22 Mawrth 2022
Mae cyfnewid cymysgedd protein a brynwyd i mewn gyda ffa a phys wedi eu tyfu gartref yn helpu fferm bîff yn Sir Benfro i leihau ei hôl troed carbon, gan gynnig arbediadau sylweddol ar gostau gwrtaith a dwysfwyd hefyd.
Mae gan y cnwd codlysiau a dyfwyd ar wyth hectar (ha) ar Fferm Pantyderi, Boncath, y gallu i sefydlogi nitrogen; mae hyn yn golygu bod y cnwd o wenith gaeaf oedd yn ei ddilyn yn y cae yn debygol o weld gostyngiad o 2.32 tunnell (t) yn y gwrtaith nitrogen o ganlyniad.
Fel mae prisiau nitrad amoniwm ar hyn o bryd, mae hyn yn golygu arbediad o £1,508. Ond roedd y manteision yn mynd tu hwnt i’r rhai ariannol, fel y dywedwyd wrth weminar Cyswllt Ffermio yn ddiweddar. Trwy beidio â defnyddio’r 2.32t o wrtaith, roedd y safle arddangos Cyswllt Ffermio yn tynnu 2.72t posibl o CO2 cyfatebol o’i ôl troed carbon.
Roedd y budd hwn i’w weld hefyd trwy gael gwared ar borthiant wedi ei brynu i mewn. Cymerodd y cnwd le 40t o ddwysfwyd protein – sy’n cyfateb i 60t o CO2, dywedodd Swyddog Technegol Cyswllt Ffermio Dr Delana Davies, oedd yn rheoli’r prosiect.
“Mae’r ffigyrau yma’n seiliedig ar ôl troed carbon cymysgedd bragu rêp ac india corn mewn melin fwyd,” dywedodd wrth y weminar.
Cafodd y prosiect sylw ar stondin Llywodraeth Cymru yn y digwyddiad Amaethyddiaeth Carbon Isel ym Mharc Stoneleigh ar 8-9 Mawrth, gydag eraill o safleoedd arddangos Cyswllt Ffermio.
“Nid yn unig nid oedd angen gwrtaith i dyfu’r pys a’r ffa a’i fod wedi dileu’r angen i brynu dwysfwyd i’r gwartheg bîff, mae hefyd wedi sefydlogi nitrogen – gan leihau faint o wrtaith oedd yn angenrheidiol ar gyfer y cnwd grawn dilynol,” dywedodd Dr Davies.
Disodlodd y codlysiau gymysgedd protein 36% oedd yn cael ei borthi ar gyfradd o 1-1.5kg/pen/dydd gyda silwair glaswellt a barlys wedi ei grimpio a’i drin ag wrea gartref yn y dognau tyfu a gorffen i 400 o wartheg.
Dywedodd Eurig Jones, sy’n ffermio ym Mhantyderi gyda’i dad, Wyn, ei fod yn gam pwysig tuag at y nod o ddod yn hunangynhaliol o ran protein yn y fenter bîff.
Roedd y cnwd, y gwnaeth ei gynaeafu ar 3 Medi 2021, yn dangos 26.6% protein a 13.6 ME o ran cynnwys sych (DM) a 61.7% DM, ac roedd yn cynnig cynnyrch protein fel yr oedd yn cael ei borthi o 860kg/ha fel porthiant wedi ei grimpio.
Dangosodd y costau a gyfrifwyd gan faethegwr y prosiect, Hefin Richards, fod y porthiant yn costio £242/t, mewn cymhariaeth â £275/t ar gyfer ffa wedi eu prynu i mewn a’u malu.
Mae’n well gan y cnwd bridd sy’n draenio’n dda, ac mae’n ymateb yn dda i ddigon o leithder, oedd yn golygu ei fod yn cyd-fynd yn dda â’r amodau ym Mhantyderi.
Rhoddwyd calch ar y cae treialu ar gyfradd amrywiol o 937kg/ha i godi’r pH o 5.8 i 6.5 (y pH delfrydol ar gyfer ffa a phys yw un sy’n uwch na 6); chwalwyd tail ar 25t/ha; nid oedd angen unrhyw nitrogen ychwanegol.
Mae arferion tyfu ffa a phys yn cyd-fynd yn dda â’i gilydd: mae’r ffa yn cynnig sgaffaldiau cryf sy’n helpu i gadw’r pys ar eu traed yn hwyrach yn y tymor; maent hefyd angen yr un dull o ran agronomi, dywedodd Dr Davies.
“Trwy dyfu cnwd dwbl hefyd mae tuedd at gysoni unrhyw wahaniaethau o ran amser i aeddfedu, ac mae’r pys yn llenwi’r bylchau rhwng y ffa mwy yn y clamp,” esboniodd.
Heuwyd yr hadau ddwywaith ar 22 Ebrill. Heuwyd y ffa i gychwyn, ar gyfradd o 308kg/ha a dyfnder o 60mm ac yna’r pys ar 225kg/ha a dyfnder o 30mm. Cyfrifwyd y cyfraddau yma ar gyfer yr hadau gan ddefnyddio ap sydd ar gael trwy Sefydliad Ymchwil y Proseswyr a’r Tyfwyr (PGRO). Defnyddiwyd ffwngladdwr ddwywaith i daclo ‘chocolate spot’.
Cynaeafodd Mr Jones y cnwd gyda’i gombein ei hun, gyda chyllell ochr wedi ei gosod arno. “Mae’n rhaid cael y gyllell ochor – darn hanfodol o offer ar gyfer y gwaith,” dywedodd.
Roedd cael yr amseru’n iawn yn gofyn am gydbwysedd rhwng cael y cnwd yn ddigon sych i fynd trwy’r combein, ond dros 30% o leithder i’w grimpio. Cynhyrchodd y cnwd 5.25t/ha – 42t o 8ha – a hefyd cynhyrchodd 22 o fyrnau/ha o wlydd (y darn ffibrog o’r planhigyn sydd yn well na gwellt o ran maeth).
Dywedodd Dr Davies fod y prosiect wedi bod yn llwyddiannus iawn ar sawl cyfri: “Mae’n sefyllfa fanteisiol ym mhob ffordd, ac mae wedi rhoi tic mewn nifer annisgwyl o flychau.”
Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Ewrop dros Ddatblygu Gwledig.