Pencwm Diweddariad ar y prosiect – Gorffennaf 2024
Driliwyd tri opsiwn triniaeth ar 18 Mehefin:
Llain 1 –
60% Rhygwellt Eidalaidd Tetraploid – ansawdd pori a gorchudd tir
16% Cnwd bresych Hybrin Spitfire -ansawdd pori a'r gallu i aildyfu
16% Meillion Gwaetgoch – porthiant protein uchel a fydd yn sefydlogi nitrogen
8% Plantan – porthiant protein uchel a fydd yn aildyfu ac yn gwella cyflwr y pridd
Cyfradd hau 12kg/erw
Llain 2 –
80% Rhyg Porthiant - ansawdd pori, gorchudd tir, yn gwaredu nitrogen ac yn gwella’r pridd
14% Ffacbys y Gaeaf - porthiant protein uchel a fydd yn sefydlogi nitrogen
2% Maip Sofl – porthiant protein uchel gyda sefydliad cyflym
2% Plantan - porthiant protein uchel a fydd yn aildyfu ac yn gwella cyflwr y pridd
2% Rhuddygl - yn gwella’r pridd, gwreiddyn tap dwfn a fydd yn chwalu cywasgiad, bydd topiau yn darparu porthiant protein eithaf uchelCyfradd hau 50kg/erw.
Plot 3 - Cnwd Rheoli - Cêl (Amrywiaeth Maris Kestrel)
Y Camau Nesaf?
Bydd effaith y cymysgeddau hyn yn cael eu harchwilio cyn ac ar ôl sefydlu cnydau a bydd y canlynol yn cael eu monitro dros y misoedd nesaf:
- Cywasgiad pridd ac asesiad gweledol (VESS)
- Microbioleg pridd
- Twf cnydau dros y tymor tyfu tan y byddwn yn barod i gyflwyno stoc i’r caeau.
Ar gyfer pob llain a borir, byddwn hefyd yn monitro glendid y gwartheg. Bydd coesau blaen, coesau cefn, ochrau, boliau a chefnau yn cael eu sgorio ar raddfa o 1 - 4 bob pythefnos lle mae’r sgorau canlynol yn golygu;
- da iawn (croen glân, sych)
- da (peth baw rhydd neu smotiau gwlyb)
- eithaf budr (rhannol fudr neu’n llaith a budr)
- budr iawn (budr iawn a gwlyb iawn)
Ar ddiwedd y treial, bydd pob sgôr yn cael ei adio i roi cyfanswm sgôr glendid.