Mewnforiwyd y brîd o wartheg Limousin i’r DU gyntaf o Ffrainc 50 mlynedd yn ôl. Ers hynny, mae'r brîd wedi tyfu'n aruthrol mewn poblogrwydd, gan ddod yn un o fridiau bîff mwyaf poblogaidd yn y DU. Yn y bennod hon, clywn gan Dr Delana Davies o fuches pedigri Limousin Tierson, y bu eu theulu’n allweddol wrth gyflwyno’r brîd i Gymru. Clwy'n hefyd gan Alison Glasgow, Rheolwr Technegol Cymdeithas Gwartheg Limousin Prydain am rywfaint o’r ymchwil arloesol sy’n cael ei wneud i wella nodweddion carcas ac effeithlonrwydd porthiant y brîd.