Prosiect Rheoli Parasitiaid - Diweddariad Misol - Ebrill 2019

Mae'r rhan fwyaf o ffermwyr bellach wedi dechrau monitro cyfrifiadau wyau ysgarthol (FEC) ac wedi derbyn cyngor ynghylch pryd i fonitro a sut y dylid defnyddio'r data.

 

Profi mamogiaid o gwmpas y cyfnod wyna

O ran y ffermwyr defaid dan sylw, cafwyd trafodaeth dda ynghylch trin mamogiaid o gwmpas y cyfnod wyna a sut y gall profion FEC helpu gyda'r penderfyniad hwnnw. Ymhlith y rhai sydd wedi gwneud profion, mae’n ddiddorol nodi rhai amrywiadau diddorol a sylweddoli beth mae hynny’n ei olygu, fel y dangosir yn y pedwar detholiad data isod:-

 

James Powell, Dôl-y-garn

Cymerwyd y rhain i gyd dair wythnos cyn wyna pan oedd bwriad i’w dilyngyru yr un adeg â rhoi brechiad 8 mewn 1 neu eu troi i gaeau wyna. Y penderfyniadau a wnaed yn dilyn y canlyniadau hyn: 1) peidio â dilyngyru’r rhan fwyaf o famogiaid yn y tri grŵp â’r canlyniadau FEC isaf, 2) dilyngyru 80% o’r GefeilliaidTew a 3) dilyngyru’r rhai tenau a'r tripledi. Cynnal profion atodol ar ôl wyna i weld a yw’r canlyniadau wedi codi yn y grwpiau isaf.

 

Irwel Jones, Aberbranddu

Roedd profion 15 Mawrth adeg wyna pan fyddwn yn disgwyl i'r cynnydd yn y gwanwyn fod ar ei uchaf. Roedd yr holl ganlyniadau FEC yn isel iawn, yn rhannol am y byddai’r mamogiaid mewn cyflwr da iawn ac yn pori glaswellt o ansawdd da. Penderfynwyd peidio â dilyngyru ac roedd y prawf ôl-wyna ar 23 Ebrill a oedd yn dangos bod y FEC yn dal yn isel yn cadarnhau ein bod wedi gwneud y penderfyniad cywir. Mae hyn yn newyddion gwych oherwydd ni chafodd y mamogiaid hyn eu dilyngyru o gwbl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

 

David Lewis, Neuadd Halghton

Mae David yn dechrau wyna o ganol mis Chwefror tan ddiwedd mis Mawrth, a gwnaed yr ymweliad cyntaf tua diwedd wyna. Roedd yr holl famogiaid wedi cael eu dilyngyru â drensh Cydectin (Mocsidectin 3ml) wrth gael eu troi allan. Rhoddodd y prawf a wnaed ar un grŵp a gafodd ei droi allan a'i ddilyngyru rhwng pedair a phum wythnos yn gynharach ganlyniad FEC positif o 280 wy/gm.Roedd hyn yn annisgwyl oherwydd mae Mocsidectin i fod yn hirweithredol. Rhoddwyd cyngor i brofi grŵp arall, a gwnaed hynny ar 22 Ebrill - y tro hwn tua 19 diwrnod ar ôl y driniaeth, ac unwaith eto, yn annisgwyl,roedd y cyfrif yn uchel. Mae hyn yn codi pryder ynghylch effeithiolrwydd Mocsidectin ac mae angen rhagor o ymchwil. Bydd gan bob fferm gyfle i wneud ymchwiliad mwy trylwyr i effeithiolrwydd moddion dilyngyru yn ddiweddarach yn yr haf.

 

Nicola Drew, College Farm

Cafodd mamogiaid College Farm eu dilyngyru wrth gael eu troi allan. Cadarnhaodd y canlyniadau hyn fod angen y moddion dilyngyru. Ond rhoddwyd cyngor i beidio â dilyngyru’r holl senglau er mwyn gadael canran o famogiaid heb eu trin.

 

Mae’r canlyniadau hyn yn dangos pwysigrwydd gwneud profion FEC er mwyn canfod y ffordd orau o ddilyngyru. Yn ystod y gwanwyn, mae'n hawdd tybio y bydd un grŵp a / neu fferm yn debyg iawn i’w gilydd, ac mae'r uchod yn dangos nad yw hynny'n wir.

Wrth i’r ŵyn ar y rhan fwyaf o ffermydd nesu at chwe wythnos oed a hŷn, bydd y prif sylw o hyn ymlaen ar yr ŵyn ac yn enwedig, yn y lle cyntaf, Nematodirus.Ar y tair fferm sy’n canolbwyntio ar wartheg, bydd nifer y profion yn cynyddu ym mis Mai, wrth i’r gwartheg ifainc bori glaswellt y gwanwyn.