24 Mai 2021
Mae arwyddion cynnar gan brosiect Cyswllt Ffermio wedi dangos bod trefniant pori mewn cylchdro dwys mewn systemau defaid yn cynyddu'r deunydd organig mewn pridd.
Nod Pendre, safle arddangos Cyswllt Ffermio yn Llanfihangel-y-Creuddyn ger Aberystwyth, yw cynyddu’r deunydd organig yn y pridd, nid yn unig er mwyn sicrhau'r manteision o ran perfformiad y borfa, ond hefyd, er mwyn dal a storio carbon.
Yn ystod gweminar Yn Fyw o’r Fferm Cyswllt Ffermio a gynhaliwyd ar y fferm yn ddiweddar, dywedwyd wrth y rhai a oedd yn bresennol y byddai cynyddu'r lefelau gymaint â 0.3% yn unig yn rhoi'r fferm mewn sefyllfa negyddol o ran carbon, lle y mae'n amsugno mwy o garbon nag y mae'n ei ryddhau.
Gyda chynnydd o 0.3% mewn deunydd organig yn y pridd, cydbwysedd allyriadau carbon y fferm fyddai -85.65 tunnell o CO2e, ac mae hyn yn golygu y byddai'r busnes yn dal ac yn storio llawer mwy o garbon nag y mae'n ei ryddhau bob blwyddyn.
“Byddai'r fantais o ran dal a storio carbon yn enfawr,” dywedodd Rhys Williams o gwmni Precision Grazing, a fu'n siarad yn y digwyddiad, ac y mae wedi bod yn gweithio gyda'r ffermwyr, Tom a Beth Evans, ar eu prosiect Cyswllt Ffermio yn edrych ar bori cylchdro.
Roedd y teulu Evans wedi bod yn arbrofi gyda phori cylchdro cyn iddynt fod yn ffermwyr arddangos a dangosodd y dadansoddiadau gwaelodlin a gymerwyd ar ddechrau'r prosiect bod hyn eisoes yn cael effaith ar ddeunydd organig yn y pridd.
Ar ddyfnder o 0-10cm, roedd y deunydd organig yn y pridd mewn caeau a borwyd mewn cylchdro yn 8.3% o'i gymharu â 6.9% mewn caeau stoc sefydlog, 8% o'i gymharu â 6.7% ar ddyfnder o 10-20cm a 6.1% o'i gymharu â 4.6% ar ddyfnder o 20-30cm.
“Mae hyn yn dangos y gall pori mewn cylchdro gyfrannu at iechyd pridd a deunydd organig mewn pridd, ac yn ogystal â chynnig manteision o ran lleihau costau mewnbwn a chynyddu cynhyrchiant, ceir manteision amgylcheddol i wella iechyd y pridd hefyd,” meddai Mr Williams.
Mae pori mewn cylchdro yn annog twf deunydd planhigion, a gaiff ei ailgylchu i'r pridd ac mae'n caniatáu cyfnod o orffwys, gan alluogi'r planhigyn i gynyddu dyfnder ei wreiddiau.
Mae cadw niferoedd uchel o anifeiliaid mewn padogau bychain yn peri i ddeunydd planhigion gael ei sathru yn y pridd, ac mae'r dwysedd stocio uchel hwnnw yn caniatáu i dail anifeiliaid gael ei wasgaru mewn ffordd gyfartal.
I’r teulu Evans, mae'r manteision ariannol o ddilyn trefniant pori mewn cylchdro ar gyfer eu diadell o 500 o famogiaid yn sylweddol – maent wedi haneru eu defnydd o ddwysfwyd, oherwydd ers iddynt rannu'r caeau yn badogau a symud y defaid o gwmpas, maent yn tyfu un rhan o dair yn fwy o borfa mewn blwyddyn.
Roedd Mr Evans yn teimlo'n ddigon hyderus i weithredu'r system ar ôl mynychu rhaglen Rhagori ar Bori Cyswllt Ffermio.
“Byddwn yn annog unrhyw ffermwr sy'n ystyried y dyfodol i fynychu rhaglen Rhagori ar Bori,” dywedodd.
Mae'n uwchlwytho data o weithgarwch mesur porfa a gyflawnir bob pythefnos i wefan Prosiect Porfa Cymru Cyswllt Ffermio.
“Rydw i'n credu'n gryf mewn meincnodi ac mae gallu cymharu ein tyfiant gydag eraill o fudd,” dywedodd. “Fy nod i yw cynyddu ein cyfradd twf fel ei bod yn cyd-fynd â chyfraddau cyfranogwyr eraill.”
Caiff Pendre ei stocio’n drwm yn ystod y gwanwyn ac ar ddechrau'r haf ar ôl y cyfnod ŵyna, felly trwy gyfrwng ei waith fel ffermwr arddangos, ei nod yw gwella ansawdd y borfa a'r cynhyrchiant yn gynnar yn ystod y tymor.
Mae cyflawni hynny trwy ail-hadu yn anodd gan fod tynnu tir allan o'r cyfanswm cynhyrchu yn rhoi pwysau ar y sefyllfa o ran tir pori.
Mae tros-hau yn cynnig datrysiad posibl yn y tymor byr, ond ceir heriau sy'n gysylltiedig â hyn, fel y mae prosiect yn fferm Pendre wedi dangos.
Heuwyd dau wahanol gymysgedd o hadau ar 11 Medi mewn dau gae nad oeddent yn cynnwys llawer o feillion a rhygwellt.
Dywedodd Chris Duller, arbenigwr ym maes rheoli pridd a glaswelltir, a fu'n cynghori ar y prosiect, y dylid bod wedi gwneud hyn bedair wythnos cyn hynny yn ddelfrydol, ond roedd y galw am y tir pori yn golygu na fu modd gwneud hynny.
Heuwyd un gymysgedd gyda chymysgedd egnïol o rygwellt a festulolium hybrid er mwyn rhoi hwb i dyfiant y borfa yn gynnar yn y tymor, a heuwyd meillion a rhygwellt lluosflwydd yn y llall - heuwyd hanner hwnnw gyda hadau wedi'u trin gyda gwrtaith a haenen o galch. Roedd darn o hwn yn cynnwys llyriad er mwyn gweld a fyddai modd tros-hau hwn yn llwyddiannus.
Cafwyd hydref gwlyb ond fe'i rheolwyd yn dda trwy gydol y cyfnod gwlyb trwy ei bori, er mwyn caniatáu i'r hadau fraenaru ond nid ar lefel a fyddai'n golygu pori'r eginblanhigion.
Yn ystod y gwanwyn 2021, roedd lefel y rhygwellt yn y gwndwn wedi'i dros-hau gyda rhygwellt a festulolium hybrid wedi codi i 60% o'i gymharu gydag 20-30% cyn tros-hau ac roedd festulolium i'w weld yn y borfa.
Fodd bynnag, nid oedd unrhyw dystiolaeth bod meillion na llyriad wedi goroesi ym mhorfa'r gwndwn arall.
Nid oedd unrhyw dystiolaeth bod trin yr hadau wedi gwella eu perfformiad wrth wreiddio na'u goroesiad.
Roedd Mr Duller yn cyfaddef bod tros-hau yn gallu bod yn broses “fympwyol” ond ychwanegodd: “Gwyndonnydd yw'r rhain y byddent yn cael eu ail-hadu ymhen dwy neu dair blynedd yn ôl pob tebyg, a bu tros-hau yn gyfle i roi hwb bach iddynt.”
Gorffennaf neu Awst yw'r misoedd delfrydol er mwyn tros-hau, cynghorodd – os gwneir hyn yn gynharach, byddai angen i'r hadau sy'n egino gystadlu yn erbyn porfa sefydledig sydd ar ei anterth o ran tyfiant.
Argymhellodd y dylid cadw'r pwysau gan bori’n drwm ymlaen llaw, ac na ddylid fyth fod yn rhy uchelgeisiol gyda chyfanswm yr erwau. “Dylid gwneud ambell i erw ar y tro, rhag ofn y bydd yn cael anhawster; ni ddylid mynd allan ar y dechrau a thros-hau 40 erw.”
Yr hadau sydd fwyaf addas ar gyfer tros-hau yw'r rhai mwyaf - rhai hybrid a thetraploid. Nid y rhain yw'r rhai gorau ar gyfer pori, ychwanegodd Mr Duller, ond nododd: “Mae tros-hau yn ffordd o ychwanegu at y borfa a chynhyrchu'r borfa o ansawdd gorau mewn cyfnod byr.
“Mae'n anodd sicrhau amrywiadau diploid gyda hadau llai i egino'n gyflym a chystadlu – ac nid yw'r canlyniadau mor effeithiol.”
Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.