23 Tachwedd 2021

 

I ddysgu sut i leihau’r risg o ddamweiniau ar eich fferm, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â stondin Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru (PDFfC) yn y Ffair Aeaf eleni ar Faes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd. 

Bydd y digwyddiad eleni yn cael ei gynnal ar ddydd Llun 29 Tachwedd a dydd Mawrth 30 Tachwedd. Am y tro cyntaf, bydd gan PDFfC – sy’n gydweithrediad rhwng sefydliadau rhanddeiliad gwledig allweddol yng Nghymru – stondin (Rhif 131) yn Neuadd De Morgannwg. Hoffai llysgenhadon PDFfC, y seren deledu a’r ffermwr adnabyddus Alun Elidyr, a ffermwr o Geredigion, sef Glyn Davies (sydd hefyd yn un o fentoriaid diogelwch fferm Cyswllt Ffermio), annog pob ymwelydd i fanteisio ar y gwahanol gyngor a’r adnoddau y gallant eu casglu’n rhad ac am ddim yn y Ffair Aeaf, ac i gymryd rhan yn y cystadlaethau diogelwch fferm.

“Bydd yr arwyddion diogelwch fferm PDFfC sy’n gallu gwrthsefyll pob math o dywydd, cylchoedd allweddi, ‘bagiau am oes’ cynfas, sticeri ‘Stopio Diogel’ i’w rhoi mewn cerbydau, a’r llyfryn ‘Prif awgrymiadau ar ddiogelwch fferm’ yn ein helpu i gofio mai ein cyfrifoldeb ni fel ffermwyr yw gwneud popeth o fewn ein gallu i weithredu arferion gweithio’n ddiogel sy’n lleihau’r risg o ddamweiniau,” meddai Alun Elidyr.

O 2yp ar ddau ddiwrnod y Ffair Aeaf, bydd yr arbenigwr diogelwch fferm Brian Rees (sydd hefyd yn fentor diogelwch fferm gymeradwy gyda Cyswllt Ffermio) yn rhoi arddangosiadau byr. Bydd yr arddangosiadau yn darparu arweiniad ar ddefnyddio harneisiau yn ddiogel ar gyfer y rhai sy’n gweithio ar uchder, yn ogystal ag awgrymiadau arfer gorau ar sut i yrru cerbydau fferm ar dir serth yn ddiogel – sef y ddau faes sydd wedi arwain at ddigwyddiadau trychinebus iawn ar lawer o ffermydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. 

Gwahoddir pawb sy’n ymweld â’n stondin i gymryd rhan mewn cwis Diogelwch Fferm PDFfC. Bydd un ar gyfer pob grŵp oedran, ac un arall sydd wedi’i dargedu’n benodol at ffermwyr ifanc o dan 30 oed. 

Cymerwch ran yn y ddau er mwyn cynyddu eich cyfle i ennill helmed Cerbydau Aml Dirwedd (ATV) gymwysadwy neu docynnau ar gyfer y Ffair Aeaf yn 2022.  Cyhoeddir yr enillwyr ar stondin PDFfC am 4yp ar ddydd Mawrth 30 Tachwedd. 

Am gyfle arall i ennill helmed ATV, ymwelwch â thudalen Diogelwch Fferm Cymru ar Facebook a’i hoffi, neu dilynwch @diogelwchffermcymru ar Twitter unrhyw bryd rhwng y Ffair Aeaf a’r Nadolig. Rhoddir yr holl wobrau gan bartneriaid PDFfC. Cysylltir ag unrhyw enillydd sydd ddim yn gallu casglu eu gwobr drwy e-bost neu neges destun. 

Dywedodd Glyn Davies y byddai PDFfC yn hyrwyddo rhaglen dysgu a datblygu gydol oes Cyswllt Ffermio drwy gydol y Ffair Aeaf.   

“Gydag ystod eang o gyrsiau hyfforddi a modiwlau e-ddysgu sy’n gysylltiedig â diogelwch fferm ac sy’n cael eu hariannu, ynghyd â hyd at 15 awr o fentora diogelwch fferm a ariennir yn llawn (sy’n gallu cael eu darparu dros y ffôn, trwy sgwrs anffurfiol wrth fwrdd y gegin neu daith gerdded o amgylch eich fferm), bydd y gwasanaethau hyn yn eich helpu i adnabod unrhyw beryglon posib o fewn eich busnes a chynnig arweiniad ar weithredu arferion gwaith mwy diogel,” meddai Mr Davies.  

Byddwch yn ymwybodol y bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o basbort COVID-19 neu brawf llif unffordd negyddol yn Ffair Aeaf 2021. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth YMA

Mae Partneriaeth Diogelwch Ffermio Cymru (WFSP) yn bartneriaeth gydweithredol o brif sefydliadau rhanddeiliaid amaethyddol sy’n cydweithio i helpu i ostwng y nifer annerbyniol o ddamweiniau difrifol a marwolaethau sy’n digwydd pob blwyddyn ar ffermydd ledled Cymru.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Coeden a dyfir ar fferm Rhwydwaith Coed Nadolig Cyswllt Ffermio yn cyflenwi Rhif 10
19 Tachwedd 2024 Mae gan fusnes o Bowys sy'n aelod o rwydwaith o
Estyn allan i’r genhedlaeth iau – Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn targedu’r ifanc mewn ymgais i wneud ffermydd Cymru yn fwy diogel
18 Tachwedd 2024 Nid yw bob amser yn hawdd dweud wrth ffermwr
Gwella’r gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd drwy gyrsiau Cyswllt Ffermio
13 Tachwedd 2024 Gall hyfforddiant a sgiliau newydd helpu