Gyda'r diddordeb cynyddol mewn mentrau dewis pwmpeni eich hun (PYO) fel cyfle arallgyfeirio i ffermwyr, yn ddiweddar cynhaliodd Cyswllt Ffermio ddigwyddiad ar fferm Aberbran Fawr ger Aberhonddu i drafod y pwyntiau allweddol i'w hystyried. Yn y bennod hon, clywn gan Chris Creed, ymgynghorydd garddwriaethol gydag ADAS, ac Andy Matthews, y ffermwr yn Aberbran Fawr, am ymarferoldeb sefydlu'r cnwd hyd at gynaeafu, marchnata a gwerthu.