Cyflwyniad Prosiect Moelogan Fawr: Cofnodi’r ddiadell yn fanwl i gynorthwyo wrth ddethol mamogiaid cyfnewid at y dyfodol a gwneud penderfyniadau deallus ynglŷn â bridio
Safle: Moelogan Fawr, Llanrwst, Conwy
Swyddog Technegol: Non Williams
Teitl y Prosiect: Cofnodi’r ddiadell yn fanwl i gynorthwyo wrth ddethol mamogiaid cyfnewid at y dyfodol a gwneud penderfyniadau deallus ynglŷn â bridio
Cyflwyniad i'r prosiect:
Mae dethol mamogiaid cyfnewid yn hanfodol er mwyn gwella perfformiad a phroffidioldeb y ddiadell. Mae magu mamogiaid cyfnewid o fewn system gaeedig yn galluogi’r ffermwr i ddatblygu’r ddiadell yn seiliedig ar y mamogiaid sy’n perfformio orau. Yn ogystal â dethol mamogiaid cyfnewid, mae hi’r un mor bwysig i ganfod y mamogiaid hynny sy’n tanberfformio, gyda’r nod o’u gwaredu o’r ddiadell. Mae digonedd o ddata’n ymwneud â’r ddiadell y byddai modd ei gofnodi a’i ddefnyddio er mwyn dethol anifeiliaid cyfnewid.
Fodd bynnag, mae nodi dangosyddion perfformiad allweddol penodol ar gyfer y fferm unigol yn hanfodol er mwyn gwella effeithlonrwydd y ddiadell, o safbwynt llafur yn ogystal ag o safbwynt y busnes. Mae Moelogan Fawr yn ddiadell gaeedig, ac mae mamogiaid cyfnewid yn cael eu dewis a’u cadw ar y fferm.
Mae Llion a Siân ar hyn o bryd yn gwneud defnydd effeithiol o dechnoleg er mwyn cofnodi perfformiad y fuches o wartheg Stabiliser pedigri ac yn gweithio tuag at statws iechyd uchel iawn. Fodd bynnag, maen nhw’n dymuno gwella’r system maen nhw’n ei defnyddio i reoli’r mamogiaid Cymreig, Cheviot a chroes. Gall defnyddio cofnodion ar y fferm helpu i adnabod materion iechyd, lles a chynhyrchiant penodol o fewn y ddiadell, yn ogystal â chynorthwyo i osod targedau a chamau gweithredu penodol i fynd i’r afael â’r materion hyn at y dyfodol.
Mae sefydlu system reoli dda, sy'n cynnwys cofnodi perfformiad yn bwysig iawn i gynorthwyo gyda phenderfyniadau bridio at y dyfodol, a gall hefyd wella elw’r fferm. Bydd hyn yn eu cynorthwyo i ddethol y nodweddion delfrydol o ran mamogiaid a hyrddod er mwyn cyflawni amcanion y fferm o ran bridio - magu anifeiliaid cyfnewid a chynhyrchu ŵyn. Gallai canfyddiadau'r prosiect hwn fod o werth i ffermwyr eraill sy'n gweithio tuag at feincnodi eu diadell eu hunain, a datblygu system reoli effeithiol ar gyfer bridio eu mamogiaid cyfnewid eu hunain. Dylai’r gwaith helpu i ddiffinio’r dangosyddion perfformiad allweddol mwyaf gwerthfawr i’w cofnodi a’u datblygu i wella allbynnau ac effeithlonrwydd at y dyfodol.
Amcanion y prosiect:
Prif nod y prosiect fydd canfod y mamogiaid sy’n perfformio orau yn y ddiadell er mwyn adnabod y rhai gorau i’w cadw fel mamogiaid cyfnewid.
Amcanion y prosiect yw:
- Datblygu dull cyson ac effeithiol o gofnodi data’r ddiadell
- Defnyddio technoleg i adrodd ar berfformiad mamogiaid ac ŵyn unigol
- Dewis mamogiaid cyfnewid sy’n perfformio’n dda i’w cadw o fewn y ddiadell
Dangosyddion Perfformiad Allweddol a osodwyd:
Cytunwyd ar y dangosyddion perfformiad allweddol canlynol ar ddechrau’r prosiect. Mae’r dangosyddion perfformiad yma’n seiliedig ar ddata 2019/20 ar gyfer y ddiadell gyfan:
- Targed o sicrhau <15% o golledion ŵyn rhwng sganio a gwerthu/cadw
- Iechyd mamogiaid - cadw cofnodion da o achosion/diagnosis a thriniaethau a ddefnyddir i drin cloffni a mastitis ar gyfer pob mamog
- Magu 130% o ŵyn
Llinell Amser a Cherrig Milltir:
Llinell Amser Blwyddyn 1
Tachwedd 2020
canfod 320 o famogiaid i’w monitro
Ionawr 2021
Pwyso a sgorio cyflwr corff y mamogiaid wrth sganio
Mawrth/Ebrill 2021
- Sgorio cyflwr corff mamogiaid sydd wedi’u marcio
- Cynnal samplau cyfrif wyau ysgarthol ar 10% o’r mamogiaid (cyfran o’r 10% yn cario ŵyn sengl a gefeilliaid) cyn ŵyna
- Trin os oes angen neu pan fo angen
Mawrth - Gorffennaf 2021
- Monitro perfformiad mamogiaid ac ŵyn yn ogystal ag unrhyw broblemau iechyd sy’n codi
- Cadw cofnod electronig o unrhyw driniaethau
Mai/Mehefin 2021
- Cynnal samplau cyfrif wyau ysgarthol ar yr un 10% o famogiaid a samplwyd ym mis Mawrth/Ebrill tua chwe wythnos cyn ŵyna
- Casglu samplau cyfrif wyau ysgarthol fel grŵp gan gyfran o’r ŵyn pan maen nhw’n chwe wythnos oed
Gorffennaf 2021
Casglu data’r flwyddyn gyntaf ynghyd i greu adroddiad o’r canfyddiadau
Ceir amserlen debyg ar gyfer yr ail flwyddyn gyda phosibilrwydd o ehangu ar y data a gesglir. Mae Moelogan Fawr hefyd yn cymryd rhan yng Nghynllun Hyrddod Mynydd Hybu Cig Cymru (HCC) a phrosiect Iechyd y Ddiadell a’r Fuches Stoc+, felly bydd y data a gesglir ar gyfer y prosiect hwn a chynlluniau HCC yn cyd-fynd â’i gilydd, gan atgyfnerthu’r gronfa o ddata sydd ar gael yn ymwneud ag iechyd a chofnodi’r ddiadell.