Prosiect Safle Arddangos - Rhiwgriafol

Gwella tir Ffridd trwy wella rheolaeth o’r borfa

 

Nod y prosiect:

Dangos y broses o drawsnewid Ffridd wedi’i wella’n rhannol o system stocio sefydlog i system bori cylchdro a’r manteision cysylltiedig o ran gwella ansawdd glaswellt.

 

Beth fydd yn cael ei wneud:

  • Mae darn 28 erw o dir wedi’i wella’n rhannol wedi cael ei neilltuo, ac nid yw’r tir wedi cael ei aredig ers 19 mlynedd.
  • Bydd yr ardal yn cael ei rhannu’n 7 padog ar gyfer mamogiaid ac ŵyn (rhwng 300-400 o famogiaid sych ar ôl diddyfnu).
  • Byddwn yn asesu gofynion bwyd da byw ar y fferm er mwyn canfod yr anifeiliaid mwyaf addas i’w defnyddio ar y system bori cylchdro – yn ystod y tymor pori cyntaf dan y system reoli newydd, rhoddir blaenoriaeth i ddefaid.
  • Byddwn yn cyfrifo cymeriant DM arfaethedig, ac yn asesu argaeledd llafur.
  • Dylunio celloedd i weddu i’r anifeiliaid dan sylw gan ystyried topograffeg, dŵr, pŵer a symudiad anifeiliaid.
  • Gosod y system a sefydlwyd.
  • Hyfforddiant i’r cleient o ran sut i ddefnyddio’r offer ffensio parhaol/dros dro a systemau dŵr yn y ffordd orau neu fwyaf effeithlon.
  • Cefnogaeth barhaus i sefydlu a rheoli’r pori cylchdro. Dan reolaeth y ffermwr gan gymryd mesuriadau wythnosol gyda mesurydd plât, gydag ymweliadau ychwanegol gan James Daniel ar adegau pwysig.

Diweddariad Prosiect - Gorffennaf 2019


Trechu cloffni mewn mamogiaid

Nod y prosiect:

Mae cloffni yn broblem sylweddol o ran lles a chynhyrchiant ar nifer o ffermydd, felly nod y prosiect yw hyrwyddo cynllun rheoli cloffni ar gyfer y ddiadell gyfan gan ddefnyddio’r ‘cynllun 5 pwynt’ sy’n cydfynd â safonau’r diwydiant (Veterinary Record, 2014).

 

Amcanion strategol:

  • Yn ystod cyfnod o bedair blynedd, mae’r ffermydd sydd wedi ymrwymo i bob un o’r pum pwynt yn y cynllun wedi sicrhau lefelau cloffni llai nag 1%.
  • Mae technegau a ddefnyddir trwy’r cynllun pum pwynt yn cynnwys brechu, difa, triniaeth brydlon, osgoi traws-heintio a mesurau cwarantîn effeithiol.
  • Mae’n debygol bod angen gweithredu pob elfen o’r cynllun pum pwynt er mwyn sicrhau lleihad yn lefelau cloffni yn yr hirdymor. Fodd bynnag, mae llwyddiant nifer o ffermydd sy’n gweithredu’r cynllun pum pwynt yn dangos bod modd lleihau lefelau cloffni o fewn cyfnod cymharol fyr ond nid yw’n gofyn am ymrwymiad hirdymor er mwyn parhau â’r llwyddiant hwnnw.

Nodweddion ymarferol y prosiect:

  • Mewn cydweithrediad â chyngor strategol gan y Food Animal Initiative (FAI) a milfeddyg y fferm ei hun, bydd cynllun lleihau cloffni ar draws y ddiadell gyfan yn cael ei gweithredu gan ddefnyddio egwyddorion y cynllun 5 pwynt.
  • Bydd lefelau a difrifoldeb cloffni yn y ddiadell yn cael eu monitro dros gyfnod o 12 mis.
  • Gan weithredu fel data gwaelodlin, bydd sampl o famogiaid yn cael eu harchwilio’n unigol a’u sgorio yng nghyd-destun presenoldeb y clefyd, ei achos a'i ddifrifoldeb. Bydd hyn yn cymryd lle cyn hyrdda ac yn cael ei ail adrodd unwaith eto ar ddiwedd y prosiect ar adeg debyg o’r flwyddyn.
  • Yn dilyn y broses o gasglu data cychwynnol, bydd ymweliad misol yn monitro lefelau cloffni yn y ddiadell gan ddefnyddio sgôr symudedd (p'un ai  yw cloffni'n bresennol ai peidio).
  • Bydd hyn yn cael ei wneud mewn cydweithrediad â’r ffermwr ac ar yr un pryd bydd cofnodion triniaeth ar gyfer y mis blaenorol yn cael eu casglu.
  • Bydd defnydd gwrthfiotigau’r ddiadell yn cael ei gofnodi, yn ogystal ag unrhyw olchi traed a wnaed, unrhyw famogiaid sydd wedi'u difa oherwydd cloffni, llafur sy'n gysylltiedig â'r driniaeth a roddwyd ac unrhyw ddata cynhyrchiant perthnasol.

Casgliad:

Cyn dechrau’r prosiect, roedd achosion o gloffni yn Rhiwgriafol rhwng 8% a 10% o’r ddiadell gyfan. Ers mabwysiadu’r cynllun 5 pwynt mae lefelau cloffni wedi gostwng o dan 1% sydd wedi gwella effeithlonrwydd y ddiadell.

 

Negeseuon Allweddol:

  • Mae cyfuno nifer o ddulliau ar gyfer rheoli clwy’r traed a llid y traed yn cyflawni targed o lai na 5% o gloffni yn y flwyddyn gyntaf ar ôl cael ei gyflwyno.
  • Mae’n debygol y byddai angen rhoi pob elfen o’r cynllun 5 pwynt ar waith er mwyn cyflawni lleihad parhaol yn y lefelau o gloffni. Serch hynny, mae llwyddiant sawl fferm i roi’r cynllun 5 pwynt ar waith yn dangos bod lleihau cloffni yn bosib mewn amserlen fer ond mae’n gofyn am ymrwymiad tymor hir er mwyn cynnal y llwyddiant.

Opsiynau Gaeafu Defaid

Nodau’r prosiect:

  • Arddangos ffactorau ymarferol ac effaith ariannol system aeafu’n seiliedig ar swêj o’i gymharu â system dan do ac anfon mamogiaid i’w gaeafu oddi ar y fferm (tac).
  • Defnyddio dau o'r mathau rhataf o fwyd sydd ar gael i ffermwyr defaid yn ystod cyfnod o’r flwyddyn pan fo costau porthi’n uchel fel arfer. Mae swêj yn costio £62/tunnell ac mae glaswellt/meillion yn costio £72/tunnell o ddeunydd sych a ddefnyddir (Forage Choice Costs & Rotation Report, Kingshay; Ebrill 2010)

Amcanion strategol:

  • Casglu a gwerthuso data'n ymwneud â manteision gaeafu mamogiaid beichiog ar gnydau bresych a swêj er mwyn sicrhau’r elw gorau o fentrau defaid.
  • Archwilio opsiynau i leihau dibyniaeth ar fwydydd a brynir i mewn.

Nodweddion ymarferol y prosiect:

  • Bydd cae 10 erw o swêj (o rywogaeth Invitation) yn cael ei hau ar gyfradd o 1kg/erw. Bydd cynnyrch y cnydau'n cael ei fonitro o'u sefydlu hyd at eu pori, er mwyn canfod cyfraddau stocio cywir. Bydd y swêj hefyd yn cael ei ddadansoddi wrth bori er mwyn pennu’r gwerth maethol.
  • Bydd mamogiaid yn cael ei rhannu ar hap yn dri grŵp. Bydd y grŵp cyntaf yn pori'r swêj mewn stribedi o fis Ionawr nes byddant yn cael eu symud at laswellt dair wythnos cyn ŵyna. Byddai’r ail grŵp yn cael eu cadw dan do ym mis Ionawr a chynnig silwair mewn byrnau a dwysfwyd. Bydd y silwair yn cael ei ddadansoddi er mwyn cydbwyso’r dogn. Bydd y trydydd grŵp yn cael eu hanfon i bori ar gyfer y gaeaf yn ystod mis Hydref a dychwelyd i'r fferm i ŵyna. Ni fyddant yn derbyn unrhyw ychwanegiadau at y glaswellt.
  • Bydd perfformiad y mamogiaid yn cael ei fonitro trwy sgorio cyflwr corff, asesu iechyd cyffredinol y ddiadell (gan gynnwys cyfraddau marwolaeth, cloffni a bwrw’r llawes goch) a data ŵyna (nifer yr ŵyn a anwyd a cholledion ŵyna/problemau wrth ŵyna). Bydd costau mewnbwn y ddwy fenter yn cael eu cofnodi a bydd ŵyn yn cael eu pwyso'n wyth wythnos oed.

Diweddariad y prosiect:

  • Dechreuodd 250 o famogiaid o oedrannau cymysg bori ar y swêj ar ddechrau mis Ionawr a gydag amodau tywydd cymharol sych ac maent yn clirio’r cnwd yn dda
  • Amcangyfrifwyd cynnyrch deunydd sych cyffredinol y cnwd ar y 19eg o Ionawr a chyfrifwyd ei fod oddeutu 10 tunnell o ddeunydd sych i bob hectar (neu oddeutu 4 tunnell i bob erw)
  • Sgoriwyd cyflwr corff mamogiaid yn ystod trydedd wythnos mis Ionawr ac mae’r mwyafrif wedi cyrraedd y sgôr cyflwr targed o 3. Bydd mamogiaid sy’n cario ŵyn sengl a gefeilliaid yn parhau i bori’r cnwd a bydd mamogiaid yn cael eu cadw dan do 4 wythnos cyn ŵyna a mamogiaid sy’n cario ŵyn sengl yn cael eu cadw dan do yn ystod wythnos olaf beichiogrwydd

Casgliad:

Cafodd y tair system eu dadansoddi o ran costau a’r swêj oedd y porthiant rhataf yn £8 y famog o’i gymharu â £11 y famog ar gyfer mamogiaid sy’n gaeafu oddi ar y fferm, a £17 y famog ar gyfer y rheiny ar silwair a dwysfwyd. Mae’r costau hyn yn cynnwys gofynion llafur yn ogystal â lwfans ar gyfer rhent unrhyw dir a ddefnyddiwyd. Cynyddodd hyn gostau ar gyfer gaeafu’r mamogiaid tu allan ar borfa, dwysfwyd ac ychydig o silwair, yn sylweddol.

Roedd cyflwr y rhan fwyaf yn sgorio rhwng 2 a 2.5 ar ddiet y borfa a dwysfwyd (sydd o dan y sgor targed ar gyfer eu cyflwr yn ystod ŵyna), tra bod mamogiaid ar y swêj a’r mamogiaid wedi’u gaeafu oddi ar y fferm yn sgorio rhwng 3 a 3.5 ar gyfer cyflwr (y sgor delfrydol ar gyfer ŵyna).

 

Negeseuon Allweddol:

  • Monitro cynnyrch cnwd er mwyn defnyddio cnwd yn effeithlon ac osgoi gwastraff.
  • Cnwd toriad da ond tynnwyd y cae allan o’r cynhyrchiant ar ddiwedd mis Mai 2016 ac roedd dilyn y cnwd hwn gyda gwndwn gwair ar gyfer pori parhaol yn golygu nad oedd y cae ar gael i’w bori nes diwedd mis Mehefin 2017. Roedd tynnu’r caeau allan o’r cynhyrchiant yn £1.50 y famog neu 20% o gyfanswm y gost.
  • Effeithiodd systemau porfa a dwysfwyd yn sylweddol ar dwf porfa’r gwanwyn dilynol.

Diweddariad Prosiect:

Adroddiad: Strategaethau i wella rheolaeth yn y gaeaf

Erthygl: Sicrhau’r perfformiad gorau trwy deilwra maeth i ofynion mamogiaid beichiog


Gwneud defnydd gwell o borfa

Cyflwyniad y prosiect:

Newid rhan o’r fferm o system stocio sefydlog i system pori cylchdro er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r borfa. Bydd y prosiect yn tynnu sylw at ystyriaethau ymarferol rhannu’r fferm a sefydlu’r isadeiledd perthnasol. Ar hyn o bryd, mae’r fferm yn pori’r heffrod llaeth, sy’n cael eu magu ar gytundeb, mewn stribedi ond mae rheoli’r borfa yn cael ei wneud yn bennaf trwy asesiadau gweledol, nid mesur y borfa’n gywir.

 

Y prosiect ar waith:

  • Mae yna ardal 12.4 ha o ddaear sydd wedi’i wella yn cael ei rannu’n 8 cae bach ar gyfer mamogiaid ac ŵyn cyn cael eu rhannu eto i gyfanswm o 16 cae bach ar gyfer yr heffrod.
  • Bydd asesiad yn cael ei wneud o’r porthiant sydd ei angen ar dda byw’r fferm er mwyn canfod yr anifeiliaid mwyaf addas i’w defnyddio yn y system pori cylchdro - y defaid fydd yn cael blaenoriaeth yn y tymor pori cyntaf.
  • Lluniwch y celloedd yn addas ar gyfer yr anifeiliaid pwrpasol gan ystyried topograffeg, agwedd, dŵr, pwer a symudiadau’r anifail/personel.
  •  

    Mae’r diagramau isod yn dangos isadrannau’r caeau ar gyfer heffrod a mamogiaid ac ŵyn.

  • Sefydlu’r system a luniwyd.
  • Hyfforddi’r ffermwr yn y defnydd cywir ac effeithlon o offer ffensio parhaol/dros dro a systemau dŵr.
  • Mesuriadau wythnosol mesuryddion plat sydd i’w gweld ar dudalen Prosiect Porfa Cymru.

Heffrod:

 

Mamogiaid ac ŵyn:

 

Diweddariad prosiect:

Erthygl: Sicrhau bod digon o fwyd ar gael yn allweddol er mwyn gwneud penderfyniadau yn gynnar ar ffermydd yng Nghymru

 

Fideo: Diweddariad Fferm Arddangos Rhiwgriafol gyda Lisa Roberts (Swyddog Technegol Cig Coch)