Prosiect Statws Ymwrthedd Anthelmintig Cymru

Pa mor dda y mae eich triniaeth llyngyr yn gweithio? Profi nid dyfalu!

Mae profi am ymwrthedd anthelmintig yn rhan hanfodol o unrhyw gynllun iechyd defaid. Parasitiaid mewnol yw un o’r afiechydon mwyaf cyffredin a phwysicaf y mae’n rhaid i ffermwyr da byw ymdrin â nhw yn ddyddiol. Gwelwyd adroddiadau niferus bod ymwrthedd i driniaeth llyngyr a ddefnyddir ar gyfer defaid yn gyffredin erbyn hyn, gydag astudiaeth yn 2015 yn canfod bod 60% o ffermydd âg ymwrthedd ar ryw lefelau i’r tri grŵp o driniaethau llyngyr (1BZ, 2LV, 3ML).

Lansiodd Cyswllt Ffermio brosiect Statws Ymwrthedd Anthelmintig Cymru, gan weithio gyda 40 o ddiadelloedd Cymru i gasglu data i bennu lefelau presennol yr ymwrthedd anthelmintig ar ffermydd defaid yng Nghymru. 

Bydd y gwaith yn cynnwys Prawf Lleihau Cyfrif Wyau Ysgarthol cynhwysfawr ar 5 o wahanol grwpiau o driniaethau llyngyr-

  • Grŵp 1 -BZ - Benzimidazoles / ‘Dos Gwyn' 
  • Grŵp 2 -LV - Levamisole / ‘Dos Melyn'
  • Grŵp 3 -ML - Ivermectin / ‘Dos Clir' 
  • Grŵp 3 -ML (gweithredu’n hir) - Moxidectin – (e.e. Cydectin, Zermex) 
  • Grŵp 4 -AD - Monepantel / ‘Dos Oren’ - Zolvix   
  • Grŵp 5 -SI Derquantel, 3-ML Abamectin (Startect)

Anfonir samplau o wyau hefyd i gael manyleb foleciwlaidd i bennu pa rywogaethau (os o gwbl) sy’n goroesi’r driniaeth.

Llun 1 - Wyau llyngyr dan ficrosgop

Sut mae’r data’n cael ei gasglu?

Dylid ymchwilio i ymwrthedd anthelmintig ym mhob diadell, oherwydd y manteision amrywiol:

  • Mae’n arbed amser ac arian trwy osgoi defnyddio dos aneffeithiol a’r angen i ailadrodd y driniaeth. 
  • Bydd defnyddio dos sy’n gweithio yn gwella iechyd a chynhyrchiant eich anifeiliaid. 
  • Mae dal i ddefnyddio dos aneffeithiol yn creu risg fawr o gyflymu datblygiad ymwrthedd i ddos. Nid yw llyngyr ag ymwrthedd yn marw, maent yn parhau i fagu.
  • Mae gwybod pa mor dda y mae gwahanol grwpiau o driniaethau yn gweithio ar eich fferm, yn eich helpu wrth ddewis pa ddos i’w brynu. 
  • Cofiwch, ymhell cyn i arwyddion clinigol (gweladwy) o lyngyr ddigwydd, mae gostyngiad sylweddol mewn cynhyrchiant wedi digwydd yn barod. 

Mae angen i ni symud oddi wrth driniaethau cyson i bob anifail ar gyfer llyngyr, gan mai dim ond cyflymu cyflymder ymwrthedd y mae hyn a chostio £3.15 miliwn i ddiwydiant da byw'r Deyrnas Unedig.

Canlyniadau

  • Prosiect WARS - Ar ôl i’r canlyniadau terfynol gael eu cyhoeddi yn hydref 2024, bydd y rhain ar gael yma.