Prosiect Safle Arddangos - Cae Haidd Ucha
Lleihau colledion silwair byrnau mawr wrth fwydo defaid
Nodau’r prosiect:
- Bydd y prosiect hwn yn anelu at ddarganfod y colledion ffisegol a chemegol allan o silwair a ddaw wrth fwydo byrnau mawr mewn porthwyr cylch a’r hyn y gellir ei wneud i leihau’r colledion hyn o ran sicrhau’r niferoedd gorau posibl mewn grŵp.
Amcanion strategol:
- Amcan y prosiect yw meintoli’r colledion sy’n digwydd wrth borthi, o ran colledion ffisegol wrth i’r silwair cael ei dynnu dan draed a dirywiad cemegol wrth i’r silwair fod yn agored i’r elfennau.
Nodweddion ymarferol y prosiect:
- Bydd byrnau’n cael eu bwydo mewn porthwyr cylch confensiynol yn yr awyr agored, ond er mwyn canfod y colledion, bydd y porthwyr cylch yn cael eu gosod ar fyrddau stoc wedi’u torri i siâp cylch sy’n 2m yn fwy o ran diameter na’r porthwr.
- Defnyddir dau borthwr, un yn bwydo 50 mamog a’r llall yn bwydo 100, gan fwydo byrnau yn ôl y galw.
- Cyn porthi, bydd pob bwrn yn cael ei bwyso a’i ddadansoddi gan ddefnyddio cemeg gwlyb a bydd tymheredd y craidd yn cael ei gofnodi.
- 3 awr ar ôl porthi, bydd y silwair sydd wedi cael ei dynnu i’r llawr yn cael ei gasglu a’i bwyso, a bydd cyfanswm y deunydd sych (DM) yn cael ei bennu gan ddefnyddio dyfais NIRS â llaw.
- Bydd y broses yn cael ei ailadrodd bob bore a nos bob dydd nes bydd 4 bwrn wedi cael eu bwydo.
- Bydd mesuriadau glawiad, tymheredd, dadansoddiad silwair y bwrn trwy gemeg gwlyb a thymheredd y craidd hefyd yn cael eu cymryd yn ddyddiol.
- Bydd hyn yn rhoi data cadarn ynglŷn â sut mae rhinweddau’r silwair yn newid dros amser, ac felly sut bydd yn effeithio ar gymeriant yn ystod y cyfnod allweddol hwn yng nghalendr y ddafad.
Diweddariad Prosiect:
Mae arbrawf Cyswllt Ffermio wedi dangos bod colledion o ddeunydd sych wrth fwydo rhwng 21% a 30%
Asesu Colledion Porthi Byrnau Mawr - Prosiect Fferm Arddangos Cyswllt Ffermio Cae Haidd, Gaeaf 2017
Vlog: Colledion Silwair
Adroddiad Terfynol ar Astudiaeth Porthi Defaid ar Fyrnau Crwn Cae Haidd
Defnyddio Technoleg Awtomataidd i wella’r Modd y Canfyddir Gwartheg sy’n Gofyn Tarw yn y Fuches Sugno
Nodau’r prosiect:
- Gwerthuso effeithlonrwydd system awtomataidd i ganfod gwartheg sy'n gofyn tarw, er mwyn gwella cyfraddau beichiogi a lleihau'r cyfnod lloea yn y fuches sugno sy'n defnyddio AI.
Amcanion strategol:
- Lleihau’r bwlch lloea yn y fuches bîff a chynyddu'r pwysau a gynhyrchir fesul buwch i wella perfformiad y fuches ac allbwn y fferm gyfan.
- Cynyddu nifer y lloeau sy’n cael eu magu i bob buwch sy’n derbyn tarw bob blwyddyn
- Targed o 65% o'r fuches i loea o fewn y tair wythnos gyntaf a 95% o fewn naw wythnos.
Nodweddion ymarferol y prosiect:
- Pob buwch yn derbyn coler synhwyro symudiad, a fydd yn monitro pob buwch 24 awr y dydd.
- Mae’r data’n cael ei ddadansoddi gan y feddalwedd bob 15 munud a phan ganfyddir gweithgaredd afreolaidd sy’n nodweddiadol o fuwch mewn cyfnod oestrws, bydd y ffermwr yn derbyn neges destun ac e-bost i’w hysbysu. Bydd y ffermwr yn penderfynu ar yr amseriad gorau ar gyfer AI a bydd unrhyw gyfnodau oestrws tawel neu batrymau gofyn tarw afreolaidd yn cael eu canfod.
- Bydd symudiad gwartheg yn cael ei gofnodi’n awtomatig dros gyfnod o 12 wythnos a fydd, ynghyd ag arsylwadau'r ffermwr, yn dangos nifer yr achosion gofyn tarw a fyddai fel arall wedi cael eu methu heb y dechnoleg.
Diweddariad y prosiect:
- Mynegai lloea gwirioneddol ar gyfer tymor 2016 oedd 401 diwrnod. Llawer is na’r cyfartaledd cenedlaethol, ond digon o le i wella.
- Mynegai lloea a ragwelir ar gyfer 2017 yw 360 diwrnod. O ganlyniad i sawl ffactor, mae’n annhebygol y bydd y targed hwn yn cael ei gyrraedd, ond mae’n edrych yn addawol iawn y bydd y mynegai lloea’n cael ei leihau’n sylweddol, ac felly o ganlyniad bydd effeithlonrwydd y fenter yn cynyddu'n sylweddol.
- Gan fod y cyfnod lloea wedi dechrau ar fferm Cae Haidd, bydd y coleri'n cael eu gosod ar y gwartheg erbyn diwedd mis Ionawr.
- Ar ôl y cyfnod lloea eleni, bydd y gwartheg sydd â hanes o fynegai lloea hir yn cael eu difa i leihau’r cyfnod lloea ymhellach.
Diweddariad Prosiect:
Trwy gyfuniad o dechnoleg a newidiadau mewn rheolaeth, mae cynnydd sylweddol wedi cael ei wneud ar fferm Cae Haidd o ran lleihau mynegai lloia’r fuches sugno. Ar ddechrau’r prosiect yn ystod gwanwyn 2016, roedd mynegai lloia’r fuches yn 401 diwrnod, a oedd yn llawer is na’r cyfartaledd cenedlaethol o 426 diwrnod yn 2013. Yn 2017, roedd y mynegai lloia lawr i 384 diwrnod, a chafwyd lleihad sylweddol yn y cyfnod lloia hefyd. Y mynegai lloia a ragwelir ar gyfer eleni yw 370 diwrnod, gan olygu bod y targed o 365 diwrnod yn bendant o fewn cyrraedd.
Bydd y mynegai lloia’n cael ei gyfrifo ar ôl i bob buwch ddod â llo, a gan ddefnyddio dyddiad AI ar gyfer eleni, bydd rhagolygon mynegai lloia 2019 yn cael eu cyfrifo. O ganlyniad i’r amrywiaeth mewn cyfnod beichiogrwydd o fewn y fuches, bydd angen i’r mynegai lloia a ragwelir fod o leiaf 5 diwrnod yn llai na 365 er mwyn i Paul lwyddo i sicrhau mynegai lloia o 365 diwrnod.
O safbwynt rheolaeth, mae’r gallu i gadw’r gwartheg cyntaf i ddod â lloi ar wahân wedi cael effaith sylweddol ar y mynegai lloia. Mae’r dechnoleg wedi amlygu bod y gwartheg yma’n agored iawn i gael eu bwlio pan fyddant yn cael eu cadw dan do gyda gweddill y fuches, gan arwain at lai o fwyd yn cael ei fwyta a sgôr cyflwr corff llai na’r hyn sy’n ddelfrydol. Er bod eu diet yn parhau i fod yr un fath o ran maeth, mae’r cynnydd yn y bwyd sy’n cael ei fwyta o ganlyniad i fwy o amser wrth y cafn wedi cael effaith sylweddol.