Taith Astudio Cyswllt Ffermio - Grŵp Academi Amaeth 2019
Grŵp Academi Amaeth 2019
Yr Alban
7-10 Hydref 2021
Yn Bresennol
Neil Davies
Gwen Price
Irwel Jones
Heledd Dancer
Llŷr Jones
Eurof Edwards
Rheinallt Harries
Sioned Davies
Rob Powell
Cyfanswm: 9
Arweinydd y grŵp: Neil Davies
Themâu a sectorau:
Themâu trawsbynciol: Cenedlaethau’r Dyfodol, Rheolaeth Gynaliadwy o Adnoddau Naturiol, Iechyd a Lles Anifeiliaid, ac Iechyd a Diogelwch.
Sector: Bîff, Defaid, Glaswelltir, Tir Âr a Bioamrywiaeth.
Themâu Creiddiol: Bioddiogelwch, Cloffni, Defnydd cyfrifol o feddyginiaethau / Mynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd ac anthelmintig, Annog cynllunio iechyd anifeiliaid, Pridd, Rheolaeth glaswelltir, Rheoli pori, Rheolaeth amgylcheddol, Arloesi, Amaethyddiaeth fanwl, Datblygiad ac Arallgyfeirio Busnes.
Trosolwg o’r grŵp
Ffurfiwyd y grŵp hwn o Raglen Busnes ac Arloesedd Academi Amaeth Cyswllt Ffermio 2019. Ers hynny, rydym wedi cadw mewn cysylltiad fel grŵp drwy gyfrwng sgwrs WhatsApp, ond yn sgil Covid, doedd dim cyfle i gwrdd wyneb yn wyneb yn ystod 2020. Felly, dyma gyfle arbennig i ddysgu mwy am y diwydiant amaethyddol a busnesau eraill sy’n ysbrydoli. Drwy gydol y rhaglen Academi Amaeth, rydym wedi dysgu llawer am ein gilydd, yn cynnwys beth yw ein diddordebau o fewn y diwydiant, a’r mentrau y byddem yn dymuno’u datblygu; felly, byddai taith i weld mentrau eraill yn Yr Alban yn fanteisiol i ni gyd. Fel unigolion, mae gan bawb gysylltiad cryf â Cyswllt Ffermio, e.e. cyrsiau hyfforddi, Ffermydd Arddangos, aelodau grŵp trafod a’r rhaglen fenter, ac mae pawb yn defnyddio’r gwasanaethau i wella, cefnogi a hybu i eraill. Bydd yr ymweliad astudio’n ychwanegu gwerth i weithgareddau blaenorol y rhaglen Academi Amaeth i weld ffermydd, busnesau a mentrau o fewn y DU (Yr Alban), a allai ein hysbrydoli i fentro ar gynllun newydd. Mae’r diwydiant yn newid, a rhagwelir mwy o lawer o newidiadau, er enghraifft, NVZs, gostyngiad mewn SFP, lleihad yn y defnydd o wrthfiotigau ayb. Felly, bydd yr ymweliad astudio hwn yn gwneud i ni ailfeddwl y systemau rydym eisoes yn eu gweithredu – yn benodol llaeth, defaid, bîff, llety gwyliau, dofednod, a chontractio – gan bwysleisio sut y gallem wella, yn nhermau costau, rhwyddineb gwaith, diogelwch a marchnata.
Nodau ac amcanion
Y prif nod yw ymweld â nifer o ffermydd a mentrau busnes newydd a allai ein hysbrydoli fel ffermwyr ifanc i wneud newidiadau fel y genhedlaeth nesaf o ffermwyr yng Nghymru.
- Dysgu am y systemau sy’n cael eu defnyddio, yn cynnwys pori, gofal stoc, bwydo, perfformiad a chofnodi data, a gweld os oes unrhyw newidiadau posib y gellid eu gwneud i’n systemau ein hunain.
- Ein hysbrydoli i fod yn fwy mentrus drwy edrych ar gynlluniau arallgyfeirio ledled Yr Alban.
- Edrych ar wella diogelwch ar y fferm a sut y gallem ei weithredu’n fwy yn ein gwaith o ddydd i ddydd.
- Dysgu am dechnoleg newydd o safbwynt rheoli glaswelltir/pridd, pori manwl.
Rhaglen yr ymweliad astudio
Diwrnod 1
Maes Awyr Bryste – Gwnaeth pawb eu ffordd i Faes Awyr Bryste fore Iau, i ddal awyren 14.05, i gyrraedd Inverness am 15:30. Wedi hediad digon esmwyth, fe deithion ni i’r gogledd hyd at Tain, gan aros mewn gwesty lleol a threfnu pryd nos yn Platform 1864, oedd yn cynnwys trafodaethau a derbyn cefndir aelodau o’r grŵp.
Diwrnod 2
Dechrau cynnar gan adael y gwesty am 07:30 er mwyn cyrraedd ein lleoliad gyntaf am 08:00 sef fferm Fern Farm.
Derbyniodd y grŵp Academi Amaeth groeso cynnes iawn ar fferm Fern Farm, gan ddechrau ein hymweliad yn sied y gwartheg a derbyn amlinelliad o’r busnes.
Denwyd sylw’r grŵp gan John Scott, ochr yn ochr â’i dad James, wrth fynd o gwmpas y fferm, gan ddechrau drwy weld y gwartheg. Holwyd nifer o gwestiynau, ac atebwyd yn onest a gwir gan John, wrth iddo esbonio’r anawsterau o gael y staff iawn i weithio yno, a’r brwdfrydedd sydd ei angen arnyn nhw i lenwi’r swyddi ar fferm Fern Farm.
Busnes teuluol pedwaredd genhedlaeth yw fferm Fern Farm, ac maen nhw’n berchen neu’n rhentu nifer o unedau gwahanol. Y brif uned oedd fferm Fern Farm sy’n 471 hectar, yn ogystal â 315 hectar o dir rhent. Y prif uchelgais a’r nod oedd cynhyrchu da byw o safon uchel gan arddel safonau iechyd da. Roedden nhw’n cofnodi perfformiad ac yn defnyddio system borthiant oedd yn seiliedig ar borfa. Roedd cyfanswm o chwe gweithiwr llawn amser (gyda staff tymhorol ychwanegol yn ôl y gofyn).
Ar ddechrau’r daith cawsom ein harwain i weld 25 tarw magu pedigri byrgorn sy’n cael eu gwerthu’n flynyddol drwy eu harwerthiant Yourbid eu hunain ac yn breifat. Aethom yn ein blaenau o gwmpas y fferm i weld 100 o fuchod a heffrod biff BSH-X byrgorn Prydeinig croes sy’n lloia yn ystod y gwanwyn. Cyn hynny, cafwyd trafodaeth am y system aeafu allan ar borfa/porthiant gyda lloia y tu mewn yn unig. Cyfeiriodd John hefyd at y 120 o fustych croes a brynwyd fel stôr i’w tewhau a’u gwerthu i Woodheads, Morrisons, premiwm bîff byrgorn a’r cigyddion fferm byfflo.
(Gaeafu y tu allan ar ffyrdd/caeau’r llu awyr)
Ychydig filltiroedd yn ddiweddarach, fe gyrhaeddom ni’r mamogiaid – diadell o 800 o ddefaid bridio a 2,000 o ddefaid croes o amrywiaeth fridiau yn cynnwys Aberfield, Texel, Suffolk Seland Newydd a hyrddod Beltex. Mae fferm Fern Farm yn cynnal arwerthiant hyrddod blynyddol Great from Grass, pan fydd 180 o hyrddod yn cael eu gwerthu’n flynyddol. Mae wyna y tu fewn a’r tu allan yn dechrau ar fferm Fern Farm ar 15 Chwefror, gyda’r defaid tor-ceg, yna’r defaid bridio/masnachol ar 15 Mawrth, gan orffen gyda’r 500 o ŵyn benyw (hesbinod) ar 5 Ebrill. Caiff yr ŵyn eu gwerthu wedyn fel stôr neu wedi’u pesgi i gigyddion lleol a Morrisons.
Yn olaf, dyma ni’n cyrraedd y caeau tir âr, oedd yn tyfu 180 hectar o haidd gwanwyn Laureate sy’n cael ei dyfu ar gyfer bragu, 20ha o wenith gaeaf Skyscraper ar gyfer distyllu, a nifer o gnydau porthiant eraill ar gyfer y gwartheg a’r defaid – yn amrywio o faip sofl, rêp, betys porthiant, erfin a bresych deiliog. Caiff dros 3,000 tunnell o silwair mewn pit a gwair eu cynaeafu bob blwyddyn, a chaiff yr holl waith contractio ei wneud gan gontractwr lleol.
Yn ogystal â’r fenter fawr hon ar fferm Fern Farm, maen nhw hefyd yn ffermio ar gontract 50 o wartheg a 400 o famogiaid mewn lleoliad gwahanol. Ymhellach, mae John wedi buddsoddi mewn dwy felin wynt a boeleri biomas i gynhyrchu gwres ar gyfer y ffermdy a’r sychwr grawn. Buddsoddiad diweddar iawn oedd bwthyn gwyliau ar Fern Farm, â lle i hyd at 14 o bobl gysgu.
Cafodd y grŵp eu rhyfeddu gan faint y busnes, a’r holl waith a’r holl fentrau oedd yn digwydd ar yr un pryd. Serch hynny, pwysleisiodd John eu bod yn wynebu rhai heriau o safbwynt staff; nododd fod dod o hyd i’r person iawn i ofalu am y stoc yn anodd ar y gorau, a bod Covid wedi gwneud pethau’n anodd o safbwynt teithio a myfyrwyr. Er gwaethaf hynny, roedd hi’n hawdd gweld eu bod yn gweithio’n galed iawn fel teulu/tîm.
Hedfanodd y bore ar fferm Fern Farm, ond daeth hi’n bryd ymadael a throi i lawr i gyfeiriad Dundee, taith deirawr, ar gyfer ein hymweliad nesaf ag IGS Crop Research. Yng nghanolfan ymchwil cnydau’r IGS, dangoswyd beth ellid cyfeirio ato fel ffermio fertigol: ecosystem dan do lle mae planhigion yn ffynnu drwy ddulliau twf sydd wedi’u cynhyrchu a’u cymhwyso’n awtomatig. Yn y tyrau tyfiant, roedd goleuadau llachar a lleithder cynnes. Mae'r system tyrau estyll twf cwbl awtomataidd yn rheoli golau, tymheredd, lleithder cymharol, dŵr, maetholion a lefelau CO₂. Roedd y cyfan yn 100% robotaidd, ac yn cael ei reoli ar lefel fferm/twr/astell/stribed LED 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae gan y tyrau tyfiant lu o dechnolegau ynddyn nhw er mwyn caniatáu i gnydau ffynnu yn yr amodau gorau, gydag arbedion cost radical (pŵer, gosodwaith, cynnal a chadw), gyda chynhyrchiant sylweddol uwch, o safbwynt cnwd, ansawdd a chysondeb. Cynlluniwyd y system i weithredu mewn unrhyw le ledled y byd, heb unrhyw blaladdwyr (heb fod angen golchi’r cnwd), ac roedd planhigion yn cael eu monitro ar gyfer ymateb i newidiadau yn y dull, a arweiniodd at gylchred cnwd oedd 30-50% yn gyflymach.
Agorodd yr ymweliad â’r IGS Crop Research ein llygaid i bosibilrwydd a datblygiad technoleg newydd.
Diwrnod 3
Siop fferm Thorneybank Farm Shop oedd ein cyrchfan gyntaf – ymweliad oedd yn agoriad llygad, yng nghwmni Neil Stephen. Mae siop fferm Thorneybank Farm Shop wedi bod yn darparu cynnyrch cartref ffres a lleol ers y 1970au. O’r pridd i’r plât, caiff eu llysiau eu casglu’n ddyddiol, gan gynnig y cynnyrch gorau a’r mwyaf ffres i’w cwsmeriaid. Roedd ganddyn nhw gynnyrch wedi’i bobi gartref hefyd gan Catherine Stephen. Mae ei theisennau brau yn ffefryn mawr gyda phobl o bedwar ban y byd – mae’n toddi yn y geg! Busnes teuluol go iawn yw hwn, gyda thair cenhedlaeth o’r teulu Stephen yn ymwneud â’r gwaith rhedeg y siop fferm o ddydd i ddydd. Ym mis Tachwedd 2018, buddsoddwyd mewn technoleg peiriannau gwerthu er mwyn cyfoethogi profiad siopa cwsmeriaid. Y peiriannau gwerthu oedd y cyntaf o’u math yn y DU. Roedden nhw’n lân, yn ddiogel ac yn hawdd i’w defnyddio, a derbynnir taliadau ag arian parod â thalu digyswllt. Caiff y darnau ffansi eu cynhyrchu gan y busnes, ac maen nhw wedi gweithio gyda grŵp bychan o werthwyr a dosbarthwyr lleol dibynadwy i ddarparu eu cynnyrch bwyd gorau. Yn ystod ein hamser yn siop fferm Thorneybank Farm Shop, daeth amryw o bobl i brynu cynnyrch, ac roedd hi’n bosib i ni weld sut roedd y peiriannau gwerthu’n gweithio â’n llygaid ein hunain. Roedd hi’n fraint gweld Eric Stephen ei hun, ac yn braf gweld y cenedlaethau nesaf yn cymryd awenau’r busnes ac yn gwneud newidiadau a datblygiadau gyda chefnogaeth aelodau’r teulu, i redeg y fenter nesaf.
Aeth ail ymweliad y dydd â ni i ddistyllfa GlenDronach Distillery. Mae eu chwisgi Highland yn adnabyddus am eu lliwiau dwfn a phroffiliau blas cyfoethog, sy’n amrywio o flasau ffrwythau melys, o’r casgenni Pedro Ximenez a ddewisir ganddyn nhw, i flasau sych, blas cnau o’r casgenni Oloroso arbennig. Roedd y daith yn cynnwys blasu tri chwisgi o’u prif gynhyrchion coeth, gan ystyried y grefft o aeddfedu sieri, a blasu tryffls siocled a wnaed â llaw i ategu ac ehangu profiad blas y chwisgi. Wedi’i sefydlu yn 1826, GlenDronach oedd un o’r distyllfeydd trwyddedig cyntaf, ac mae iddi hanes o berchnogion mentrus, o’r lliwgar James Allardice i’r uchelgeisiol Walter Scott. Roedd Allardice yn gymeriad llachar, a cheir llu o straeon am y modd yr hybodd ei chwisgi gyda’i reddf a’i ddawn. Roedd yn arloeswr ym maes aeddfedu casgenni sieri, a byddai wedi dathlu’r GlenDronach presennol arbennig, yn aeddfedu chwisgi yng nghasgenni sieri gorau Pedro Ximenez ac Oloroso. Mae GlenDronach yn enwog fel meistri aeddfedu casgenni sieri; mae eu cyfrinachau hynod wedi’u cadw’n ddiogel ers bron i 200 mlynedd gan haid o ydfrain sy’n hoffi Glen Dronach gymaint, nes eu bod yn ceisio nythu yn y stordai! Mae criw’r ddistyllfa’n credu y bydd y chwisgi’n dda cyhyd ag y bydd yr ydfrain yn aros yn y ddistyllfa.
Aeth trydydd ymweliad y dydd â ni ar daith ddwy awr i Banchory at TLC Potatoes. Mae TLC Potatoes wedi bod yn gweithio gyda microhinsawdd unigryw gogledd ddwyrain Yr Alban i dyfu cloron bach tatws ardystiedig, di-feirws i'r safon uchaf posibl. Caiff micro blanhigion o stoc SASA ardystiedig eu lluosi yn y labordy cyn cael eu tyfu mewn twneli polythen, o dan y trefniadau maeth a dyfrhau gorau posibl.
Wedi cynaeafu, caiff eu cloron bach o’r safon uchaf eu hanfon at dyfwyr tatws had ledled y DU ac Ewrop, Canolbarth a De America, Tsieina a De Affrica. Cafodd y grŵp daith o gwmpas y labordy a’r twneli polythen i weld ble’r oedd y coesyn cyntaf yn cael ei dorri, i dyfu’r tatws a hefyd y cyfleusterau storio oer. Cawsom gyfle hefyd i weld y gwahanol fathau o datws sy’n cael eu tyfu yn TLC. Roedd yr ymweliad yn un annisgwyl o oleuedig o safbwynt tatws a’r amser sydd ei angen i ddatblygu mathau newydd, yn ogystal â’r holl waith.
Treuliwyd gweddill y noson yn teithio i gyfeiriad Irvine i aros y nos a chael pryd o fwyd, cyn cael syrpréis wedi’i drefnu gan Neil a Llŷr (Derwydd), i gyfarfod â grŵp Academi Amaeth 2021. Cawsom gyfarfod gyda’r nos arbennig gyda nhw’n trafod ein cyfnod gyda’r Academi Amaeth, a’n cyraeddiadau ers hynny.
Diwrnod 4
Wedi dechrau’n gynnar am 07:30 dyma ni’n bwrw i gyfeiriad Galashiels, i ymweld â Jim a Jane ar fferm Pirntaton Farm. Dechreuodd yr ymweliad â throsolwg o fferm Pirntaton Farm, sy’n 630ha (530ha sy’n effeithiol), â thua chwarter y tir wedi’u glustnodi fel tir pori garw. Mae’r tir yn codi i 1,700 troedfedd uwchben lefel y môr. Mae tua 90% o’r fferm yn uwch na 1,000 troedfedd. Mae tua 100ha o’r fferm wedi’i gorchuddio â choetir, gyda chryn dipyn o’r plannu wedi digwydd yn ystod 2019/20. Seilir eu system ffermio ar dyfu ac yna defnyddio cymaint o borthiant a dyfwyd gartref â phosibl, gyda da byw sy’n wydn, yn effeithlon ac yn hawdd eu cadw. Mae hyn yn eu caniatáu i gadw costau cynhyrchu’n isel, tra’n cynyddu’r allbwn yn sylweddol drwy gyfrwng pori cylchdro a chnydau porthiant a lleihau’r bwydydd sydd angen eu prynu. Yn gyffredinol, mae eu cynhyrchiant wedi codi o 290-550kgLW/ha tra bod y defnydd o’r dwysfwyd a brynwyd wedi’i leihau o hyd at 90%. Crybwyllodd Jim eu bod yn cofnodi a monitro perfformiad eu da byw a’u porfeydd. Rhywbeth nad ydym ni yn ei weld yn aml yw magu ceirw, a chyfeiriodd Jim at y brid/geneteg, costau a pherfformiad – penderfyniad dewr i ddechrau ar fenter newydd wrth iddyn nhw sylweddoli fod potensial mawr gan y fferm o hyd i dyfu mwy o borfa.
DIADELL FASNACHOL
- Y tu allan, ŵyna’r ddiadell fasnachol yn ystod Ebrill/Mai
- Tua 1,300 o ddefaid croes Mule a Texel, hyd at uchafswm o 1,900 o’u mamogiaid cyfunol (composite ewes) Romney Seland Newydd. Gyda chyflwyno’u menter newydd i gadw ceirw, mae niferoedd y defaid bellach wedi disgyn rhywfaint i tua 1,750 o ddefaid, sydd hefyd yn cynnwys defnyddio dulliau geneteg gyda defaid Llŷn, Cheviot a Texel.
DIADELL FRIDIO
- Caiff 160 o ddefaid Suffolk a Texel sydd heb eu cofrestru gyda’u perfformiad wedi’u gofnodi eu defnyddio i gynhyrchu hyrddod i’w defnydd eu hunain ac i’w gwerthu fel ŵyn hesbin.
- Defnyddio’r lleiafswm o ddwysfwyd. Maen nhw’n canolbwyntio ar nodweddion mamol, fel rhwyddineb wyna, gallu mamol a goroesedd ŵyn, yn ogystal â’r nodweddion terfynol mwy cyffredin.
- Mae’r hyrddod a gynhyrchwyd o’r ddiadell wedi eu bwydo cant y cant ar borthiant ers 2013. Yn yr un modd ag yn eu diadell fasnachol, maen nhw’n dilyn polisi traed “dim torri” yn eu diadell fridio. Caiff hyrddod eu geni ym mis Ebrill a’u gwerthu’n flynyddol fel ŵyn hesbin o fis Awst ymlaen. Maen nhw’n cael eu gwerthu drwy gytundeb preifat.
Treuliwyd y prynhawn hwnnw’n teithio tuag adref i Gymru. Cafwyd cyfle i hel meddyliau ynglŷn â ‘beth nesaf’ i bawb yn y grŵp yn ystod y daith. Mae’n amser nawr i ystyried ein hymweliadau ac integreiddio’r hyn a ddysgwyd gennym i’n harferion ffermio gartref. Mae gan sawl aelod o’r grŵp fentrau newydd ar y gweill, ac fe wnaeth yr ymweliad hwn iddyn nhw ailfeddwl a gwerthuso’r penderfyniadau hynny, yn ymwneud â siopau fferm, llety gwyliau, cofnodi perfformiad, iechyd anifeiliaid (cloffni, er enghraifft) a chymryd risg gyda mentrau newydd.
Dymuna grŵp Academi Amaeth 2019 ddiolch i bawb yn Yr Alban am eu croeso cynnes, am ganiatáu i ni ymweld â’u ffermydd a’u busnesau, a diolch i Cyswllt Ffermio am eu cefnogaeth barhaus a’u nawdd ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth. Roedd y daith astudio i’r Alban yn brofiad gwerthfawr i bawb a gymerodd ran, a bydd effaith y daith yn amlwg am flynyddoedd lawer i ddod. Diolch hefyd i Neil Davies (Arweinydd) am drefnu’r fath daith astudio gynhwysfawr.