Cath Price yw Swyddog Technegol Llaeth a Dofednod Cyswllt Ffermio. Mae hi hefyd yn ffermio adre gyda’i gŵr Dan, 20 munud i’r de o’r Drenewydd ac yn ddiweddar wedi buddsoddi mewn uned ieir dodwy. Gosodwyd eu sied newydd, a’r ddiadell gyntaf ym mis Rhagfyr 2020 a’r ail ddiadell fis Awst eleni. Fel y rhan fwyaf o gynhyrchwyr wyau eraill, maent wedi teimlo pwysau costau chwyddiant a welwyd yn gynharach eleni. Yn ymuno gyda Cath mae'r milfeddyg Ian Jones, cyfarwyddwr ym Milfeddygon Hafren i edrych ar y sefyllfa bresennol o ran Ffliw Adar ym Mhrydain ac yn fwy penodol i ni yma yng Nghymru.

Sylwch fod y bennod hon wedi'i recordio ar 21ain o Hydref 2022.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Rhifyn 77 - Dringo'r ysgol Amaeth
Mae ail bennod yn ein cyfres newydd-ddyfodiaid i amaethyddiaeth
Rhifyn 76 - Pam dewis gyrfa ym myd amaeth- trafodaeth ymysg panel o newydd-ddyfodiaid
60 mlwydd oed ar gyfartaledd yw oedran ffermwr yng Nghymru, a dim
Rhifyn 75 - Bridio porfeydd: Plannu hadau’r dyfodol
Porfa bydd ffocws y podlediad yma yng nghwmi Cennydd Jones