Mae afiechydon mewn ŵyn newydd anedig yn gallu arwain at gyfraddau marwolaeth uchel yn ystod y cyfnod ŵyna, gan effeithio ar broffidioldeb busnes.
Ymunwch â Cyswllt Ffermio a'r arbenigwraig filfeddygol ar ddefaid, Fiona Lovatt, Flockhealth Ltd, i ddysgu mwy am sut i atal afiechydon fel ceg ddyfrllyd, haint y cymalau ac ysgothi mewn ŵyn.