Cyflwyniad Prosiect Ty Draw: Meintioli effaith cyngor technegol: adolygiad o berfformiad y busnes yn dilyn newidiadau rheoli o flwyddyn i flwyddyn
Safle: Ty Draw, Llanasa, Treffynnon, Sir y Fflint
Swyddog Technegol: Non Williams
Teitl y Prosiect: Meintioli effaith cyngor technegol: adolygiad o berfformiad y busnes yn dilyn newidiadau rheoli o flwyddyn i flwyddyn
Cyflwyniad i'r prosiect
Mae nifer o newidiadau rheoli wedi’u rhoi ar waith yn Ty Draw dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r rhain wedi digwydd o ganlyniad i dderbyn cyngor technegol gan nifer o ymgynghorwyr ac arbenigwyr, a chafwyd y mwyafrif ohonynt yn wreiddiol trwy wasanaethau Cyswllt Ffermio. Roedd y newidiadau a fabwysiadwyd yn targedu sawl agwedd ar fusnes y fferm, ac yn cynnwys optimeiddio maeth da byw drwy newid diet, gwella glaswelltiroedd a gwneud addasiadau i siediau’r da byw. Mae'r addasiadau hyn wedi arwain at welliannau ffisegol ac ariannol i'r busnes. Mae mesur effaith newidiadau o'r fath yn ystyrlon iawn er mwyn rhannu arferion gorau o fewn y diwydiant ar lefel fferm.
Yma, byddwn yn ‘edrych yn ôl er mwyn edrych ymlaen’, drwy adolygu’r newidiadau a wnaed i’r busnes o ganlyniad i gyngor arbenigwyr, a’u goblygiadau o safbwynt ariannol a pherfformiad yn Ty Draw.
Amcanion y prosiect:
Nod y prosiect hwn fydd adolygu'r newidiadau a wnaed drwy feintioli'r arbedion economaidd, yn ogystal â'u heffaith ar berfformiad anifeiliaid ac ansawdd porthiant. Bydd hyn yn rhoi ffigurau pendant ar oblygiadau’r newidiadau i broffidioldeb a chynaliadwyedd y busnes.
Amcanion y prosiect yw:
- Pennu goblygiadau gwella glaswelltir ar draws y fferm drwy wasgaru calch a gwrtaith yn fanwl gywir, ac ail-hadu gyda chymysgedd o dorri a phori am bump i chwe blynedd (ar gyfnod pori ac ansawdd silwair).
- Mesur y manteision o ran cost o fwydo diet cyflawn i'r mamogiaid cyn ŵyna (o safbwynt ariannol a pherfformiad).
- Asesu effaith gwneud mân addasiadau i'r siediau gwartheg ar eu hiechyd a'u perfformiad (DLWG).
Dangosyddion Perfformiad Allweddol a Osodwyd:
Oherwydd natur y prosiect hwn (dadansoddiad bwrdd gwaith), mae'n anymarferol gosod dangosyddion perfformiad allweddol penodol. Un fantais o wneud y gwaith hwn fydd dangos set o fesuriadau mesuradwy a gyflawnwyd o ganlyniad i newidiadau rheoli unigol (yn seiliedig ar wella ansawdd silwair, costau is, gwella perfformiad y ddiadell ac ati).
Llinell Amser a Cherrig Milltir: