Prosiect Safle Arddangos - Tyreglwys

Addasu adeiladau fferm ar gyfer magu lloi yn effeithiol – Awyru gan ddefnyddio Tiwb Pwysedd Positif (PPAT) wrth gadw lloi dan do

 

Nod y Prosiect:

  • Nod yr astudiaeth hon yw asesu honiadau’r cynllun PPAT ar gyfer gwella’r siedau gwreiddiol ar fferm. Edrychir ar feysydd perfformiad, dosraniad awyr iach a’r addasrwydd at awyru naturiol trwy gydol y flwyddyn y mae PPAT yn ei nodi. Byddwn hefyd yn edrych ar yr effaith mae’n ei gael ar iechyd y llo, niwed i’r ysgyfaint, perfformiad a’r defnydd gwrthficrobaidd.

Amcanion strategol:

  • Mae lloi weithiau yn cael eu magu mewn adeiladau gydag awyru gwael sydd ddim yn addas ar eu cyfer. Mae hyn yn cyflwyno nifer o heriau i’r llo yn ystod adegau pwysicaf ei fywyd fel niwmonia, ysgôth a pherygl o glefydau eraill. Serch hynny, gyda phrisiau diweddaraf llaeth a chynnydd mewn costau cynhyrchu, nid oes gan nifer o ffermydd y cyllid ar gyfer cynllunio, llunio ac adeiladu uned addas ar gyfer magu lloi. Mae’n hanfodol, felly, i fuddsoddi mewn ffyrdd ar gyfer gwella siedau sydd eisoes ar y fferm er mwyn helpu gyda magu lloi.
  • Y broblem fwyaf cyffredin gyda siediau sydd eisoes ar y fferm yw’r tymheredd, cynnwys lleithder, diffyg awyr iach a chyflymder aer isel sy’n cael ei achosi gan awyru gwael. Mae hyn yn achosi problemau iechyd a lles difrifol i’r lloi. Niwmonia yw un o’r heriau iechyd mwyaf cyffredin ar gyfer llo ac mae’n cael effaith sylweddol ar iechyd yr ysgyfaint a pherfformiad yr anifail yn y dyfodol, yn ogystal â bod yn brif reswm dros ddefnyddio gwrthfiotigau wrth fagu lloi.
  • Mae systemau Awyru Tiwb Pwysedd Positif (PPAT) wedi dod yn boblogaidd ar gyfer gwella awyriad mewn siedau lloi. Mae’r systemau hyn yn darparu’r awyr iach ac yn ei wasgaru’n gyfartal. Mae’r system PPAT yn cynnwys ffan ar y wal sy’n chwythu aer o’r tu allan i mewn i’r sied loi. Mae tiwb ar gyfer cylchdroi’e aer wedi cael ei atodi i’r ffan gyda thyllau ynddo wedi’u gwasgaru’n gyfartal sy’n rhedeg ar hyd y sied. Mae’r ffan yn tynnu awyr iach o’r tu allan, yn gwasgeddu’r tiwb ac yn chwythu’r aer allan o bob un o’r tyllau er mwyn ei wasgaru’n gyfartal drwy’r sied.Mae’r sied yn cael ei wasgeddu gan y ffan, ac mae aer yn chwilio’i ffordd allan o’r sied drwy’r systemau awyru naturiol.

Y prosiect ar waith:

  • Bydd pwysau’r llo, iechyd a’r defnydd o wrthfiotigau yn cael eu hasesu cyn ychwanegu tiwb y PPAT. Bydd tymheredd, lefelau amonia a chyflymder aer yn y sied yn 1m a 15cm yn cael eu cymryd.
  • Unwaith bydd y system PPAT yn ei le, bydd pwysau’r llo, iechyd a’r defnydd o wrthfiotigau yn cael eu cofnodi.  Bydd lefelau tymheredd ac amonia yn cael eu cofnodi hefyd. Yna, bydd cyflymder aer yn cael ei fesur ar 15cm, 1m, 3m a 5m gyda thiwb y PPAT, o dan diwb y PPAT a 1m o dan y tiwb.
  • Bydd ysgyfaint y lloi yn y ddau grŵp yn cael eu sganio er mwyn nodi’r niwed i’r ysgyfaint oherwydd awyru gwael a niwmonia.
  • Bydd hyn yn dangos buddion tiwb y PPAT o ran llif aer ac awyru yn y sied yn ogystal â’r manteision ar gyfer iechyd a pherfformiad y llo.

04/05/2018 - Diweddariad Prosiect:

Mae ffermwyr yn ymwybodol iawn o’r effaith y mae iechyd a chynhyrchiant lloi yn ei gael ar berfformiad y fuches at y dyfodol. Ar fferm Tyreglwys, mae dau brosiect newydd ddechrau yn ymwneud â lloi, ac mae’r rhain yn cael eu rheoli gan Katharine Heart, milfeddyg sy’n arbenigo mewn stoc ifanc yn y DU. Mae un prosiect yn canolbwyntio ar wella glendid colostrwm, ac mae’r llall yn canolbwyntio ar wella siediau’r fferm trwy ddefnyddio system awyru arloesol.

Mae nifer o ffermydd llaeth sy’n gweithredu pob system ar draws Cymru’n magu lloi mewn adeiladau anaddas. Mae hyn yn rhoi nifer o heriau i’r llo yn ystod adegau pwysicaf ei fywyd fel niwmonia, ysgôth a pherygl o glefydau eraill. Serch hynny, gyda phrisiau llaeth yn ddiweddar ynghyd â chynnydd mewn costau cynhyrchu, nid oes gan nifer o ffermydd gyllid ar gyfer cynllunio, llunio ac adeiladu uned addas ar gyfer magu lloi. Mae’n hanfodol, felly, i fuddsoddi mewn ffyrdd ar gyfer gwella siedau sydd eisoes ar y fferm er mwyn helpu gyda magu lloi. Y broblem fwyaf cyffredin gyda siediau sydd eisoes ar y fferm yw’r tymheredd, cynnwys lleithder, diffyg awyr iach a chyflymder aer isel sy’n cael ei achosi gan awyru gwael. Mae hyn yn achosi problemau iechyd a lles difrifol i’r lloi. Niwmonia yw un o’r heriau iechyd mwyaf cyffredin ar gyfer llo ac mae’n cael effaith sylweddol ar iechyd yr ysgyfaint a pherfformiad yr anifail yn y dyfodol, yn ogystal â bod yn brif reswm dros ddefnyddio gwrthfiotigau wrth fagu lloi. Mae’n hanfodol felly i siediau presennol gael eu hawyru’n briodol i wella iechyd a pherfformiad lloi.

Mae systemau awyru tiwb pwysedd positif (PPAT) wedi dod yn boblogaidd er mwyn gwella awyriad mewn siediau lloi. Mae’r systemau hyn yn darparu’r awyr iach ac yn ei wasgaru’n gyfartal   drwy’r sied. Mae’r system PPAT yn cynnwys ffan ar y wal sy’n chwythu aer o’r tu allan i mewn i’r sied lloi. Mae tiwb ar gyfer gwasgaru’r aer wedi cael ei atodi i’r ffan gyda thyllau ynddo wedi’u gwasgaru’n gyfartal sy’n rhedeg ar hyd y sied. Mae’r ffan yn tynnu awyr iach o’r tu allan, yn gwasgeddu’r tiwb ac yn chwythu’r aer allan o bob un o’r tyllau er mwyn ei wasgaru’n gyfartal drwy’r sied. Mae’r sied yn cael ei wasgeddu gan y ffan, ac mae aer yn chwilio am ffordd allan o’r sied drwy’r systemau awyru naturiol.

Nod yr astudiaeth hon yw asesu honiadau’r cynllun PPAT ar gyfer gwella’r siedau gwreiddiol ar fferm. Byddwn yn edrych ar feysydd perfformiad, dosraniad awyr iach a’r addasrwydd at awyru naturiol trwy gydol y flwyddyn y mae PPAT yn ei ddatgan. Yn ogystal â’r effaith mae’n ei gael ar iechyd y llo, perfformiad yr ysgyfaint, perfformiad cyffredinol a’r defnydd o driniaeth wrthficrobaidd.


Rheoli Colostrwm - effaith lefelau bacteria ar faint o IgG ac IgA mae lloi yn eu hamsugno

 

Nod y Prosiect:

  • Yn yr astudiaeth hon, byddwn yn edrych ar reolaeth colostrwm o ran casglu, trin a chadw, ynghyd â faint o IgG ac IgA sy’n cael ei amsugno yng ngwaed lloi. Bydd hyn yn dangos yr arfer orau ar gyfer rheoli colostrwm er mwyn bod y gwrthgyrff yn cael eu hamsugno’n ddigonol gan y llo er mwyn sicrhau’r dechrau gorau i’w fywyd. Yn ogystal, bydd y prosiect yn helpu cynhyrchiant gydol oes y llo gydag iechyd gwell a lleihad yn y defnydd o wrthfiotigau.

Amcanion strategol:

  • Mae cynhyrchwyr llaeth yn deall pwysigrwydd bwydo digon o golostrwm o ansawdd uchel i loi godro newydd anedig. Serch hynny, mae sicrhau bod llo yn derbyn colostrwm glân digonol cyn gynted â phosibl ar ôl geni yn gallu bod yn her. Mae goblygiadau tymor hir diffyg rheolaeth colostrwm yn effeithio ar berfformiad buwch llawn dwf. Mae’n hanfodol sicrhau trosglwyddiad goddefol o imwnoglobin a bod colostrwm yn cael ei reoli’n gywir.
  • Mae cyfrif bacteraidd uchel yn y colostrwm yn cynyddu ymwrthedd y perfedd i amsugno Ig ac yn cynyddu’r risg o ddiffyg trosglwyddiad goddefol a dolur rhydd. Dylai colostrwm ar adeg bwydo gynnwys llai na 100,000 cfu o facteria gan ddefnyddio’r cyfrif plat arferol. Mae rhai arbenigwyr lloi yn awgrymu bod cyfrif bacteria isel yn y colostrwm yn bwysig, ac efallai hyd yn oed yn bwysicach na chrynodiad yr Ig ar gyfer trosglwyddiad goddefol digonol o imiwnedd.
  • Nod y prosiect yw adeiladu ar brotocol y fferm ar gyfer trin a chadw colostrwm er mwyn sicrhau bod y cyfrif bacteraidd mor isel â phosib. Bydd manteision newid y protocol yn cael eu nodi a’u harddangos yn ystod cyfres o ddiwrnodau agored.

Y prosiect ar waith:

  • Bydd 60 buwch a’u lloi yn cael eu defnyddio yn yr arbrawf hwn, wedi’u rhannu’n ddwy uned o 30 buwch.
  • Bydd y colostrwm yn cael ei gasglu a’i gadw yn ôl yr arfer ar gyfer y 30 buwch gyntaf.
  • Bydd y colostrwm yn cael ei brofi am y cyfrif bacteraidd, cyfanswm protein y gwaed, bydd IgG yn cael ei gymryd o’r lloi, a bydd problemau iechyd a thriniaethau yn cael eu cymryd o bob grŵp.
  • Bydd protocol newydd yn cael ei roi ar waith ar gyfer paratoi’r fuwch, casglu a chadw colostrwm yn yr ail grŵp o 30 buwch. 
  • Bydd yr un samplau yn cael eu cymryd yn yr ail grŵp ac yn cael eu cymharu â gwybodaeth grŵp y rheolydd.

04/05/2018 - Diweddariad Prosiect:

Mae ffermwyr yn ymwybodol iawn o’r effaith y mae iechyd a chynhyrchiant lloi yn ei gael ar berfformiad y fuches at y dyfodol. Ar fferm Tyreglwys, mae dau brosiect newydd ddechrau yn ymwneud â lloi, ac mae’r rhain yn cael eu rheoli gan Katharine Heart, milfeddyg sy’n arbenigo mewn stoc ifanc yn y DU. Mae un prosiect yn canolbwyntio ar wella glendid colostrwm, ac mae’r llall yn canolbwyntio ar wella siediau’r fferm trwy ddefnyddio system awyru arloesol.

Mae cynhyrchwyr llaeth yn deall pwysigrwydd bwydo digon o golostrwm o ansawdd uchel i loi godro newydd anedig. Mae goblygiadau hirdymor diffyg rheolaeth ar golostrwm yn ddifrifol. Mae lloi sy’n derbyn imiwnedd goddefol digonol yn fwy iach, yn dioddef llai o ysgôth, yn tyfu’n gynt ac yn cynhyrchu mwy o laeth pan fyddant yn dod i mewn i’r fuches o’i gymharu â lloi nad ydynt yn ei dderbyn. Mae’n hanfodol i’r llo dderbyn digon o golostrwm glân o ansawdd uchel o fewn cyfnod byr o amser.

Mae gwaith ymchwil diweddar yn amlygu pryderon yn ymwneud â halogiad bacteria yng ngholostrwm y fuwch. Mae nifer o astudiaethau wedi dangos bod llawer o’r colostrwm sy’n cael ei fwydo i loi newydd anedig yn cynnwys niferoedd uchel o facteria a llawer o bathogenau posibl. Mae rhan helaeth o’r broblem gyda halogiad bacteria yn gysylltiedig â chasglu, trin a storio colostrwm. Mae cyfrif bacteria uchel yn y colostrwm yn cynyddu ymwrthedd y perfedd i amsugno imiwnoglobwlin (Ig) ac yn cynyddu’r risg o ddiffyg trosglwyddo imiwnedd goddefol a dolur rhydd. Mae rhai arbenigwyr ar ofal lloi yn awgrymu bod cyfrif bacteria isel yn y colostrwm yn bwysig, ac efallai hyd yn oed yn bwysicach na chrynodiad yr Ig ar gyfer trosglwyddo digon o imiwnedd goddefol.  Mae astudiaethau diweddar wedi canfod bod lefelau bacteria yn chwarae rôl bwysig er mwyn pennu cyfradd amsugno Ig y llo. Mae canfyddiadau wedi dangos bod llo sy’n cael eu bwydo gyda lefelau uchel iawn o facteria’n dangos llai o imiwnedd a chyfradd uwch o afiechydon o’u cymharu â lloi sy’n derbyn colostrwm glân.

Fel rhan o’r astudiaeth hon, byddwn yn cymharu dau brotocol ar gyfer rheoli colostrwm. Yn ystod ail ran yr arbrawf, bydd protocolau newydd yn cael eu rhoi ar waith sy’n canolbwyntio ar gasglu, trin a storio i leihau cyfrif bacteria. Bydd cyfrif bacteria yn y colostrwm yn cael ei brofi ynghyd â lefelau protein yn y gwaed ac amsugniad Ig yng ngwaed lloi. Bydd hyn yn dangos yr arfer orau ar gyfer rheoli colostrwm er mwyn bod y gwrthgyrff yn cael eu hamsugno’n ddigonol gan y llo er mwyn sicrhau’r dechrau gorau i’w fywyd.


Genomeg yn y fuches laeth

 

Nod y prosiect:

  • Dangos sut y gellir defnyddio profion a gwybodaeth genomig ar fferm laeth fasnachol i wella iechyd, lles a chynhyrchiant y fuches laeth.

Amcanion strategol:

  • Mae genomeg wedi cael ei ddefnyddio er mwyn nodi potensial bridio teirw mewn modd eithaf dibynadwy dros y blynyddoedd diwethaf. Mae defnyddio genomeg mewn heffrod cyfnewid yn cynnig cyfle i ymestyn y manteision hynny’n ehangach ar draws buchesi llaeth.
  • Cynhaliodd y fferm ddiwrnod agored yn edrych ar ffrwythlondeb yn ddiweddar gyda nifer o fynychwyr yn bresennol ac mae’r prosiect yn anelu at adeiladu ar lwyddiant y digwyddiad hwn a manteisio ar ddiddordeb y gynulleidfa leol mewn rheolaeth bridio a chenhedlu, gan symud y gynulleidfa ymlaen at bynciau mwy blaengar ac arwain newidiadau ar y fferm.
  • Mae Tyreglwys yn rhedeg buches laeth sy’n cynnwys gwartheg Ayrshire a Holstein pedigri ar gyrion Llanelli, De Orllewin Cymru. Mae’r gwartheg ar gyfer y prosiect yn wartheg Holstein pedigri.

Nodweddion ymarferol y prosiect:

  • 25 o heffrod Holstein yn barod i fridio o’r 20fed Hydref 2017 gan ddefnyddio gwasanaethau AI ABS Genus RMS. Dyma fydd ffocws y prosiect, a bydd y canlynol yn cael ei wneud cyn cenhedlu:
  •  Asesu statws genetig presennol y fuches Holstein fasnachol.
  •  Llunio cynllun genetig milfeddygol ar gyfer iechyd cynhyrchiant  a lles y fuches.
  •  Cynnal profion genomig ar heffrod bridio eleni cyn rhoi AI.
  •  Defnyddio’r wybodaeth fel sylfaen i ddewisiadau bridio’n ymwneud â’r heffrod hyn.

Diweddariad Prosiect:

Cyhoeddiad Technegol (Rhifyn 14, tudalen 4): Asesiadau llinellol annibynnol a gwerthusiadau genomig 


Gwella Glaswelltir

Nodau’r prosiect:

  • Archwilio sut y gellir gwella perfformiad da byw ar laswellt heb beryglu'r cynnyrch mewn buches laeth cynhyrchiol iawn.
  • Gwella rheolaeth glaswelltir a chyllidebu glaswellt

Amcanion strategol:

  • Sicrhau twf glaswellt mwy effeithlon, gwell defnydd a defnyddio arddull mesur i reoli ar gyfer cyllidebu porthiant.
  • Canfod y mantais o ran cost o wella defnydd glaswellt.

Nodweddion ymarferol y prosiect:

  • Bydd porfeydd yn cael eu hail hadu gan ddefnyddio amrywiaethau a ddewiswyd am eu treuliadwyedd a'u haddasrwydd i'r amodau pridd gwlyb yn Nhyreglwys.
  • Bydd twf glaswellt pob pythefnos yn cael ei gofnodi o fis Chwefror hyd fis Hydref er mwyn darparu gwybodaeth fel sylfaen i benderfyniadau pori ac i gynyddu hyder mewn perfformiad glaswellt posib.
  • Cofnodi ansawdd glaswellt a hyd y tymor pori, a chymharu defnydd glaswellt a defnydd o ddwysfwyd gyda’r blynyddoedd diwethaf.
  • Bydd cynnyrch llaeth misol yn cael ei gofnodi er mwyn gwerthuso perfformiad y fuwch.

Diweddariad prosiect:

  • Mae caeau wedi cael eu hail hadu yn 2016, a bydd monitro perfformiad yn dechrau yn ystod gwanwyn 2017.

Therapi Gwartheg Sych Dethol

 

Nodau’r prosiect:

  • Lleihau’r defnydd rheolaidd o wrthfiotigau ar ffurf tiwbiau therapi gwartheg sych, trwy ganfod y gwartheg nad ydynt angen triniaeth gwrthfiotig wrth sychu, a’u trin gyda seliwr tethi’n unig.
  • Lleihau costau a mabwysiadu agwedd mwy cynaliadwy tuag at ffermio llaeth.

Amcanion strategol:

  • Gwella iechyd a lles anifeiliaid
  • Lleihau'r perygl o ymwrthedd gwrthficrobaidd
  • Lleihau faint o arian sy’n cael ei wario ar feddyginiaeth (yn enwedig gwrthfiotigau)
  • Cynyddu proffidioldeb trwy leihau costau cynhyrchu
  • Llai o wastraff llaeth ar ôl lloea

Nodweddion ymarferol y prosiect:

  • Bydd cofnodion NMR ar gyfer pob buwch yn cael eu harchwilio a bydd gwartheg sy'n cael eu dethol ar gyfer triniaeth gyda seliwr tethi'n unig yn cael eu nodi'n seiliedig ar eu cyfrif celloedd somatig ac achosion o fastitis clinigol yn ystod y llaethiad diwethaf. Bydd y trothwy ar gyfer defnyddio seliwr tethi’n unig yn cael ei gytuno rhwng y ffermwr a’r milfeddyg.
  • Bydd protocolau hylendid caeth yn cael eu llunio a’u dilyn wrth weithredu therapi gwartheg sych dethol er mwyn sicrhau nad oes bacteria’n cael ei ddal yn y pwrs/cadair gan y seliwr tethi.
  • Mae’r tethi’n cael eu sychu'n lân, eu dipio, eu sychu eto, ac yna'u glanhau'n unigol gyda gwlan cotwm wedi'i socian mewn ethyl-alcohol cyn defnyddio'r seliwr tethi. Mae’r gwartheg yn cael eu dipio wedyn a’u gadael i sefyll ar lawr concrit glân am 30 munud ar ôl sychu.
  • Yn ystod y llaethiad dilynol, bydd cyfrif celloedd ac ansawdd llaeth yn cael eu monitro'n ofalus i chwilio am effeithiau newid mewn arddulll.

Diweddariad prosiect:

  • Dangosodd y prosiect bod 80% o’r fuches yn addas ar gyfer sychu heb ddefnyddio gwrthfiotig, gan arwain at arbediad ariannol o £7.40 i’r ffermwr ar gyfer pob un o’r gwartheg hynny. Mae monitro ansawdd llaeth ac iechyd pwrs/cadair y gwartheg hynny'n parhau ar gyfer eu llaethiad nesaf.

Diweddariad prosiect:

Erthygl Dechnegol: Therapi Buchod Sych Dethol - beth yw hyn ac a ddylwn ei ddefnyddio ar fy fferm?

Adroddiad: System rheoli buchod sych newydd yn cynorthwyo i wneud arbedion a lleihau defnydd o wrthfiotigau


Camerâu Lloeau

 

Nodau’r prosiect:

  • Gosod camerâu o bell yn yr ardaloedd lloea er mwyn monitro gwartheg yn rheolaidd ac yn agosach cyn, yn ystod ac ar ôl lloea heb ymyrryd â'u hymddygiad naturiol.
  • Lleihau marwolaethau lloeau a nifer yr achosion o dderbyn cymorth wrth loea, ond sicrhau ymyrraeth cynt pan fo angen trwy fonitro gwartheg o bell.
  • Gwell safonau lles anifeiliaid a gwell rheolaeth o'r lloeau yn y dyddiau cynnar

Amcanion strategol:

  • Lleihau bwlch lloea’r fuches
  • Gwella ffrwythlondeb y fuches drwyddi draw
  • Llai o ofynion llafur ar y fferm
  • Gwell safonau iechyd yn yr hir dymor trwy reoli colostrwm yn well
  • Mwy o hyblygrwydd yn y system

Nodweddion ymarferol y prosiect:

  • Bydd camerâu’n cael eu gosod mewn ardaloedd lloea i fonitro cynnydd lloea ynghyd ag oriau cyntaf yn oes y llo trwy arsylwi o bell.
  • Bydd addasrwydd technoleg ac unrhyw heriau, megis y broses o osod, problemau gyda signal, ac eglurder y llun yn cael eu cofnodi.
  • Bydd gwerthusiad o ba mor gost-effeithiol yw'r buddsoddiad, a bydd newidiadau i drefniadau ar fferm o ran rheolaeth amser a pha mor aml mae gwartheg yn cael eu monitro yn cael eu cofnodi.

Diweddariad prosiect:

  • Gosodwyd y camerâu ym mis Hydref 2016 ac roeddent yn cael eu hystyried yn syth fel adnodd rheolaeth bwysig ar gyfer yr ardaloedd lloea. Mae monitro o bell wedi creu arbedion o ran amser ar gyfer y teulu cyfan, gan eu galluogi i gadw llygad yn amlach ar y gwartheg wrth loea, gyda llai o ymweliadau â’r sied, a tharfu ar y gwartheg yn llai aml.
  • Bydd y prosiect yn monitro pa mor aml mae ymyrraeth yn cymryd lle, marwoldeb a ffactorau'n ymwneud ag iechyd y fuwch a'r llo dros y flwyddyn nesaf, gan ychwanegu at dargedau mynegai lloea ar gyfer buches Tyreglwys.

Adroddiad Prosiect - Tyreglwys