Optimeiddio Twf Ŵyn trwy Ychwanegu Mwynau mewn dull Strategol ar fferm Brynllech - Adroddiad Terfynol
Canlyniadau allweddol:
- Effeithiolrwydd cobalt: Llwyddodd y drensh a oedd wedi’i gymysgu gartref (a roddwyd bob 3 wythnos) i gynnal lefelau fitamin B12 uwchlaw'r trothwy a argymhellir, tra bod y drensh parod (a roddwyd bob 6 wythnos) yn arwain at lefelau isel.
- Cynnydd pwysau: Nid oedd unrhyw wahaniaeth yn yr Enillion Pwysau Byw Dyddiol (DLWG) rhwng y tri grŵp, gyda phob grŵp yn ennill rhwng 85 a 91g y dydd ar gyfartaledd dros gyfnod y treial.
- Problemau iechyd: Bu achosion o Dwymyn a Gludir gan Drogod a sawl achos o gynrhon yn effeithio’n sylweddol ar gyfraddau twf ar draws pob grŵp, gan guddio manteision ffisiolegol posibl y triniaethau mwynau, yn ôl pob tebyg.
- Diffyg ïodin: Waeth beth fo'r strategaeth drensio a ddefnyddiwyd, roedd lefelau ïodin yn parhau i fod yn isel ym mhob grŵp, gan ddangos nad yw rhoi drensh drwy’r geg yn ddull effeithiol o roi atchwanegion ïodin yn y system hon.
- Cynnal a chadw effeithiol: Cynhaliwyd lefelau seleniwm a chopr ar ben uchaf yr ystodau a argymhellir ar draws pob grŵp a gafodd ei drin.
Cefndir:
Mae gan Brynllech hanes o ddiffygion elfennau hybrin, sy'n ymddangos yn benodol fel diffyg copr a seleniwm mewn gwartheg a ffrwythlondeb a thwf gwael mewn defaid. Yn nhymor y gwanwyn 2025, cynhaliwyd archwiliad mwynau cynhwysfawr trwy Cyswllt Ffermio. Asesodd yr archwiliad hwn y cyflenwad o elfennau hybrin o borthiant ac atchwanegiadau o’i gymharu â gofynion y stoc. Mae'r canlyniadau’n tynnu sylw at anghydbwysedd sylweddol, gan gynnwys lefelau uchel o rai gwrthwynebwyr (potasiwm, sylffwr, a molybdenwm) sy'n gallu dargadw magnesiwm a chopr, a diffygion absoliwt seleniwm, cobalt, ac ïodin. O ganlyniad, sefydlwyd prosiect i benderfynu a allai "drensh ag elfennau hybrin wedi’i gymysgu gartref” pwrpasol berfformio'n well na chynhyrchion parod safonol o ran cywiro'r materion penodol hyn ar lefel y fferm.
Pwrpas y gwaith:
- Cymharu effeithiolrwydd drensh mwynau parod safonol (a roddir bob 6 wythnos) yn erbyn drensh pwrpasol wedi’i gymysgu gartref (a roddir bob 3 wythnos) sy'n targedu diffygion penodol ar y fferm.
- Asesu a fyddai ychwanegu gwiail ocsid copr (Coparods) at y protocol drensio yn gwella statws copr ym mhresenoldeb lefelau uchel o wrthwynebwyr sylffwr a molybdenwm.
- Monitro perfformiad ŵyn (DLWG) a phroffiliau mwynau’r gwaed i nodi'r strategaeth ychwanegu mwynau fwyaf cost-effeithiol ar gyfer y fferm.
Yr hyn a wnaed:
Ym mis Gorffennaf 2025, dyrannwyd oddeutu 150 o ŵyn Mynydd Cymreig gwrywaidd ar hap i dri grŵp triniaeth:
- Grŵp 1 (Rheoli): Drensh masnachol safonol (Cu isel) a roddwyd bob 6 wythnos.
- Grŵp 2 (Rheoli + Cu): Drensh masnachol (dim Cu) a roddwyd bob 6 wythnos, ynghyd â gwiail copr ocsid 2g a roddwyd unwaith ym mis Gorffennaf.
- Grŵp 3 (Cymysgedd cartref): Drensh pwrpasol (yn cynnwys Cu, Se ac I) a roddwyd bob 3 wythnos, ynghyd â gwiail copr ocsid 2g a roddwyd unwaith ym mis Gorffennaf. Cafodd y cymysgedd cartref ei wneud mewn amgylchedd labordy gan arfer gofal mawr i beidio ag anadlu'r cemegion i mewn
Yn ddamcaniaethol, roedd y cymysgedd cartref yn darparu mwy o gobalt, seleniwm ac ïodin na'r drenshys parod.
Tabl 1. Faint o Gobalt, Seleniwm, Ïodin a Chopr a gyflenwyd ar gyfer pob grŵp triniae
Grŵp | Cobalt | Seleniwm | Ïodin | Copr | ||
Rheoli | Drensh parod | Cyfanswm mg/l | 3000 | 700 | 12000 | 5000 |
| Dos 3.5 ml | mg/dos | 10.5 | 2.45 | 42 | 17.5 |
|
|
|
|
|
|
|
| Am 6 wythnos | mg/dydd | 0.25 | 0.06 | 1.00 | 0.42 |
Rheoli (dim copr), a coparods |
| mg/dydd | 0.25 | 0.06 | 1.00 | 9.5 |
Cymysgedd cartref a coparods | Drensh cymysgedd cartref | Cyfanswm mg/ml | 1.39 | 0.353 | 3.06 |
|
| Dos 10.5 ml |
| 14.6 | 3.71 | 32.13 | - |
| Dos 10.5ml/21 diwrnod | mg/dydd | 0.69 | 0.18 | 1.53 | 9.5 |
|
|
|
|
|
|
|
| Coparods | Bolws 2 g |
|
|
|
|
| mg/dydd am 6 mis |
|
|
|
| 9.5 |
Roedd ŵyn yn cael eu pwyso'n rheolaidd rhwng 4 Gorffennaf a 5 Tachwedd. Cymerwyd samplau gwaed ar ôl y cylch 6 wythnos cyntaf i wirio lefelau elfennau hybrin (sef seleniwm, copr, ïodin, a fitamin B12). Cofnodwyd arsylwadau clinigol i fonitro digwyddiadau iechyd, yn benodol gweithgarwch trogod.
Tabl 2. Canlyniadau o ddadansoddi samplau gwaed a gymerwyd o 6 oen o bob grŵp
| Cymedr o 6 oen | Rheoli | Rheoli + Cu | Cymysgedd cartref + Cu |
| Copr (9 - 19) umol / ml | 16.7 | 17.4 | 19.1 |
| Fit. B12(>221) pmol/l | 158 | 165 | 234 |
| Seleniwm (GSH-PX) (>50) U / mlRBC | 151 | 126 | 161 |
Ïodin (ug / ml) >60 (sampl wedi’i chydgasglu) | 28 | 31 | 29 |
Canlyniadau:
- Enillion Pwysau Byw:
Er gwaethaf y gwahanol driniaethau, roedd y cynnydd pwysau cyfartalog rhwng mis Gorffennaf a mis Tachwedd yn siomedig:- Grŵp 1 (Rheoli): DLWG cyfartalog o ~ 91g/dydd.
- Grŵp 2 (Rheoli + Cu): DLWG cyfartalog o ~ 85g/dydd.
- Grŵp 3 (Cymysgedd cartref): DLWG cyfartalog o ~ 87g/dydd.
Roedd enillion pwysau byw yn amrywiol iawn ar draws pob grŵp – yn amrywio o 17 i 204g/dydd dros holl gyfnod yr arbrawf (sef 111 diwrnod), a oedd, yn ôl pob tebyg, yn adlewyrchu'r problemau iechyd parhaus yn gynnar yn yr arbrawf. Roedd y DLWG ar ei isaf yn ystod 49 diwrnod cyntaf yr arbrawf (sef 80, 75 a 68 g/dydd yn y drefn honno), ond roedd y cynnydd dros y 42 diwrnod olaf wedi gwella'n sylweddol i 132, 157 a 144 g/dydd, a dros y 19 diwrnod olaf, roedd wedi gwella yn y grŵp rheoli a’r grŵp y rhoddwyd y cymysgedd cartref iddo, eto i 171 a 205 g/dydd yn y drefn honno, o bosibl yn adlewyrchu adferiad o Dwymyn a Gludir gan Drogod. Roedd nifer yr ŵyn a gafodd eu pwyso’n amrywio ychydig yn ôl y dyddiad am fod ychydig o unigolion heb gael eu pwyso o bryd i’w gilydd.
Tabl 3. Dangosir cynnydd pwysau byw dyddiol ŵyn am 3 chyfnod gwahanol: holl gyfnod y treial, 24/9 - 5/11 a 17/10 - 5/11
| Holl gyfnod y treial 111 diwrnod | Amrediad DLWG g / dydd | 24/9 i 5/11 42 diwrnod | 17/10 i 5/11 19 diwrnod | |||
| Nifer yr ŵyn | DLWG g / dydd |
| Nifer yr ŵyn | DLWG g / dydd | Nifer yr ŵyn | DLWG g / dydd |
Rheoli | 48 | 91 | 29 – 204 | 48 | 132 | 48 | 171 |
Rheoli + Cu | 56 | 85 | 17 – 134 | 54 | 157 | 56 | 152 |
Cymysgedd cartref + Cu | 53 | 87 | 17 - 153 | 49 | 144 | 53 | 205 |
Ffigur 1. Yn dangos sut y gwnaeth y perfformiad wella'n raddol yn ystod y treial.
- Effaith clefydau:
Amharwyd ar berfformiad gan Dwymyn a Gludir gan Drogod (a gadarnhawyd trwy brofion gwaed ym mis Medi) a chynrhon. Dioddefodd sawl oen byrecsia a cholli pwysau, ac roedd angen ymyrraeth filfeddygol. Roedd y pwysau hwn gan glefydau’n gweithredu fel ffactor cyfyngol, gan gapio potensial twf i bob diben waeth beth fo statws mwynau’r anifeiliaid. - Dadansoddiad o fwynau gwaed:
- Cobalt (Fit B12): Dyma oedd y prif wahaniaethydd. Dangosodd y grŵp y rhoddwyd y cymysgedd cartref iddo (bob 3 wythnos) lefelau digonol, tra bod y ddau grŵp rheoli (bob 6 wythnos) yn isel. Mae hyn yn cadarnhau bod cyfnodau o 6 wythnos rhwng dosio’n rhy hir er mwyn cynnal statws cobalt.
- Ïodin: Dangosodd pob grŵp a brofwyd lefelau isel. Methodd y drenshys a roddwyd drwy’r genau â lleddfu’r diffyg ïodin, gan awgrymu bod angen dulliau amgen o’u rhoi.
- Seleniwm a chopr: Ar lefelau uchel-normal ym mhob grŵp, gan brofi bod y gwiail copr a'r dulliau drensio’n effeithiol ar gyfer cynnal lefelau'r elfennau penodol hyn.
Enillion ar Fuddsoddiad:
Er bod y DLWG yn debyg, rhaid i'r dadansoddiad Enillion ar Fuddsoddiad (ROI) ystyried llafur yn erbyn iechyd hirdymor. Roedd y strategaeth cymysgedd cartref yn gofyn am gasglu defaid bob 3 wythnos — gan ychwanegu dau achlysur trin ychwanegol dros y ddwy driniaeth arall. Cyfanswm y costau ar gyfer yr atchwanegiadau oedd 27.5c, 40.21c a 29.1 c/oen yn y drefn honno, ond mae angen costio dau gyfnod trin ychwanegol hefyd ar gyfer y grŵp y rhoddwyd y cymysgedd cartref iddo. Yn y tymor byr, yn seiliedig yn gyfan gwbl ar enillion pwysau o'r treial hwn, ni chafodd y gost lafur ychwanegol ei hadennill trwy’r allbwn mewn cilogramau (o bosibl oherwydd Twymyn a Gludir gan Drogod).
Fodd bynnag, roedd y gwaith o fonitro pwysau’n aml yn golygu bod problemau iechyd wedi'u nodi'n gynharach, gan leihau colli perfformiad pellach o bosibl, ac mae'r data gwaed yn awgrymu bod y cymysgedd cartref wedi atal diffyg cobalt is-glinigol (er y byddai profion pellach wedi cadarnhau hyn). Dros amserlen hirach neu mewn blwyddyn heb bwysau mawr gan glefydau, byddai'r statws mwynau gwell hwn yn debygol o arwain at lai o anifeiliaid gwael eu cyflwr a chyfraddau goroesi uwch, gan gyfiawnhau'r mewnbwn llafur cynyddol.
Sut i’w roi ar waith ar eich fferm:
- Archwilio’n gyntaf: Peidiwch â phrynu atchwanegiadau mwynau parod heb ymchwilio iddynt. Ewch ati i gynnal archwiliad porthiant/mwynau i ganfod a oes gennych ddiffygion neu wrthwynebwyr elfennau hybrin neu fwynau penodol (fel molybdenwm yn dargadw copr).
- Dylid profi, yn hytrach na dyfalu: Defnyddiwch samplu gwaed i wirio a yw'ch cynnyrch yn gweithio. Yn y prosiect hwn, methodd cyfnod o 6 wythnos rhwng y triniaethau â chynnal lefelau cobalt.
- Addaswch yr amlder: Os ydych chi'n defnyddio drenshys a roddir trwy’r geg ar gyfer cobalt, byddwch yn barod i ddrensio bob 3 wythnos neu bob 2 wythnos yn ddelfrydol. Os yw argaeledd llafur yn gwneud hyn yn amhosibl, newidiwch i folysau.
- Cadwch lygad am broblemau iechyd: Os nad yw anifeiliaid yn tyfu er gwaethaf atchwanegiadau mwynau, chwiliwch am glefydau "anweledig". Yma, Twymyn a Gludir gan Drogod oedd yn amharu ar berfformiad yn ddiarwybod i neb.
- Ailfeddyliwch am ïodin: Os yw ïodin yn broblem benodol ar eich fferm, gall drenshys a roddir trwy’r geg fod yn aneffeithiol. Ystyriwch folysau ïodin neu olew ïodaidd y gellir ei chwistrellu.