16 Mai 2022

 

“Mae ffermio yn ddiwydiant blaengar sy'n symud yn gyflym felly mae gwyddoniaeth newydd y mae angen i ni fod yn ymwybodol ohoni a ffyrdd arloesol, mwy effeithlon o wneud pethau bob amser yn dod i’r amlwg,” meddai Kim Brickell, rheolwr fferm yn un o gyrchfannau teuluol mwyaf poblogaidd Cymru, Parc Antur a Sw Folly Farm, ger Dinbych-y-pysgod. 

Yn gynharach eleni, dyfarnwyd tlws Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio i Kim (30), a aned yn Sir Benfro, yn seremoni wobrwyo flynyddol Lantra Cymru. Roedd y wobr i gydnabod ei hymrwymiad eithriadol i ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP) a chymhwyso ei gwybodaeth a'i sgiliau newydd yn effeithiol i'r hyn y mae'n ei disgrifio fel ei swydd 'freuddwydiol' 

Dywed Kim fod cyrsiau e-ddysgu Cyswllt Ffermio, sydd wedi'u hariannu'n llawn, wedi ei galluogi i 'ddysgu’r holl wybodaeth gyfredol yn fy amser fy hun ac ar fy nghyflymder fy hun', sydd nid yn unig wedi cynyddu ei sgiliau ond sydd hefyd yn ei galluogi i rannu'r wybodaeth honno i aelodau eraill o dîm Folly Farm sy'n fwy newydd i’r maes. 

“Mae'r ystod o wasanaethau cymorth sydd ar gael drwy Cyswllt Ffermio, gan gynnwys gweithdai Iechyd a Lles Anifeiliaid, digwyddiadau diwrnod agored ac ystod eang iawn o bynciau sy’n gysylltiedig â ffermio rydw i wedi'u hastudio trwy e-ddysgu wedi rhoi sgiliau a gwybodaeth newydd i mi yr wyf yn eu defnyddio bob dydd.”    

Wedi'i leoli ar brif lwybr twristiaeth rhwng Arberth a Dinbych-y-pysgod, mae Folly Farm yn cwmpasu tua 200 erw gyda chyfran helaeth o'r tir ffermio ar agor i'r cyhoedd.  Gan ddenu tua 500,000 o ymwelwyr y flwyddyn, mae ei sw o'r radd flaenaf yn gartref i fwy na 100 rhywogaeth o anifeiliaid egsotig, adar a llawer o greaduriaid eraill.   Rôl Kim yw gofalu am iechyd, lles a hwsmonaeth gyffredinol diadelloedd y fferm o ddefaid a geifr prin, bridiau arbenigol o foch a dofednod yn ogystal â nifer fawr o anifeiliaid anwes bach.   

Er na chafodd ei magu ar fferm, dechreuodd cariad Kim at yr awyr agored ac anifeiliaid yn ifanc iawn ac er yr oedd hi'n dal i fod yn y chweched dosbarth ar y pryd, bu'n helpu yn Folly Farm yn ei hamser hamdden. Gwelwyd ei hymroddiad a’i gallu yn syth gan y teulu ffermio llaeth entrepreneuraidd sydd wedi adeiladu Folly Farm yn fusnes gwerth miliynau o bunnoedd fel y mae heddiw.  Ar ôl cwblhau ei chymwysterau Safon Uwch, cafodd ei phenodi'n gynorthwyydd llawn amser, rôl a gyfunodd hi ag astudio ar gyfer gradd sylfaen mewn gwyddor anifeiliaid yng Ngholeg Sir Benfro.  Ers hynny mae wedi bod yn ddilyniant cyson i fyny drwy rengoedd Folly Farm i Kim, fel goruchwyliwr cynorthwyol, goruchwyliwr ac mae bellach yn 'byw'r freuddwyd' fel rheolwr fferm, lle mae hi, ynghyd â chyd-reolwr a thîm o chwe aelod o staff, yn gyfrifol am redeg ochr amaethyddol ac anifeiliaid fferm y busnes yn llyfn.  Mae hi hefyd yn ymwneud â strategaethau pridd a glaswelltir y fferm, dau bwnc y mae hi wedi'u hastudio trwy Cyswllt Ffermio. 

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

“Rydym yn gweithredu system bori cylchdro, sydd wedi arwain at wella iechyd a ffrwythlondeb y pridd drwy ddosbarthu tail yn well, yn ogystal â chynnydd mewn porthiant ar ôl pob cyfnod 'gorffwys', felly mae'n sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill i ni fel rheolwyr fferm a'r holl stoc sy'n elwa o'r bywyd awyr agored.   

“Mae'n hawdd cael mynediad at ba bynnag bwnc e-ddysgu Cyswllt Ffermio y mae gennych ddiddordeb ynddo ac rydych yn gwybod y byddwch yn cael y wybodaeth allweddol sydd ei hangen arnoch, wedi'i gosod ar y lefel gywir, mewn ffordd glir a chryno.    

“Mae pob modiwl rhyngweithiol wedi'i dargedu at bobl sy'n gweithio yn y diwydiant, maen nhw i gyd yn cymryd tua 20 neu 30 munud i'w cwblhau ac yn cynnwys cwis ar y diwedd sy'n rhoi sicrwydd i chi eich bod wedi amsugno'r wybodaeth yn gywir, ond os na, rydych chi'n ei wneud eto,” meddai Kim.

Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae hi wedi ymgymryd â mwy nag 20 o fodiwlau e-ddysgu gwahanol, gan eu cyfuno â gweminarau a gweithdai sector-benodol amrywiol ar yr hyn sy’n ‘hanfodol i’w wybod’ yn ôl Kim. Mae hi wedi cwblhau modiwlau e-ddysgu ar bynciau iechyd anifeiliaid gan gynnwys ymwrthedd anthelmintig, bioddiogelwch, cadw stoc mewn cwarantîn a brechiadau yn ogystal â chlefydau a chyflyrau penodol sy'n effeithio ar ddefaid, moch a dofednod.  

“Roeddwn hefyd eisiau dysgu mwy am iechyd a diogelwch fferm oherwydd fel rheolwr, mae angen i mi fod yn ymwybodol o'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau cyfredol ac annog cydweithwyr i flaenoriaethu gweithio'n ddiogel. 

Dywed Kim fod hyblygrwydd e-ddysgu 'ynghyd â'r bonws gwych nad oes unrhyw gostau yn gysylltiedig' wedi ei galluogi i ddefnyddio unrhyw amser sbâr sydd ganddi.

“Os oes gwybodaeth ychwanegol rydw i'n teimlo y bydd yn fy helpu yn fy swydd, rydw i bob amser yn troi at Cyswllt Ffermio a fy ngliniadur yn gyntaf.”

Mae Kim yn frwd dros ddefnyddio Storfa Sgiliau, cyfleuster storio data ar-lein Cyswllt Ffermio sy'n cofnodi ei holl weithgareddau a chyflawniadau DPP, gan ei galluogi i nodi unrhyw fylchau yn ei sgiliau a chynllunio dilyniant ei gyrfa ar gyfer y dyfodol. Felly beth sydd nesaf i'r ffermwraig ifanc uchelgeisiol hon?

“Mae ffermio cynaliadwy yn ffocws allweddol yn Folly Farm ac yn ogystal â defnyddio ein system biomas a'n paneli solar, rydym yn ailgylchu'r rhan fwyaf o’n gwastraff gan gynnwys cewynnau a phlastig a adawyd gan ymwelwyr.

“Y nesaf ar fy agenda DPP yw dysgu beth arall y gallwn ei wneud i leihau ein hôl troed carbon - trwy Cyswllt Ffermio wrth gwrs!”  


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter