Pencwm Diweddariad terfynol ar y prosiect: Mis Hydref 2025

Prif ganlyniadau: 

  • Cymysgedd 2 oedd y cnwd mwyaf cynhyrchiol o’r tri chymysgedd, gan gynhyrchu 20.5 tunnell fesul hectar.
  • Cymysgedd 1 oedd y cnwd lleiaf cynhyrchiol, gan gynhyrchu 9.5 tunnell fesul hectar, sef llai na hanner y tunelli o’i gymharu â chymysgedd 2.
  • Ni chafwyd unrhyw wastraff amlwg yn unrhyw un o’r cymysgeddau ar ôl cael eu pori gan y gwartheg, ac ni welwyd unrhyw ffafriaeth wrth bori.

Cefndir:

Mae Pencwm yn cael ei ffermio gan Berwyn, Hedydd a Gruff, lle maent yn cadw buches o 155 o wartheg sugno. Mae’r fferm arfordirol yn seiliedig ar laswellt yn bennaf, gydag 80 hectar o gnydau âr ar gylchdro, gan dyfu Haidd, Cêl a Rêp Porthiant.

Mae eu system magu bîff effeithlon yn dibynnu ar borthiant a dyfir gartref, ac mae’r gwartheg yn cael eu cadw allan dros y gaeaf tan ddiwedd mis Ionawr. Mae’r holl loi yn cael eu pesgi ar borthiant a haidd a dyfir gartref, ac maent fel arfer yn cael eu gwerthu rhwng 13-15 mis oed.

Mae’r teulu wedi treialu gwahanol opsiynau bwydo dros y gaeaf megis betys porthiant a chêl, ond maent yn awyddus i ymchwilio i ddull cymharol newydd o fwydo dros y gaeaf a fydd yn rhoi mwy o ystyriaeth i iechyd y pridd, bioamrywiaeth, lles anifeiliaid a sefydlogrwydd economaidd. 

Diben y gwaith

  • Datblygu cymysgedd bwydo effeithiol a chynhyrchiol ar gyfer y gaeaf er mwyn cynnal maeth gwartheg sugno dros y gaeaf ar borthiant a dyfir gartref.
  • Lleihau’r angen i gyflwyno byrnau silwair ychwanegol at y cnwd porthi dros y gaeaf.
  • Gwerthuso effaith cnwd porthiant gaeaf amrywiol ar iechyd y pridd

Yr hyn a wnaed: 

Sefydlwyd y lleiniau fel a ganlyn:

  • Cafodd y cnwd glaswellt blaenorol ei chwistrellu gyda glyffosad (23 Mai)
  • Agor pridd dan wyneb y tir
  • Drilio uniongyrchol gyda dril disg (ganol Mehefin)
  • Gwrtaith – 390kg/ha 14-14-21+s
  • Pelenni gwlithod 7kg/ha (10 Gorffennaf)  
  • Chwistrellu ar y dail - pryfladdwyr (gloÿnnod mawr gwyn), N+S a Boron ar y dail.
  • Pelenni gwlithod 7kg/ha (ail wasgariad 20 Awst) 

Rhestrir y cymysgeddau a heuwyd ar bob llain isod, ynghyd â’u prif fuddion.

Cymysgedd 1 (Cyfradd hau 12kg/erw)
60% Rhygwellt Eidalaidd Tetraploid – ansawdd pori a gorchudd y tir 
16% Cnwd bresych hybrid Spitfire – ansawdd pori a’r gallu i dyfu 
16% Meillion Gwaetgoch – porthiant sy’n cynnwys llawer o brotein a fydd yn sefydlogi nitrogen
8% Llyriad – porthiant sy’n cynnwys llawer o brotein a fydd yn aildyfu ac yn gwella cyflwr y pridd 

Cymysgedd 2 (Cyfradd hau 50kg/erw) 
80% Rhyg porthiant – ansawdd pori, gorchudd tir, ysglyfaethwr nitrogen a gwella’r pridd 
14% Ffacbys y gaeaf – porthiant sy’n cynnwys llawer o brotein a fydd yn sefydlogi nitrogen 
2% Maip sofl – porthiant sy’n cynnwys llawer o brotein sy’n sefydlu’n gyflym 
2% Llyriad – porthiant sy’n cynnwys llawer o brotein a fydd yn aildyfu ac yn gwella cyflwr y pridd
2% Rhyddugl – gwella pridd, tapwreiddiau dwfn a fydd yn chwalu cywasgiad, bydd y pennau’n darparu porthiant gyda lefel gymharol uchel o brotein

Cnwd rheoli (Cyfradd hau 3kg/erw)

Cêl (Gruner Angeliter) – math o gêl tal a chynhyrchiol a ddefnyddiwyd yn Seland Newydd ers sawl blwyddyn. Yn dalach ac yn fwy cynhyrchiol nag amrywiaethau mwy traddodiadol.

Cynhaliwyd asesiad o strwythur y pridd (VESS) a samplau pridd ar ddechrau’r prosiect, gyda’r dadansoddiad yn dangos pH o 6.2 a deunydd organig o 7.1% yn y pridd. Cafodd y cynnyrch ei gyfrifo gan ddefnyddio’r methodoleg torri a phwyso, a oedd yn golygu mesur ardal 1m x 1m, torri/tynnu a phwyso.
 

Ffigur 1- Map o Fferm Pencwm.
 

Cyflwynwyd y gwartheg i bori’r cymysgeddau ym mis Hydref a chawsant eu pori ar ffurf stribedi ar hyd y cae, er mwyn rhoi mynediad at bob un o’r tri chymysgedd, gan symud y ffens drydan bob dydd. Cafodd glendid y gwartheg a faint o’r cnydau a borwyd eu harsylwi yn ystod y cyfnod pori.

Ffigur 2. Gwartheg yn pori’r cae gyda thri chymysgedd gwahanol (Tachwedd 2024)

Ffigur 3.  Gwartheg yn pori’r cae gyda thri chymysgedd gwahanol (Tachwedd 2024).

Canlyniadau:

Iechyd y pridd

Roedd yr asesiad o strwythur y pridd ym mhob lleoliad yn dangos yr un canlyniad: 

  • 0-10cm. Sgôr 4 = gwael. Ychydig iawn o strwythur ac yn fandyllog iawn. Bydd hyn yn rhwystro’r gwreiddio. Yn debygol o fod o ganlyniad i draffig gwartheg.
  • 10-15cm. Sgôr 2. Da = pridd gyda strwythur da gyda llawer o fandyllau ac agregau mawr crwn.
  • 15-30cm. Sgôr 1. Da iawn = Strwythur ardderchog, mandyllog iawn, amodau gwreiddio da.

Er na welwyd unrhyw welliant o ran iechyd y pridd yn ystod cyfnod y prosiect, cymysgedd 2 sydd â’r potensial mwyaf ar gyfer gwella iechyd y pridd o ganlyniad i’r amrywiaeth a’r effeithiau cyfunol o’i gymharu â chymysgedd 1 a’r cnwd rheoli. Mae’r gwahanol rywogaethau o fewn cymysgedd 1 a’u buddion allweddol yn cynnwys:

  • Mae rhyg porthiant yn gweithredu fel gorchudd sy’n storio carbon ac yn defnyddio nitrogen, gan leihau trwytholchi nitradau.
  • Mae ffacbys y Gaeaf yn sefydlogi nitrogen, gan gyfoethogi’r pridd gyda’r nitrogen sydd ar gael.
  • Mae’r rhyddugl yn gweithredu fel aradr isbridd biolegol gyda thapwreiddiau cryf sy’n chwalu haenau sydd wedi’u cywasgu, gan greu mandyllau i gynyddu ymdreiddiad dŵr a threiddiad y gwreiddiau. Wrth ddiraddio, mae gwreiddiau rhyddugl yn gadael sianeli sy’n gwella strwythur y pridd a chynefinoedd microbaidd.

Cynnyrch y cnydau

Y cnwd mwyaf cynhyrchiol o’r tri chymysgedd, fel y gwelir yn Nhabl 1 isod, gan gynhyrchu 20.5 tunnell fesul hectar oedd cymysgedd 2 (80% rêp porthiant, 14% ffacbys y gaeaf, 2% maip sofl, 2% llyriad a 2% rhuddygl). Cymysgedd 1 (60% rhygwellt Eidalaidd tetraploid, 16% cnwd bresych hybrid Spitfire, 16% million gwaetgoch ac 8% llyriad) oedd y cnwd lleiaf cynhyrchiol, gan gynhyrchu 9.5 tunnell fesul hectar, sef llai na hanner y tunelli a gynhyrchwyd gan gymysgedd 2.

Tabl 1. Canlyniadau cynnyrch yn ôl tunelli fesul hectar ac erw

Cymysgedd

Cynnyrch (t/ha)

Cynnyrch (t/erw)

Cêl

14.5

5.87

Cymysgedd 1

9.5

3.85

Cymysgedd 2

20.5

8.3

Bu’r 16 o wartheg yn pori’r cae rhwng 28 Hydref 2024 a 26 Ionawr 2025 (ychydig yn llai na 13 wythnos). Gosodwyd 10 o fyrnau gwair ar ymyl y cae hefyd i helpu i ymestyn y cyfnod pori. Cafodd glendid y gwartheg ei fonitro trwy gydol y prosiect, gyda’r gwartheg yn aros yn lân iawn yn ystod y cyfnod pori. Nodwyd ei bod wedi bod yn aeaf sych. Ni welwyd unrhyw wastraff amlwg yn unrhyw un o’r cymysgeddau ar ôl eu pori gan wartheg, ac ni welwyd unrhyw ffafriaeth wrth bori. 

Cnydau at y dyfodol

Haidd oedd y cnwd dilynol yn y cae. Un ffactor a nodwyd yn y cnwd dilynol oedd bod pwysau chwyn yn yr haidd yn uwch lle’r oedd cymysgedd 1 a 2 wedi bod yn tyfu, gyda mwy o chwyn yn ymddangos yn yr haidd, ac roedd angen chwistrellu’r chwyn ddwywaith. 

Sut i’w roi ar waith ar eich fferm:

  • Wrth ddewis caeau, ystyriwch ffactorau megis cysgod ar gyfer anifeiliaid, mynediad at fyrnau, dŵr ffo, amodau’r pridd ac ati.
  • Ystyriwch yr hyn yr ydych yn anelu at ei gyflawni gyda’ch cnwd y gaeaf a dewiswch gymysgeddau rhywogaethau i gyd-fynd â’ch nodau.
  • Cyfrifwch ofynion porthiant y da byw yn ofalus a dyrannwch ardal bori yn unol â hynny yn seiliedig ar y cynnyrch. Mae’n well symud ffensys yn amlach drwy gydol y gaeaf i osgoi postio a gwastraffu.