Pam y byddai Hywel yn fentor effeithiol:

  • Mae Hywel Morgan, sy’n Gymro Cymraeg, yn credu bod cadw gwartheg yn ogystal â defaid ar dir comin yn yr ucheldiroedd yn rhan o’r ateb i lwyddiant ffermydd ucheldir, tra hefyd yn cyfrannu at y materion sy'n ymwneud â newid hinsawdd, colli bioamrywiaeth a thanau gwyllt. Mae ei fferm yn ffinio â Mynydd Du ym Mannau Brycheiniog.
  • Mae Hywel wedi canfod bod pori ei wartheg ar dir comin wedi ei alluogi i leihau ei fewnbynnau ei hun ar y fferm, ac mae hefyd wedi arwain at reoli cynefinoedd, y mae'n gobeithio y bydd yn cyd-fynd â pholisïau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. 
  • Yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf, mae wedi defnyddio gwahanol fathau o dechnoleg arloesol i reoli'r gwartheg, sydd, meddai, wedi cael effaith eithriadol ar reoli cynefinoedd, rheoli tanau gwyllt a hefyd cynhyrchu cig coch iach maethol y mae'n ei werthu'n uniongyrchol i ddefnyddwyr. Mae'n credu y bydd tracwyr a ffensio rhithwir - sy'n gweithredu drwy dechnoleg GPS lloeren - yn newid byd yn y dyfodol i reoli gwartheg a sicrhau eu bod yn cael eu cynefino ar dir comin.
  • Mae Hywel hefyd yn ymgymryd â phori cadwraethol ar ffermydd tirfeddianwyr eraill, sydd wedi caniatáu iddo ddal ati i ehangu ei fusnes ei hun.
  • Ac yntau’n gyn-fentorai ei hun, mae Hywel wedi defnyddio nifer o wasanaethau Cyswllt Ffermio a phrosiectau datblygu personol i'w helpu i ddatblygu ei fusnes fferm ei hun. Cymerodd yr awenau i redeg y fferm deuluol yn 2005, ar ôl 15 mlynedd o weithio yn y sector bwyd-amaeth. Fel un sydd wedi bod ar ddwy ochr y ffens 'fentora', ac wedi gofyn am gyngor gan gynghorwyr Cyswllt Ffermio yn y gorffennol, fe welwch chi wrandäwr parod, yn awyddus iawn i rannu ei brofiadau a'ch helpu i gyrraedd eich nodau.
  • Mae'n hapus i helpu pob tirfeddiannwr, gan gynnwys y rhai a allai fod yn newydd i fyd ffermio, sydd eisiau gwybod mwy am bori cadwraethol a phori’r ucheldir, ac mae wedi cynnal nifer o ddiwrnodau agored ar y pynciau hyn ar ei fferm ei hun. 
  • Mae Hywel yn gweithio gyda'r gwasanaeth tân yng Nghymru ar hyn o bryd, i ymchwilio i'r risg posib o danau gwyllt ar dir comin

Busnes fferm presennol

  • Fferm ucheldir 156 erw sy’n eiddo iddo ym Mannau Brycheiniog 
  • 30 erw wedi’u rhentu gerllaw
  • Pori cadwraethol ar ddau ddaliad ychwanegol ar wahân – pori am ddim yn gyfnewid am reoli'r tir ar gyfer y cynefin a bioamrywiaeth gorau posibl
  • Buches o 30 o wartheg Ucheldir ac Ucheldir x Byrgorn ar gyfer pori’r ucheldir a phori cadwraethol
  • Buches o 20 gwartheg sugno Hereford x Friesian
  • Caiff y ddwy fuches eu troi at darw Bîff Byrgorn, sy’n arwain at loea hawdd a da byw sy’n hawdd eu cadw 
  • Diadell o 400 o ddefaid Wyneb Gwyn Llanymddyfri, sy’n cael eu pesgi ar y fferm neu eu gwerthu fel ŵyn stôr 

Cymwysterau/llwyddiannau/profiad

  • Coleg Pibwrlwyd, campws Gelli Aur– cymhwyster OND mewn amaethyddiaeth  
  • Rhaglen Arweinyddiaeth Academi Amaeth Cyswllt Ffermio
  • Rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio
  • Cynrychiolydd Sir Gaerfyrddin, Bwrdd Marchnata Gwlân Prydain
  • Grŵp Llywio Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur
  • Aelod o Grŵp Cyflawni Llywodraeth Cymru ar ymwrthedd gwrthficrobaidd
  • Aelod o Fforwm Mynediad Lleol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
  • Cymdeithas Glaswelltir Llangadog - Trysorydd
  • Y Gymdeithas Pori Tir Comin – Cadeirydd ac Ysgrifennydd

Awgrymiadau i lwyddo mewn busnes

"Mae dod o hyd i'r cydbwysedd perffaith rhwng bioamrywiaeth a chynhyrchiant yn allweddol; mae'n gyraeddadwy iawn, ac yn nod y dylai pob ffermwr fod yn gweithio tuag ato."

"Nawr rydym wedi gadael yr UE, dim ond os ydynt yn addasu'r ffordd y maent yn gweithio i gydymffurfio â gofynion newid hinsawdd, rheoliadau amgylcheddol a gofynion cynhyrchu bwyd y bydd ffermwyr yn parhau i fod yn gynaliadwy."

"Byddwch bob amser yn barod i wrando a dysgu gan eraill."