Pam y byddai Hywel yn fentor effeithiol:
- Mae Hywel Morgan, sy’n Gymro Cymraeg, yn credu bod cadw gwartheg yn ogystal â defaid ar dir comin yn yr ucheldiroedd yn rhan o’r ateb i lwyddiant ffermydd ucheldir, tra hefyd yn cyfrannu at y materion sy'n ymwneud â newid hinsawdd, colli bioamrywiaeth a thanau gwyllt. Mae ei fferm yn ffinio â Mynydd Du ym Mannau Brycheiniog.
- Mae Hywel wedi canfod bod pori ei wartheg ar dir comin wedi ei alluogi i leihau ei fewnbynnau ei hun ar y fferm, ac mae hefyd wedi arwain at reoli cynefinoedd, y mae'n gobeithio y bydd yn cyd-fynd â pholisïau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.
- Yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf, mae wedi defnyddio gwahanol fathau o dechnoleg arloesol i reoli'r gwartheg, sydd, meddai, wedi cael effaith eithriadol ar reoli cynefinoedd, rheoli tanau gwyllt a hefyd cynhyrchu cig coch iach maethol y mae'n ei werthu'n uniongyrchol i ddefnyddwyr. Mae'n credu y bydd tracwyr a ffensio rhithwir - sy'n gweithredu drwy dechnoleg GPS lloeren - yn newid byd yn y dyfodol i reoli gwartheg a sicrhau eu bod yn cael eu cynefino ar dir comin.
- Mae Hywel hefyd yn ymgymryd â phori cadwraethol ar ffermydd tirfeddianwyr eraill, sydd wedi caniatáu iddo ddal ati i ehangu ei fusnes ei hun.
- Ac yntau’n gyn-fentorai ei hun, mae Hywel wedi defnyddio nifer o wasanaethau Cyswllt Ffermio a phrosiectau datblygu personol i'w helpu i ddatblygu ei fusnes fferm ei hun. Cymerodd yr awenau i redeg y fferm deuluol yn 2005, ar ôl 15 mlynedd o weithio yn y sector bwyd-amaeth. Fel un sydd wedi bod ar ddwy ochr y ffens 'fentora', ac wedi gofyn am gyngor gan gynghorwyr Cyswllt Ffermio yn y gorffennol, fe welwch chi wrandäwr parod, yn awyddus iawn i rannu ei brofiadau a'ch helpu i gyrraedd eich nodau.
- Mae'n hapus i helpu pob tirfeddiannwr, gan gynnwys y rhai a allai fod yn newydd i fyd ffermio, sydd eisiau gwybod mwy am bori cadwraethol a phori’r ucheldir, ac mae wedi cynnal nifer o ddiwrnodau agored ar y pynciau hyn ar ei fferm ei hun.
- Mae Hywel yn gweithio gyda'r gwasanaeth tân yng Nghymru ar hyn o bryd, i ymchwilio i'r risg posib o danau gwyllt ar dir comin
Busnes fferm presennol
- Fferm ucheldir 156 erw sy’n eiddo iddo ym Mannau Brycheiniog
- 30 erw wedi’u rhentu gerllaw
- Pori cadwraethol ar ddau ddaliad ychwanegol ar wahân – pori am ddim yn gyfnewid am reoli'r tir ar gyfer y cynefin a bioamrywiaeth gorau posibl
- Buches o 30 o wartheg Ucheldir ac Ucheldir x Byrgorn ar gyfer pori’r ucheldir a phori cadwraethol
- Buches o 20 gwartheg sugno Hereford x Friesian
- Caiff y ddwy fuches eu troi at darw Bîff Byrgorn, sy’n arwain at loea hawdd a da byw sy’n hawdd eu cadw
- Diadell o 400 o ddefaid Wyneb Gwyn Llanymddyfri, sy’n cael eu pesgi ar y fferm neu eu gwerthu fel ŵyn stôr
Cymwysterau/llwyddiannau/profiad
- Coleg Pibwrlwyd, campws Gelli Aur– cymhwyster OND mewn amaethyddiaeth
- Rhaglen Arweinyddiaeth Academi Amaeth Cyswllt Ffermio
- Rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio
- Cynrychiolydd Sir Gaerfyrddin, Bwrdd Marchnata Gwlân Prydain
- Grŵp Llywio Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur
- Aelod o Grŵp Cyflawni Llywodraeth Cymru ar ymwrthedd gwrthficrobaidd
- Aelod o Fforwm Mynediad Lleol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
- Cymdeithas Glaswelltir Llangadog - Trysorydd
- Y Gymdeithas Pori Tir Comin – Cadeirydd ac Ysgrifennydd
Awgrymiadau i lwyddo mewn busnes
"Mae dod o hyd i'r cydbwysedd perffaith rhwng bioamrywiaeth a chynhyrchiant yn allweddol; mae'n gyraeddadwy iawn, ac yn nod y dylai pob ffermwr fod yn gweithio tuag ato."
"Nawr rydym wedi gadael yr UE, dim ond os ydynt yn addasu'r ffordd y maent yn gweithio i gydymffurfio â gofynion newid hinsawdd, rheoliadau amgylcheddol a gofynion cynhyrchu bwyd y bydd ffermwyr yn parhau i fod yn gynaliadwy."
"Byddwch bob amser yn barod i wrando a dysgu gan eraill."