7  Chwefror 2022

 

Mae defnyddio dulliau gwell o reoli pridd, porfa a slyri i fod yn fwy effeithlon yn gallu helpu ffermwyr glaswelltir i leihau’r effaith negyddol a geir ar dwf glaswellt wrth leihau mewnbynnau nitrogen (N).

Bydd y cynnydd ym mhris gwrtaith yn ychwanegu 3c/litr at gostau cynhyrchu llaeth eleni, o’i gymharu â 2021 - neu £12 at gostau cynhyrchu oen tew, a £90 at gostau cynhyrchu lloi ifanc, yn ôl cyfrifiadau’r arbenigwr pridd a glaswelltir annibynnol, Chris Duller.

Yn ystod gweminar a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Cyswllt Ffermio, cynigiodd Mr Duller gyngor arbenigol ar sut y gall tyfwyr liniaru yn erbyn y costau mewnbynnau uwch hynny.

Roedd prisiau gwrtaith yn 2020 yn costio i systemau glaswelltir ar gyfartaledd ffigur sy’n cyfateb i £47/ha, ond mae’r gost honno’n awr yn £134/ha: mae amoniwm nitrad (34.5%N) ar hyn o bryd yn gwerthu am bris uwch nag erioed o’r blaen o £650/tunnell (t), TSP (46%N) £555/t a MOP (60%N) £560/t.

Dywedodd Mr Duller nad oes dim yn y farchnad yn awgrymu y bydd prisiau gwrtaith yn syrthio yn y dyfodol agos: “Mae’n annhebygol iawn ar hyn o bryd y gwelwn y pris yn cwympo’n sylweddol.” 

Yn erbyn y cefndir hwnnw, cyflwynodd y dewisiadau i ffermwyr eu hystyried.

“Bydd y colledion o ran twf glaswellt yn gymharol fach yn sgil lleihau cyfraddau taenu unigol 5-10kgN, yn enwedig yn y gwanwyn,” cynghorodd.

Ond drwy leihau’r cyfraddau’n sylweddol, bydd y gwahaniaeth yn amlwg iawn, rhybuddiodd:

“Os bydd ffermwr yn defnyddio hanner yr N ag a ddefnyddiodd y llynedd gan ei fod ddwywaith mor ddrud, gall ddisgwyl tyfu 20-30% yn llai o laswellt, yn enwedig os yw’n dewis cwtogi yn ystod mis Mai a mis Mehefin pan fo twf glaswellt ar ei orau.

“Ac os na wneir dim i wella effeithiolrwydd, bydd ganddynt yn y diwedd lai o allbwn – er enghraifft, llaeth neu gig – a bil dwysfwyd uwch o bosibl.”

Y caeau gorau i gwtogi mewnbynnau N arnynt ydy’r caeau sâl iawn lle mae’r gyfradd ymateb yn isel, ac yn ystod y gwanwyn a’r hydref ar gaeau lle mae cyflwr y pridd a meillion yn dda ac yn debygol o roi lefelau da o N naturiol, cynghorodd Mr Duller.

Rhybuddiodd yn erbyn cwtogi ar gaeau sydd wedi’u hail-hadu yn ddiweddar; “Y caeau hyn sy’n ymateb orau,” meddai.

I dyfu 12t deunydd sych (DM)/ha o rygwellt gyda phrotein crai cyfartalog o 18%, mae gofyn cael oddeutu 346kgN, ond gall hwn ddod o amryw o ffynonellau yn hytrach na gwrtaith synthetig a slyri; mae mwneiddio, sefydlogi o wndonnydd meillion a gwaddodi o’r aer oll yn cyfrannu. 

Ceir cyfle i brynu porthiant yn awr os oes llai o laswellt yn debygol o gael ei dyfu, neu i werthu stoc yn gynnar – er enghraifft, gallai gwartheg a fwriedir ar gyfer y farchnad stôr gael eu gwerthu ar ôl eu diddyfnu yn hytrach.

Mae cymryd tir rhent rhatach ar gyfer pori yn ystyriaeth arall.

“Nid wyf fel arfer yn eiriol dros gymryd tir ychwanegol yn hytrach na gwneud y gorau o’r tir sydd gennych eisoes, ond fe allwch gynhyrchu 4tDM/ha o dir eithaf sâl,” meddai Mr Duller.

“Os yw’r rhent yn £200/ha ac os na roddir dim NPK (nitrogen, ffosffad a potash), bydd yn costio 5c/kgDM.

“I gael dwbl yr allbwn hwnnw ar eich tir eich hun (8t/DM/ha) bydd angen 200kgN i gynhyrchu’r 4tDM yn ychwanegol am gost o £400/ha, a bydd hynny’n costio 10c/kgDM ichi.”

Dywedodd Mr Duller y gallai sefydlu cnydau sydd angen llai o N weithio ar gyfer rhai systemau.

I gynhyrchu 12tDM o system silwair tri thoriad, mae gofyn cael 250kgN, 80kg ffosfforws (P) a 250kg potasiwm (K), ond byddai arnoch angen rhoi llai o faeth i gynhyrchu 12tDM o indrawn - 50-100kg N a 55kg P a 175kg K.

Ond dywedodd Mr Duller, hyd yn oed ar y prisiau presennol, fod cyfradd ymateb N yn ei wneud yn gost-effeithiol i’w ddefnyddio, o’i gymharu â phrynu porthiant.

Gyda’i gyfradd ymateb o o leiaf 25:1, am bob 1kg o N a ddefnyddir, caiff 25kgDM o borthiant ei gynhyrchu. Gan gynnwys costau taenu, ar £650/t am AN (nitrogen artiffisial), mae’n costio £2/kg N wedi’i daenu.

“Gan dybio ymateb cyfartalog o 25:1, mae hynny’n gwneud y gost am bob kgDM yn 8c, ac mae hynny’n dal yn ffafriol o’i gymharu â phorthiant ar 28c/kgDM – ond mae hynny’n tybio eich bod yn defnyddio 100% ohono,” meddai Mr Duller.

I gael yr ymateb gorau gan unrhyw N a ddefnyddir, dylai cemeg y pridd fod yn dda, dylai’r priddoedd fod yn gynnes a sych, a dylai’r dyddiau fod yn hirach. Mae rhywogaethau glaswellt a phriddoedd nad ydynt wedi cywasgu yn bwysig, hefyd.

Mae osgoi’r cyflyrau ymylol hynny sy’n llesteirio’r gyfradd ymateb yn ffordd arall o ddefnyddio llai o N, meddai Mr Duller.

“Dylech osgoi cyflyrau a fydd yn rhoi ymateb gwael, a gadewch y caeau gwaethaf allan yn gyfan gwbl,” argymhellodd.

Gellir gwneud iawn yn rhannol am y glaswellt a gollir drwy wella effeithlonrwydd, megis statws maethol y pridd.

Ar pH pridd o 5.5 a defnyddio 200kg/ha o N, bydd y gyfradd ymateb yn 20:1, felly bydd pob kgDM yn costio 10c i’w dyfu. Drwy gynyddu’r pH i 6.2 a chynnwys cost calchu o £23/ha dros wyth mlynedd, gellir lleihau’r N a ddefnyddir i 150kg/ha a bydd y gyfradd ymateb yn cynyddu i 25:1, sy’n golygu y bydd y gost o dyfu pob kgDM yn gostwng i 7c. 

“Cywirwch y statws P a K, rhowch sylw i unrhyw broblemau â draeniau a chywasgu pridd, tynhewch yr arferion pori neu gribinio i gael gwared ar dyfiant marw, cynyddwch y cynnwys rhygwellt ac ychwanegu mewnbynnau tail yn rheolaidd i briddoedd sydd â deunydd organig isel,” cynghora Mr Duller.  

Bydd cynyddu’r defnydd drwy reoli’r pori neu bori mewn cylchdro yn lleihau gwastraff: os defnyddir 150kg o N i dyfu 6000kgDM/ha, ond dim ond 60% a ddefnyddir, mae hynny’n cyfateb i bori 3600kgDM/ha yn unig.

Dewisiadau eraill i leihau cyfraddau N yw canfod y caeau lle gall meillion a chyflyrau pridd da ddarparu N haf a hydref, a graddnodi peiriannau chwalu gwrtaith a defnyddio technegau taenu manwl.

Mae hefyd yn bwysig gwella’r dulliau o storio a thaenu slyri; mae dull taenu slyri taflwybr isel yn lleihau yr amonia a gollir 70%.

“Fe all dulliau rheoli slyri fynd rhan o’r ffordd i leihau, ond nid dileu o bosibl, N wedi’i fagio,” meddai Mr Duller.

I ffermwyr sy’n ansicr pryd dylent roi eu harcheb am wrtaith i mewn, roedd yn eu hannog i beidio â chael eu dal gan broblemau cyflenwi.

“Os nad ydych chi’n prynu nawr, ni fydd gennych ddim ar gyfer Mawrth/Ebrill,” meddai.

“Mae’n iawn oedi cyn prynu gwrtaith i’w ddefnyddio ym mis Mai/Mehefin, ond peidiwch â’i adael yn rhy hir.”

Caiff Cyswllt Ffermio, a gyflwynir gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu