27 Chwefror 2023
Cyflwynodd ei rieni ef i ochr ymarferol ‘tir a da byw’ ffermio yn ifanc iawn, ond i Dylan Morgan, a aned yn Sir Gaerfyrddin, Cyswllt Ffermio sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r unigolyn yma a raddiodd mewn rheoli adeiladu. Dywedodd Dylan fod Cyswllt Ffermio wedi rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arno i fod y ffermwr ifanc blaengar a hyderus ydyw heddiw.
“A’r peth sy’n wych amdano yw, nad oedd rhaid i mi eistedd trwy oriau o ddarlithoedd theori amaeth am dair blynedd!”
Dywedodd Dylan mai agwedd Cyswllt Ffermio at ei holl wasanaethau hyfforddi a throsglwyddo gwybodaeth yw cyflwyno popeth ar y lefel gywir ar gyfer ffermwyr prysur ond profiadol sy’n gweithio.
“Mae’n ddull o ddysgu ar sail ‘angen gwybod’ sy’n apelio’n fawr ataf gan fy mod yn gallu gwneud lle iddo o amgylch fy nyletswyddau fferm ac ymrwymiadau eraill,” meddai Dylan.
Nid oedd gan Dylan unrhyw fwriad i ddod yn ffermwr pan adawodd Brifysgol Abertawe yn 2011, ond ar ôl ychydig fisoedd yn unig o ffermio’n llawn amser ar fferm bîff a defaid 360 erw ei deulu ger Llanymddyfri, newidiodd ei feddwl yn llwyr.
Roedd yn amlwg yn benderfyniad cywir i’r teulu cyfan ac mae Dylan (32) bellach wedi bod yn ffermio gartref ers bron i un mlynedd ar ddeg.
“Roeddwn i wastad wedi mwynhau helpu gartref pryd bynnag roedd gen i amser rhydd, felly roeddwn i wedi hen arfer ag ochr ymarferol ffermio, ond gan na astudiais i amaethyddiaeth yn y brifysgol, roeddwn i’n teimlo bod yna lawer nad oeddwn i’n ei wybod am iechyd anifeiliaid, pridd a rheoli glaswelltir a'r holl elfennau eraill o ffermio sy'n hanfodol i wella effeithlonrwydd ar y fferm.
“Mae’n hanfodol, fel ffermwyr, fod gan bob un ohonom y wybodaeth sydd ei hangen arnom a systemau yn eu lle i chwarae ein rhan i gadw at y safonau uchaf o les anifeiliaid, cynhyrchu da byw o’r ansawdd uchaf, gan hefyd warchod ein hamgylchedd naturiol a lleihau ein hôl troed carbon.”
Yn gefnogwyr hirdymor gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, a welodd Dylan, ei dad a ffermwyr lleol eraill yn cael cyngor ar faterion yn cynnwys cynllunio rheoli maetholion, archwiliadau carbon a rheoli glaswelltir, mae Dylan yn rhoi llawer o’i amser hamdden i’w ddatblygiad personol.
Gan ddibynnu’n drwm ar ei swyddog datblygu lleol, Alun Bowen, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo am yr hyn sydd ar gael, mae Alun wedi cyfeirio Dylan – yn aml yng nghwmni ei dad – at nifer o weithdai iechyd a lles anifeiliaid ar bynciau’n amrywio o ffrwythlondeb y ddiadell a cholledion wyna i wneud y mwyaf o gynhyrchiant buchod sugno, cloffni a rheoli tir. Mae Dylan hefyd wedi dilyn cyrsiau hyfforddi byr â chymhorthdal ac mae’n defnyddio ystod gynhwysfawr y rhaglen o fodiwlau e-ddysgu a ariennir yn llawn yn rheolaidd.
“Mae dysgu ar-lein, mewn cyfnodau byr o 20 munud, gyda chwis ar ddiwedd pob modiwl i sicrhau eich bod wedi cymryd yr holl wybodaeth allweddol i mewn, yn ffordd wych o gynyddu eich gwybodaeth.”
Mae Dylan wedi canolbwyntio’n bennaf ar bynciau iechyd anifeiliaid yn ogystal â rheoli pridd a glaswelltir oherwydd ei fod yn credu’n gryf mewn mabwysiadu agwedd gyfannol at y fferm, gydag ‘arfer gorau ym mhopeth a wnawn’ yn rhan o’u hagenda cynaliadwyedd.
“Diolch i fy ngwybodaeth a sgiliau newydd a thrwy weithredu rhai o’r systemau newydd rydym wedi dysgu amdanynt trwy Cyswllt Ffermio, rydym bellach yn bwydo’r stoc yn llawer mwy effeithlon.
“Mae hyn wedi lleihau ein mewnbynnau’n sylweddol wrth wella perfformiad stoc a chynhyrchiant ac rydym hefyd wedi lleihau lefelau cloffni.”
Mae’r teulu’n sgorio cyflwr y corff yn rheolaidd ac yn meincnodi eu holl stoc ac yn dweud bod cyfrif wyau ysgarthol a phrofi elfennau hybrin trwy Cyswllt Ffermio wedi rhoi gwybodaeth werthfawr iddynt sy’n golygu eu bod wedi lleihau eu dibyniaeth ar driniaethau gwrthlyngyrol drwy fabwysiadu dull wedi’i dargedu’n well.
Gyda’i holl gyflawniadau dysgu wedi’u storio ar-lein yn ei gofnod personol y Storfa Sgiliau, mae Dylan yn dweud bod y system yn ffordd ddefnyddiol o nodi unrhyw feysydd y mae’n dal eisiau dysgu amdanynt.
“Mae ffermio yn ddiwydiant sy’n esblygu ac felly mae angen i ffermwyr o bob cenhedlaeth wybod eu bod yn ddigon gwybodus i wynebu’r cyfleoedd a’r heriau sydd o’u blaenau.”
Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
I gael rhagor o wybodaeth am holl wasanaethau cymorth a hyfforddiant Cyswllt Ffermio cliciwch yma neu ffoniwch eich swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol.