Cath Price yw Swyddog Technegol Llaeth a Dofednod Cyswllt Ffermio. Mae hi hefyd yn ffermio adre gyda’i gŵr Dan, 20 munud i’r de o’r Drenewydd ac yn ddiweddar wedi buddsoddi mewn uned ieir dodwy. Gosodwyd eu sied newydd, a’r ddiadell gyntaf ym mis Rhagfyr 2020 a’r ail ddiadell fis Awst eleni. Fel y rhan fwyaf o gynhyrchwyr wyau eraill, maent wedi teimlo pwysau costau chwyddiant a welwyd yn gynharach eleni. Yn ymuno gyda Cath mae'r milfeddyg Ian Jones, cyfarwyddwr ym Milfeddygon Hafren i edrych ar y sefyllfa bresennol o ran Ffliw Adar ym Mhrydain ac yn fwy penodol i ni yma yng Nghymru.

Sylwch fod y bennod hon wedi'i recordio ar 21ain o Hydref 2022.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Pennod 123 - Datguddiad y Pridd: Sut arweiniodd arbed arian at ffermio adfywiol gyda Stuart Johnson
Croeso i bennod arall o bodlediad Clust i'r Ddaear Cyswllt
Pennod 122 - Gwella porfeydd a chynhyrchiant drwy ganolbwyntio ar iechyd y pridd
Croeso i'r drydedd bennod yn ein cyfres arbennig ar ffermio
Pennod 121 - Pweru Eich Dyfodol - gyda Thechnoleg ac Ynni Adnewyddadwy - Rhan 2
Croeso i "Ffermio Llaeth Cynaliadwy," lle rydym yn archwilio byd