Mae ffermwyr defaid yn colli bron traean o fyrnau silwair mawr wrth borthi – hyd at £9.45 am bob bwrn ar y gwerth cyfredol – ond mae modd lleihau’r golled trwy dorri byrnau yn eu hanner a’u rhoi mewn dau borthydd cylch yn hytrach nag un yn unig.
Roedd yr arbrawf yn cynnwys dau grŵp o ddefaid yng Nghae Haidd, Fferm Arddangos 125 hectar (310 erw) Cyswllt Ffermio ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Dechreuodd y ffermwyr, Paul a Dwynwen Williams, ar arbrawf i fesur y colledion trwy weithio gyda Cyswllt Ffermio a Dr David Davies, arbenigwr silwair.
Cafodd dau grŵp o 30 a 60 o famogiaid eu creu er mwyn archwilio a oedd nifer y defaid a’r cyfnod a gymerwyd i fwyta’r bwrn yn effeithio ar golledion maethol.
Roedd silwair yn cael ei samplu a’i bwyso ar ôl agor pob un bwrn. Hefyd, roedd samplau yn cael eu cymryd o’r silwair yn y porthydd ac ar y ddaear a fyddai’n cael eu pwyso a’u dadansoddi.
Pum bwrn yn olynol a roddwyd i bob grŵp. Cymerodd y grŵp o 30 mamog 8.25 diwrnod i’w fwyta a chymerodd y grŵp o 60 mamog 4.25 diwrnod.
Roedd y gwastraff yn uwch yn y grŵp bach gyda 29.54% deunydd sych (DM)/bwrn neu 2.31kg DM/mamog, o’i gymharu gyda 20.99% DM/bwrn neu 0.94kg DM/mamog yn y grŵp mawr.
Cyfanswm cymeriant dyddiol y famog oedd 0.86kg yn y grŵp o 60 mamog a 0.69kg yn y grŵp bach.
Dywedodd Dr Davies, pe byddai’r gost o gynhyrchu tunnell o DM silwair yn £120, yna byddai’r colledion yn £35.45/t DM yn y grŵp mawr a £25.19/t DM yn y grŵp bach.
Os yw bwrn yn costio £32 i’w gynhyrchu, mae’r colledion DM yn cyfateb i werth ariannol o £9.45 y bwrn ar gyfer y grŵp 30 mamog a £6.75 ar gyfer y grŵp 60 mamog.
Mae’r canlyniadau hyn hefyd yn golygu bod angen cynhyrchu tua 30% a 21% yn fwy o silwair na fydd yn cael ei ddefnyddio.
Gallai glaw fod yn ystyriaeth bwysig arall mewn grwpiau llai; yr hiraf mae silwair yn agored i’r tywydd, y mwyaf o ddŵr mae defaid yn ei fwyta sy’n golygu bod y cymeriant yn llai.
Mae Dr Davies yn dweud bod newidiadau i boblogaeth microbau yn fwy tebygol yr hiraf mae bwrn ar agor sy’n rhoi defaid mewn peryg o glefydau.
“Mae cymryd y risg hwn ynghyd â’r posibilrwydd am gymeriant silwair is yn golygu bod gan ddefaid lai o imiwnedd sy’n eu gwneud yn fwy tebygol o ddioddef clefydau a heintiau,” mae Dr Davies yn rhybuddio.
Roedd Paul a Dwynwen yng Nghae Haidd wedi newid eu system fwydo bedair blynedd yn ôl er mwyn ceisio lleihau colledion.
“Yn y flwyddyn cyn i ni newid y system, roeddem ni’n glanhau’r ardal o amgylch y porthydd ar ddiwedd y cyfnod bwydo ac wedi cael ein synnu gan faint oedd yn cael ei wastraffu,’’ dywedodd Mr Williams.
Ers hynny, mae silwair wedi cael ei dorri yn y porthydd TMR a’i roi mewn porthydd gwair gyda chaead ar gyfer y ddiadell o 600 o famogiaid croes Fonteira a Penderyn.
Mae’r rhwyll wifrog fach yn rhwystro’r defaid rhag tynnu mwy o silwair allan na'r angen ac mae’r caead yn ei gadw rhag y glaw.
Yn ôl Mr Williams, yr unig bwynt negyddol yw bod angen ychwanegu at y porthydd yn fwy cyson na’r porthydd cylch - dau ddiwrnod yn hytrach na phedwar.
Ond mae Dr Davies yn rhybuddio bod rhoi bwrn trwy beiriant torri yn medru cynyddu problemau gyda listeria.
“Os oes rhan fach o’r silwair wedi cael ei lygru yna, o’i roi trwy’r peiriant torri, mae’r silwair yn gyfan gwbl wedi cael ei lygru yn hytrach na rhan fach,’’ dywedodd.
“Mae’n cymryd llai na 100 listeria i achosi clefydau yn y defaid, felly, mae yna beryg i bob un gael ei heintio yn hytrach na un neu ddau.’’
Mae ansawdd silwair da yn bwysig i’r system yng Nghae Haidd Uchaf. Nid yw’r mamogiaid yn cael bwyd ychwanegol nes iddyn nhw gael eu rhoi yn y sied tair wythnos cyn ŵyna. Cafodd y silwair yn yr arbrawf ei ddadansoddi fel 48% DM, ME o 9.6 MJ/kg DM a 12.2% o brotein crai.
Ar ôl sganio yng nghanol mis Ionawr, mae mamogiaid sy’n cario gefeilliaid neu dripledi yn pori swêj gyda silwair ychwanegol fel bwyd garw, tra bod y rhai sy’n cario oen sengl yn cael silwair yn unig.
Dywedodd Mr Williams fod yr arbrawf wedi dangos gwerth silwair. “Roedd y silwair yn syrthio ar fatiau rwber o amgylch y porthydd er mwyn helpu gyda’r broses casglu a phwyso. Roeddem ni wedyn yn gallu bwydo’r gwartheg gyda rhain ond roedd e’n atgoffa ni o’r colledion sydd yn digwydd.”
Awgrymiadau i leihau colledion silwair
Torri byrnau yn eu hanner a’u bwydo mewn dau borthydd cylch
Torri silwair mewn peiriant torri a’i ddefnyddio fel bo angen
Addasu’r porthydd cylch er mwyn i’r silwair sy’n cael ei dynnu allan gwympo mew i gafn