Pynciau Tir

Rheoli glaswelltir

Cyngor cychwynnol ar ddylunio a sefydlu system bori a rheoli glaswelltir ac ansawdd y cyflenwad.

Cynhyrchu cynlluniau pori a chyllidebau porthiant.

Rheoli perfformiad da byw sy’n pori.

Amaethyddiaeth adfywiol a Bioamrywiaeth

Trafod dewisiadau ar sut i wneud y defnydd gorau o gynefin a bioamrywiaeth bresennol eich fferm.

Trafod datblygu a chreu bioamrywiaeth ar ffermydd a’r manteision allweddol.

Ffermio Manwl Gywir

Trafod y dewisiadau wrth ddefnyddio technegau ffermio manwl gywir fel GPS a data i wella a chynyddu cynhyrchiant a pherfformiad.

Ôl Troed Carbon

Dysgu mwy am fesur ôl troed carbon.

Deall beth yw’r prif elfennau sy’n achosi allyriadau nwyon tŷ gwydr mewn amaethyddiaeth.

Sut y gallwn ni wrthbwyso allyriadau carbon.

Coetir Trafod creu coetir, adfer, torri coed yn ogystal â phrosesu a rheoli coetir

Am ragor o wybodaeth neu i archebu cymhorthfa cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol neu Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813.

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.