3 Rhagfyr 2020

 

Mae fferm deuluol sy’n magu heffrod bîff ar dir ymylol yn Ne Cymru wedi llwyddo i sicrhau gostyngiad o ddau fis a hanner yn nhymor gaeaf y fferm ers gwella’r dull o reoli glaswelltir. 

Bydd y teulu John yn prynu 80 o loi benyw Limousin bob blwyddyn ac yn eu magu ar 80 erw o dir yn fferm Tal y Fedw Newydd, Llantrisant, ac ar 80 erw arall o dir a rentir filltir o’u fferm. Ar sail 80 o wartheg a chost o £1.40 yr anifail bob dydd i’w cadw dan do fel meincnod, byddai hyn yn gyfystyr ag arbediad o £8,400 i’r busnes! 

Yn ogystal â hyn, maent yn cyfrifo arbedion blynyddol gwerth £1,000 ar gostau gwrtaith.

Byddant yn prynu’r anifeiliaid yn uniongyrchol o ffermydd neu o farchnadoedd da byw pan fyddant yn lloi pythefnos neu dair wythnos oed, ac yn eu magu i’w gwerthu fel heffrod gwasod pan fyddant yn 18 mis oed.

Mae gan y teulu John fuches o 30 o fuchod sugno hefyd, a byddant yn eu croesi â tharw Limousin.

Roedd David John, sy’n ffermio gyda’i rieni, Dewi a Diana, a’i wraig, Beth, yn gwybod fod gan y fferm fwy o botensial o ran tyfu glaswellt ar ôl arbrofi â throi stoc allan yn gynnar yn 2019.

“Fe wnaethom ni roi cynnig ar hynny ac fe wnaeth lwyddo, felly roeddem ni’n gwybod fod gan y tir y potensial hwnnw,” meddai David.

Fel rhan o’i nodau datblygiad personol yn ei rôl fel darlithydd yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr, ymgeisiodd am gyfle i gyfranogi yn y rhaglen Meistr ar Borfa.

Mae David bellach yn un o ffermwyr Prosiect Porfa Cymru Cyswllt Ffermio, a bydd yn mesur ei laswellt ddwywaith y mis ac yn rhannu’r data hynny â ffermwyr eraill.

Mae wedi gwneud nifer o newidiadau i’w system, yn cynnwys sefydlu system bori cylchdro yn lle stocio sefydlog.

“Mae gennym ni lawer iawn rhagor o laswellt ar gyrion y tymor,” meddai David.

“Yn 2019, roeddem ni’n porthi silwair i heffrod ar ddechrau mis Hydref. Eleni, roeddent allan ar y borfa tan 15 Tachwedd.”

Yn ôl David, yr hyn sy’n gyfrifol am hyn yw ysbeidiau “byr a dwys” o bori 80-90 o wartheg mewn lleiniau 3 hectar am bum diwrnod, a gaiff eu dilyn gan gyfnodau gorffwys hir – yn yr hydref, gall y borfa orffwys am hyd at 50 diwrnod.

Bydd David bellach yn troi’r stoc allan ym mis Mawrth yn lle mis Mai, ond mae’n cyfrifo hefyd y sicrhawyd gostyngiad o 4.4 tunnell fetrig yn ei ddefnydd o wrtaith mewn bagiau yn 2020, arbediad gwerth £1,000. Mae 4.4 tunnell fetrig o Amoniwm Nitrad hefyd yn gyfystyr ag arbed 12.3tCO2e o ran allyriadau.

Mae cyfraddau cyfebru buchod sugno wedi gwella hefyd. “Mae eu cyflwr yn well oherwydd y borfa well,” meddai David.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter