllid yn ailagor ar gyfer treialon ar y fferm yng Nghymru
20 Ionawr 2025 Gyda threialon a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig a Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies, yn llongyfarch ‘y gorau o’r goreuon’ ar gyfer Gwobrau Lantra Cymru 2024
17 Ionawr 2025 Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y
Digwyddiadau Cyswllt Ffermio i roi cyngor i ffermwyr ar gynllunio olyniaeth a’r gostyngiad arfaethedig i ryddhad Treth Etifeddiant (IHT).
8 Ionawr 2025 Wrth i deuluoedd ffermio yng Nghymru ystyried