Prosiect Safle Arddangos - Great Tre-rhew

Hyfywedd Blociau Conwydd Bychain ar Fferm

 

Nodau’r prosiect:

  • Arddangos arferion torri a thynnu blociau conwydd sydd eisoes wedi sefydlu a chynhyrchu coed ar fferm.
  • Archwilio hyfywedd rheoli blociau conwydd bychain gan ystyried logisteg torri a thynnu, gan hefyd ystyried topograffeg a maint yr ardal goetir.

Amcanion strategol:

  • Dangos arfer dda a dulliau effeithlon a chost effeithiol o dorri a rhynnu coed o flociau coetir ar fferm.
  • Ymchwilio i gyfleoedd i ychwanegu gwerh ac archwilio’r marchnadoedd sydd ar gael ar gyfer cynnyrch coed o ansawdd amrywiol.

Nodweddion ymarferol y prosiect:

  • Bydd 0.65 hectar o goed Pyrwydd Sitka, a blannwyd yn ystod y 1960au yn cael eu torri a’u tynnu gan ddefnyddio gwahanol ddulliau, sef cynaeafwr a chludwr yn hytrach na thechnegau torri a defnyddio winsh. gan ystyried topograffeg a maint yr ardal coetir.
  • Bydd cyfanswm y coed a gynhyrchir yn cael ei gofnodi a bydd ansawdd amrywiol y coed sydd ar gael yn cael ei nodi e.e. boncyffion wedi’u llifio, bariau, deunyddd ffensio a sglodion pren.
  • Cafodd costau torri a thynnu gan ddefnyddio dulliau cynaeafu amgen hefyd eu cofnodi.

Diweddariad prosiect:

  • Bydd bloc o goed Pyrwydd Sitka yn cael ei dorri a’i dynnu yn ystod diwrnod agored ar y 6ed Rhagfyr 11yb-4yp.

Adroddiad digwyddiad agored:

Roedd y diwrnod agored yn gyfle i weld arddangosiad ymarferol o gwympo ac echdynnu bloc o goetir fferm nodweddiadol o Befrwydd Sitka a oedd heb ei reoli ers ei blannu.

Mae elfen economaidd y gwaith yn dibynnu ar werth y coed a’r defnydd yn y pen draw, fel y nodwyd ar y diwrnod. Cafwyd arddangosiad o sut i ychwanegu gwerth trwy roi’r coed trwy’r felin a phrosesu pyst ffensio.

Rhoddodd Iwan Parry - Uwch Reolwr Coedwig ar ran Tilhill Forestry dros ardal De Cymru - drosolwg o’r broses o farchnata parsel o goed yn effeithiol a rheoli’r broses.

Cafodd ffermwyr gyfle i ymweld â’r safle a gweld y peiriant cynaeafu ar waith, ynghyd â logisteg cwympo a thynnu i ochr y ffordd. Cafwyd trafodaeth dda ar y safle ac yna yn yr iard wrth wylio’r felin a’r prosesydd pyst ar waith.

Cafwyd cyflwyniadau yn y prynhawn gan Tilhill, Coed Cymru a’r Woodland Trust.

 

Negeseuon Allweddol:

Mae’n bwysig bod gan berchnogion tir ddealltwriaeth lawn o’r broses cyn ceisio naill ai gwerthu bloc o goetir neu ystyried cwympo a phrosesu eu hunain. Ceir tair rhan sylfaenol i’r broses: Dull gwerthu, cynllunio a rheoli

Bydd hyn yn ymwneud â Gwerthuso’r Tendr, Cynllunio a Rheoli Safle Cynaeafu/Gwerthiant.

Anelwch at dderbyn cyngor da ynglŷn â rheoli eich coetir. Bydd cynllunio effeithiol a thechnegau rheolaeth priodol yn cyfrannu at brosiect llwyddiannus.

Ymyrraeth briodol ac amserol oedd neges Coed Cymru gyda throsolwg o’r hyn y dylid ei ystyried wrth blannu e.e. y goeden iawn yn y lle iawn.

Bu’r Woodland Trust yn hyrwyddo cysyniad rheolaeth PAWS a’r ffaith bod modd i goedwigaeth fasnachol a rheolaeth PAWS weithio law yn llaw er mwyn sicrhau canlyniadau busnes effeithiol.

Gall hyfywedd ariannol blociau coetir bychain ar ffermydd megis Skirrid fod yn ddadleuol gan ddibynnu ar y rhywogaethau sy’n bresennol, anawsterau logisteg o ran topograffeg ayb, ansawdd y coed a’r defnydd yn y pen draw.

Gall ychwanegu gwerth coed ar y fferm a phrosesu adnodd cynaliadwy i mewn i ddeunydd a chynnyrch y mae modd eu defnyddio ar y fferm gyfrannu tuag at arbedion sylweddol wrth gyflwyno prosiectau penodol megis adfer hen adeiladau fferm neu ffensys.