Prosiect rheoli dail tafol mewn caeau â meillion a chaeau heb feillion, 2019

Swyddog Technegol: Sarah Hughes 

Ffermwr: Richard Roderick

 

Y Cefndir:

Nod y treial ar y safle arddangos oedd monitro rheoli dail tafol a chadw meillion. Roedd yn golygu defnyddio caeau ar gyfer dau dreial. Roedd un ar gyfer cynnyrch diogel, a’r llall ar gyfer cynnyrch safonol.  Gyda’r olaf, roedd hanner ohono’n cael ei ddefnyddio yn y gwanwyn a hanner yn yr hydref. Roedd y caeau mewn bloc o gaeau pori parhaol.  

Enw’r cae

Maint

Cynhwysion gweithredol a ddefnyddiwyd

Cyfradd /ha

Cost y cynnyrch*

Cyfnod Ymatal/Cynaeafu

Bridge Field (dim meillion)

3.24ha

Triclopyr (150g/l); Fluroxypyr (150g/l) 50% (Doxstar)

1l/ha (ail driniaeth ym mis Medi)

£23.75/ha

(£47.50 ar gyfer 2)

Ysbaid cynaeafu: 7 diwrnod

Cyfnod pori: 7 diwrnod

Sycamore Field (meillion ynddo]

3.6ha

Amidosulfuron (75% w/w) 100% (Squire Ultra)

0.06kg/ha

£40.00/ha

Ysbaid cynaeafu: 21 diwrnod

*A defnyddio ffigurau 2018 Cymdeithas Genedlaethol y Contractwyr Amaethyddol , a diesel coch yn 50c y litr,  gallai costau chwistrellu (hyd at 200l/ha) fod yn £12.63/ha yn uwch.

 

Ffig 1. Y tri chae o’r awyr

 

                                        

Chwistrellwyd y caeau ddiwedd Ebrill/dechrau Mai yn y cyfnod rhosglwm pan oeddynt yn tyfu.  Mae’n bwysig eu chwistrellu ar yr adeg iawn (pan fo’r rhosglymau’n 20cm o hyd neu led, yn ôl y label)

 

Gorffennaf 2019

Archwiliwyd y ddau gae ar 2 Gorffennaf i weld sut oedd y chwistrellu’n rheoli’r dail tafol. 

 

Bridge Field (heb feillion)

Dim ond hanner y cymysgedd o Triclopyr (150g/l) a Fluroxypyr (150g/l)  (Doxstar PRO) gafodd ei chwistrellu yn Bridge Field  (bydd ail chwistrelliad yn yr hydref). Roedd yn ymddangos fod y chwistrellu wedi bod yn effeithiol iawn ar y wyneb, gan ladd dros 85% o’r dail tafol yn y cae a pheth o dan y berth.

 

Sycamore Field (meillion yn bresennol) 

Roedd yn ymddangos nad oedd yr Amidusulfuron (Squire Ultra) wedi gwneud unrhyw ddifrod i’r meillion.  Hefyd, dim ond yn rhannol y cafodd y dail tafol eu rheoli.  Roedd dros eu hanner wedi dechrau aildyfu ac roedd blodeuo ar waelod y dail tafol nychlyd.


Mae’r lluniau’n dangos y dail tafol wedi’r chwistrellu – y coesau wedi duo a pheth ail dyfiant i’w weld ar y gwaelod.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gwnaed ail asesiad yn yr hydref i benderfynu a ddylid bwrw ymlaen â chwistrellu hanner arall y Triclopyr (150g/l); Fluroxypyr (150g/l) (Dockstar PRO), gan ddibynnu ar dyfiant y dail tafol a faint o chwyn oedd yn bresennol.   Am nad oedd llawer iawn o ddail tafol i’w gweld, teimlwyd y dylai’r ffermwr/agronomegydd edrych ar y cae eto yn ystod gwanwyn 2020 i weld a oedd digon o ddail tafol i gyfiawnhau chwistrelliad pellach.

Casgliadau:

  • Waeth beth yw cynnwys y chwistrelliad, dylai ffermwyr chwistrellu yn ystod y cyfnod twf cywir, yn unol ag argymhellion y gwneuthurwr
  • Yn y gwanwyn, os yw’r tywydd yn gynnes, gall chwyn dyfu hyd yn oed ar ôl chwistrellu
  • Mae’n hanfodol cymryd sylw o gyfyngiadau amgylcheddol megis peidio â defnyddio rhai chwistrelli yn nes na 5m i ddŵr sy’n llifo
  • Gall rheoli chwyn yn dda fod yn werth yr arian os yw’n gorchuddio dros 20% o dir pori.

Gwybodaeth arall:

  • Yn ôl y label ar y botel Amidosulfuron (Squire Ultra), a defnyddiwyd yn Sycamore Field  ac sy’n ddiogel i feillion, gall gymryd yn hwy (hyd at ddeufis) i’r chwyn gael eu lladd yn llwyr. Mae’r gwneuthurwr yn argymell 28 diwrnod er mwyn iddo weithio cyn bod silwair neu wair yn cael ei wneud
  • Os taw hanner sy’n cael ei ddefnyddio ar y tro, mae’n bwysig asesu pa mor effeithiol fu’r chwistrelliad cyntaf cyn ystyried defnyddio llai yr eildro.  Gall fod y dail wedi eu lladd, ond nid y gwreiddiau – a gall ail dyfiant ddigwydd wedyn yn yr hydref neu yn y gwanwyn dilynol.