17 Medi 2021

 

Dr David Cutress: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Mae egin, planhigion micro-wyrdd a blodau bwytadwy yn gnydau amgen sy'n cynnig mwy o werth na chnydau trwm agrocemegol dwys
  • Mae'r bwydydd hyn yn cynnig manteision iechyd a maeth diddorol ac o'r herwydd, gallent fanteisio ar ddymuniad y defnyddiwr i sicrhau 'bwydydd daionus' iach
  • Gall nifer o'r rhain dyfu mewn systemau heb gemegau neu gydag ychydig iawn o gemegau, gan hwyluso dewisiadau arallgyfeirio diddorol mewn amgylcheddau gwledig ac mewn amgylcheddau mwy trefol

 

Beth yw'r rhain?

Gan bod pwysau ar fyd amaeth i symud i ffwrdd o systemau cynhyrchu bwyd dwys iawn ac sy'n drwm o ran yr elfen agrocemegol, ceir angen clir am fwy o ddewisiadau er mwyn arallgyfeirio.  Er y gallai systemau organig yn ogystal â strategaethau cynhyrchu cnydau atgynhyrchiol a chynaliadwy fod yn un llwybr er mwyn cynhyrchu bwyd sy'n cynnig mwy o werth ac ôl troed carbon llai, ceir dewisiadau posibl eraill hefyd.  Mae saladau micro, llysiau anarferol a blodau bwytadwy wedi dangos gwerth uchel mewn gweithgarwch coginio proffesiynol gradd bwyty, ac o'r herwydd, ceir galw cynyddol am nwyddau o'r fath.  Blodau bwytadwy yw'r rhai cyntaf o'r cnydau arloesol posibl a diddorol hyn sy'n cael eu hymchwilio mewn prosiect Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) Cyswllt Ffermio.  Mae'r prosiect yn ceisio pennu strategaethau tyfu a chymysgeddau cnwd optimaidd i'w tyfu yn y DU yn benodol.  Gallai cnydau eraill yn y dyfodol gynnwys

egin, sy'n cael eu diffinio fel y cyfnod tyfiant rhwng hadau yn egino a chyn i'r gwir ddail datblygu.  Fel ffynhonnell bwyd, bwriedir iddynt gael eu bwyta yn gyfan gwbl, gan gynnwys y sbrigau, y gwreiddigion a'r had.  Mae'r arfer o ddefnyddio egin fel ffynhonnell bwyd wedi bod yn hysbys ers miloedd o flynyddoedd, er enghraifft, mae egin ffa yn gyffredin iawn mewn bwyd Tsieineaidd modern a hanesyddol.  Mae planhigion micro-wyrdd (a elwir yn gonffeti llysiau weithiau) yn faes newydd a ddaeth i'r amlwg yn gymharol ddiweddar ac yn faes sy'n ehangu yn y sector bwyd, a bu cynnydd sylweddol mewn gwaith ymchwil ynghylch eu manteision a strategaethau tyfiant optimaidd ar eu cyfer er 2018.  Yn gyffredinol, ystyrir mai planhigion micro-wyrdd yw tyfiant ifanc llysiau gwyrddion deiliog, llysiau a pherlysiau, sy'n cael eu cynaeafu pan fo'r had-ddail (y dail embryonig cyntaf) ac mewn rhai achosion, y pâr cyntaf o ddail gwirioneddol, wedi datblygu, yn unig.  Fel arfer, mae hyn cynnwys cylch cynhyrchu 1 – 3 wythnos, gan ddibynnu ar rywogaeth y planhigion micro-wyrdd.  Mae planhigion micro-wyrdd fel term yn offeryn marchnata i raddau helaeth ac mewn deddfwriaeth, maent yn syrthio rhywle rhwng “egin” a saladau “dail mân”, a ystyrir yn ddail ifanc a deilgoesau cnwd a gynaeafir nes y bydd wedi datblygu 8 gwir ddeilen.  Maent wedi dangos gwerth sylweddol yn y farchnad, y disgwylir iddo dyfu'n gyflym yn y dyfodol.

 

Mae'r arfer o fwyta blodau ffrwythau, llysiau a phlanhigion persawrus llesol yn rhywbeth sydd wedi bod yn digwydd ers miloedd o flynyddoedd hefyd, mor bell yn ôl â 3000 CC.  Yn niwylliant modern y DU, mae'n gyffredin darganfod echdynion blodau sy'n rhoi blas i ddiodydd, er enghraifft mae blodau'r ysgaw a dant y llew yn ffefrynnau poblogaidd.  Fodd bynnag, mae modd bwyta rhannau penodol o flodau nifer o rywogaethau planhigion (stigma Saffrwm er enghraifft) ac mewn rhai achosion, gellir bwyta'r blodau cyfan (blodau corbwmpenni).  Yn debyg i blanhigion micro-wyrdd, disgwylir i flodau bwytadwy weld cyfradd dwf flynyddol gyfansawdd (CAGR) o 11% rhwng 2018 a diwedd 2022, gan ddangos bod hwn yn faes arallgyfeirio allweddol.

Canlyniadau chwiliad ar Web of science gan ddefnyddio'r prif derm planhigion micro-wyrdd a blodau bwytadwy

Mae defnyddio blodau bwytadwy yn faes sy'n gymharol fwy aeddfed na phlanhigion micro-wyrdd o ran lefel y gwaith ymchwil amdanynt, ac ar hyn o bryd, ceir allbynnau ymchwil llawer uwch ar eu cyfer.  Mae llawer o'r gwaith ymchwil mwyaf diweddar ynghylch blodau bwytadwy yn ymwneud â nodweddion ffytogemegol diddorol y gallent gyfrannu at ffordd o fyw iach a gwell.  Mae ceisio canfod y lefelau ymchwil ynghylch egin yn anodd oherwydd y ffaith bod gan y derminoleg ystyron eraill, ond mae'n ymddangos ei fod yn debyg neu'n uwch na blodau bwytadwy gan bod hwn yn gysyniad system cynhyrchu bwyd mwy aeddfed na phlanhigion micro-wyrdd.

Gwybodaeth am egin, planhigion micro-wyrdd, mân ddail a blodau bwytadwy, a addaswyd o Di Gioia et al. (2015))

 

Egin

Planhigion micro-wyrdd

Mân ddail

Blodau bwytadwy

Cylch tyfu

4 - 10 diwrnod

7 - 28 diwrnod

20 - 40 diwrnod

Amrywiol iawn

Darn bwytadwy

Egin cyfan + gwreiddigion

sbrigau gyda had-ddail ac arwydd cyntaf gwir ddail – dim gwreiddiau

Gwir ddail a deilgoesau - dim gwreiddiau

Amrywiol (ee. Corbwmpenni, mae'r blodau a'r llysieuyn yn fwytadwy)

Systemau tyfu

Dim pridd, dim ond dŵr

Heb bridd ar y cyfan, mae angen ychydig gyfrwng tyfu

Pridd neu heb bridd – mae gofyn cael cyfrwng tyfu

Pridd neu gyfrwng tyfu

Amgylchedd tyfu

Nid oes angen golau arnynt

Mae gofyn cael golau

Mae gofyn cael golau

Mae gofyn cael golau

Gofyniad am faethynnau 

Nid ydynt yn ofynnol

Swm bach oni bai bod y cyfrwng tyfu yn darparu hyn

Wastad yn ofynnol

Wastad yn ofynnol

Defnydd o agrogemegau

Nid ydynt yn ofynnol

Nid ydynt yn ofynnol

Gofynnol

Gofynnol

Cam datblygu y planhigion adeg cynaeafu

Cyn datblygu had-ddail

Rhwng had-ddail a datblygiad llawn y gwir ddail cyntaf

Rhwng y gwir ddail cyntaf a'r cam 8 gwir ddeilen

Amrywiol ond planhigyn aeddfed o ganlyniad i'r ffaith bod y blodyn yn organ atgynhyrchu

Cynaeafu

Nid oes angen eu torri

Dewisol trwy dorri neu gymryd y planhigyn cyfan

Torri

Torri

 

Y galw ymhlith defnyddwyr

Gall fod yn anodd pennu'r galw ymhlith defnyddwyr am fathau newydd o fwyd a bwydydd egsotig.  Fodd bynnag, mae 'Bwydydd daionus' wedi dod yn eitem boblogaidd yn ddiweddar, wrth i ddefnyddwyr ystyried bwydydd sy'n cynnig budd i iechyd mewn ffordd fwy ffafriol,

yn ychwanegol i galorïau yn unig.  O'r herwydd, os cânt eu marchnata'n gywir, gallai cynhyrchiant egin, planhigion micro-wyrdd a blodau bwytadwy gael ei ysgogi gan y poblogrwydd hwn gan bod pob un o'r grwpiau hyn wedi dangos manteision meddygol a maethol diddorol mewn rhyw ffurf neu'i gilydd.  Mae'n ddiddorol nodi bod astudiaeth a gynhaliwyd yn 2020 wedi amlygu'r ffaith bod y dybiaeth bod bwydydd daionus yn well i'r amgylchedd ac yn fwy moesegol na bwydydd eraill, yn bwysig ar gyfer y cymhelliant ymhlith defnyddwyr, ond mewn gwirionedd, gall bwydydd daionus fod yn grŵp sy'n cael effaith uchel ar yr hinsawdd yn benodol.  O'u cynhyrchu yn gywir, fodd bynnag, gallai egin, planhigion micro-wyrdd a blodau bwytadwy gynnig nodweddion bwyd maethol-fferyllol uwch, gyda llawer yn llai o effeithiau amgylcheddol.  Canfu arolwg a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Nhaiwan mai'r prif ddylanwadau ar benderfyniad defnyddwyr i fabwysiadu blodau bwytadwy fel ffynhonnell bwyd oedd chwilfrydedd yr unigolion, proffil sawr y blodyn a pha mor ymwybodol oedd yr unigolyn o'u hiechyd.  Felly, mae hyn yn dangos cymhelliant y ffactor iechyd ar gyfer y bwydydd arloesol hyn wrth ystyried eu potensial cynhyrchu yn y dyfodol.  Ymhellach, mae papurau ymchwil di-rif yn cyfeirio at fanteision y bwydydd hyn wrth ennyn cyffro ymhlith defnyddwyr trwy gyfrwng blasau ac ansawdd unigryw ac ymddangosiad ffisegol llachar

 

Manteision maethol ac iechyd

Yn gyffredinol, mae planhigion bwyd (ffrwythau, llysiau, hadau a pherlysiau) yn cynnwys cryn dipyn o faethynnau ac fe'u hystyrir yn rhan iach allweddol o ddiet pobl.  Mae ymchwil hyd yn oed yn pennu cyswllt rhwng bwyta planhigion yn rheolaidd a lleihau risgiau salwch sy'n gysylltiedig gyda chlefydau fel canser.  Un o fanteision planhigion micro-wyrdd yw y dangoswyd bod cynaeafu yn ystod y cam cynnar hwn yng nghylch bywyd y planhigyn yn cynhyrchu mwy o fwynau a ffytofaethynnau buddiol a lefelau nitradau is o'u cymharu gyda phlanhigyn aeddfed o'r un rhywogaeth.  Yn yr un modd, nodwyd bod egin a blodau bwytadwy yn cynnwys lefelau uchel o ran mwynau, fitaminau a chyfansoddion bioactif ar draws astudiaethau lluosog.

 

Fel y gellir gweld, gallai cyfansoddion bioactif o'r cnydau hyn gynnig nifer o fanteision i iechyd.  Cynhaliwyd ymchwiliadau rhagarweiniol i'r broses o wella cynhyrchion bob dydd hefyd, megis caniatáu i hadau gwenith egino cyn eu prosesu er mwyn cynhyrchu bara.  Yn y sefyllfaoedd hyn, mae gan fara a gynhyrchwyd gan ddefnyddio gwenith wedi egino neu yr ychwanegwyd egin arall ato gapasiti gwrth-ganser/gwrthocsidydd bioargaeledd uwch, felly gallai ychwanegu gwerth i'r farchnad gwenith fel bwyd iach gwell.  Mae'n ddiddorol nodi bod nifer o astudiaethau wedi dangos y gall yr amodau tyfu a ddefnyddir ar gyfer y cnydau hyn wella lefel cyfansoddion bioactif penodol a welir ynddynt, gan wella'r effeithiau ymhellach.  Mae gwahanol lefelau, hyd, mathau a lliwiau golau wedi dangos newidiadau ym mhroffiliau ffytogemegol y cnydau hyn, er enghraifft, gall golau glas gynyddu cemegau sy'n gysylltiedig gyda blas ond gall golau coch gynyddu cyfanswm Fitamin C mewn rhai rhywogaethau a chynyddu neu ostwng Fitamin E mewn rhywogaethau eraill.  Ymhellach, gall cyfrwng tyfu, strategaethau tyfu a ffactorau amgylcheddol oll effeithio ar faint y cnwd a chynnwys y maethynnau.  Gan bod y cnydau hyn yn aml yn cynnwys cryn dipyn o ddŵr a chânt eu bwyta yn ffres, yn anffodus, ceir mwy o berygl y byddant yn dioddef halogiad bacterol na chnydau eraill wedi'u prosesu.  Gyda'i gilydd, mae hyn oll yn awgrymu mai'r ffordd fwyaf optimaidd o gynhyrchu'r cnydau hyn fydd pan fydd rheolaeth lawn o'r amgylchedd ar gael i leihau risg haint a gwella proffiliau maethynnau, sy'n golygu bod eu tyfu y tu allan yn ddewis llai deniadol.

 

Strategaethau tyfu a sialensiau

Cynhyrchir egin o hadau trwy eu golchi a'u gadael mewn amgylcheddau lle y ceir cryn leithder heb unrhyw olau neu fawr iawn o olau, a thymheredd optimaidd.  Gellir eu tyfu ar ddwysedd hadau uchel iawn a chânt eu cynaeafu pan fyddant yn egino.  O ganlyniad i'r angen i'r gwreiddyn ddatblygu a'r planhigyn wneud gwaith tyfu cynnar gyda phlanhigion micro-wyrdd, rhaid lleihau dwysedd hadau ychydig er mwyn hwyluso'r lle hwn i dyfu.  Caiff planhigion micro-wyrdd eu tyfu mewn pridd yn bennaf, ond gellir defnyddio cyfryngau tyfu eraill fel rhisgl coconyt, fermicwlit neu berlit ac yn wahanol i egin, mae angen iddynt gael golau.  Yn ogystal, mae planhigion micro-wyrdd yn gydnaws iawn gyda systemau tyfu hydroponig a byddai modd eu cynnwys mewn systemau acwaponeg yn hawdd gan bod eu gofynion am faethynnau yn tueddu i fod yn gymharol isod.  Fel arfer, tyfir planhigion micro-wyrdd mewn hambyrddau 10 modfedd wrth 20 modfedd gyda chymysgedd pridd potio y gellir ei ailddefnyddio rhwng cyfnodau tyfu lluosog.  Fodd bynnag, ar gyfer systemau ar raddfa lai, dangoswyd bod gwelyau gardd, silffoedd ffenestr a dysglau bychain gan ddefnyddio pridd rhydd di-haint yn effeithiol hefyd.  Yn gyffredinol, gellir tyfu egin a phlanhigion micro-wyrdd yn hawdd heb ychwanegu gwrtaith, ac o'r herwydd, byddant yn cael budd o'r ffaith eu bod yn cael eu hystyried fel planhigion organig.  Mae blodau bwytadwy yn llawer mwy amrywiol o ran eu strategaethau tyfu gan bod gan rywogaethau unigol amodau optimaidd amrywiol ar gyfer tyfu a blodeuo optimaidd a llwyddiannus.  Yn y systemau hyn, mae gofyn rhoi mewnbwn maethynnau (organig neu synthetig) yn ystod lluosogi ac fe allai'r ffynonellau bwyd hyn gael effeithiau amgylcheddol uwch nag egin a phlanhigion micro-wyrdd.  Dangoswyd bod gwahanol ddulliau cynhyrchu yn cael effeithiau ar leihau'r effeithiau amgylcheddol hyn, gyda chyd-ddefnyddio blodau bwytadwy o ffrwythau a llysiau bwytadwy yn fwy tebygol o fod wedi lleihau'r effeithiau amgylcheddol cyffredinol fesul cilogram o gynnyrch a gynhyrchi

Mae'r bwydydd hyn, yn enwedig planhigion micro-wyrdd a saladau mân yn benthyg eu hunain yn arbennig o dda i ddulliau amaethyddiaeth amgylchedd a reolir (CEA).  Nodwyd bod systemau sy'n cynnwys ffermio fertigol yn gweithio orau gyda chnydau y mae ganddynt gylch tyfu/cynaeafu cyflym a gwerth uchel yn y farchnad, ac o'r herwydd, mae'r rhain yn addas iawn.  Mae systemau CEA yn cynnig manteision ychwanegol, sef eu bod yn gweithredu'n dda mewn lleoliadau tir cyfyngedig, gan ddarparu gweithgarwch arloesol ar gyfer cynhyrchu bwyd a lleihau'r milltiroedd bwyd posibl sy'n gysylltiedig gyda mewnforion bwyd iach eraill.  Yn yr un modd, oherwydd y manteision iechyd a maethol uchel, ynghyd â hwylustod eu tyfu mewn mannau bychain heb fawr ddim o fewnbwn, mae planhigion micro-wyrdd ac egin wedi cael eu cysylltu'n fawr gyda rolau allweddol ar gyfer archwilio'r gofod dros y tymor hir, gan ddangos eu lefel uchel o ddefnydd arloesol.

Gall sialensiau gyda'r holl gnydau hyn ymwneud â'u defnydd fel cynhyrchion ffres yn hytrach na chael eu prosesu i ffurfiau eraill.  Mae oes silff nifer o'r rhain yn gymharol fyr ar ôl eu cynaeafu, megis 1 – 2 ddiwrnod ar dymheredd ystafell.  Mae cryn dipyn o ymchwil yn mynd rhagddo ynghylch technegau cynaeafu a storio er mwyn gwella oes silff trwy leihau effeithiau poblogaeth microbaidd.  Mae'r rhain yn cynnwys defnyddio cemegau, cyfansoddion naturiol, gwahanol ddeunyddiau pacio a phacio mewn awyrgylch addasedig.  Mae dewisiadau eraill er mwyn prosesu'r cnydau hyn er mwyn lleihau eu perfformiad darfodus yn cynnwys:  prosesu dan bwysedd hydrostatig uchel, ychwanegu gorchuddion bwytadwy, arbelydru a thechnegau sychu fel sychu drwy rewi neu sychu gan ddefnyddio microdonnau.  Mae angen i bob dewis sicrhau cydbwysedd rhwng ystyriaethau ynni a pherfformiad cadw maethynnau, oherwydd y gall rhai prosesau leihau'r lefelau maethynnau buddiol sy'n bresennol.  Ar gyfer planhigion micro-wyrdd, mae strategaeth newydd ar gyfer oes silff yn cynnwys dosbarthu cynhyrchion ffres yn eu cyfrwng tyfu i'w cynaeafu yn ôl y gofyn gan y defnyddiwr yn uniongyrchol.

 

Crynodeb

Mae planhigion micro-wyrdd, blodau bwytadwy ac egin yn gnydau amgen diddorol o'u cymharu gyda chnydau âr dwys traddodiadol.  Gallai effeithiau mawr ar iechyd ac o ran maethynnau a gynigir gan y cnydau hyn olygu eu bod yn sicrhau gwerth uchel yn y farchnad, ynghyd â sylw sylweddol ymhlith defnyddwyr.  Mae'n ymddangos bod gweithgarwch arallgyfeirio gan ffermwyr âr i dyfu'r cnydau hyn yn ddibynnol ar y cyd-destun.  Er bod gofyn i flodau bwytadwy gael amgylcheddau pridd traddodiadol yn yr awyr agored, nid oes angen hyn ar blanhigion micro-wyrdd ac egin.  Mae planhigion micro-wyrdd ac egin yn cael llawer mwy o fudd o gael rheolaeth lwyr dros yr amgylchedd tyfu, ac o'r herwydd, maent yn llawer mwy addas i ffermio dan drefniant amgylchedd mewnol a reolir.  Mewn nifer o achosion, efallai y bydd hyn yn golygu y bydd gofyn i ffermwyr newid a buddsoddi mewn adeiladu'r amgylcheddau di-haint hyn a reolir, ac o'r herwydd, efallai y bydd gofyn ystyried y costau cyn cychwyn ar weithgarwch arallgyfeirio o'r fath.  Ar hyn o bryd, newydd ddechrau datblygu y mae'r wybodaeth ynghylch tyfiant planhigion micro-wyrdd, ond mae'n glir bod gofyn i wahanol rywogaethau gael gwahanol fewnbynnau wedi'u teilwra i'w proffiliau tyfu unigol, ond mae'n bosibl y byddant yn cael effeithiau amgylcheddol isel oherwydd yr adnoddau cyfyngedig sy'n ofynnol er mwyn eu tyfu.

 

Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Opsiynau amgen ar gyfer deunydd gorwedd i wartheg llaeth: Tail sych wedi’i ailgylchu
Dr Natalie Meades: IBERS, Aberystwyth University. Mawrth 2024 Mae
Cyfleoedd ar gyfer sefydlu gwerth tail a slyri a’u defnydd mewn economi gylchol
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Ebrill 2024
Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol