Rhys Williams

Enw

Rhys Williams

Lleoliad

Gogledd Cymru

Prif Arbenigedd

Rheoli Glaswelltir
Amaethyddiaeth adfywiol
Cynllunio, Datblygu a Rheoli Busnes
Mentrau ar y Cyd
Cydweithio, Cyfathrebu a Chynllunio Olyniaeth

Sector

Da byw

Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?

Fel siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, wedi ei fagu ac yn magu teulu ifanc mewn cymuned wledig, mae Rhys yn deall anghenion a gofynion ffermwyr Cymru ac yn gallu cyfathrebu ac uniaethu mewn modd cyfeillgar ac adeiladol.

Mae ei addysg, ei gyflogaeth flaenorol, ei bedair blynedd o ymarfer fel ymgynghorydd busnes fferm, ei ddatblygiad proffesiynol parhaus, a’i gysylltiad personol presennol â dau fusnes ffermio yn rhoi’r sgiliau, y wybodaeth, a’r profiad angenrheidiol, perthnasol a chyfredol iddo i ddarparu cyngor, arweiniad a hyfforddiant o safon yn y meysydd pwnc a nodwyd.

Mae’n rhedeg fferm deuluol stoc sych 60ha ym Mhen Llyn mewn partneriaeth â’i dad. Maent yn magu 900+ o ŵyn benyw a 200+ o heffrod llaeth wedi’u magu ar gontract ar system bori cylchdro mewnbwn isel. Mae’r busnes hwn yn rhoi datblygiad proffesiynol parhaus iddo mewn mesur a phennu cyllideb glaswellt, defnyddio isadeiledd pori, asesu iechyd y pridd a rheoli grwpiau mawr o dda byw.

Yn 2016, defnyddiodd Rhys gymorth Menter Cyswllt Ffermio i sefydlu menter ffermio defaid ar y cyd yn Abergele mewn partneriaeth â’r tirfeddiannwr a bugail ifanc. Maen nhw’n rhedeg fferm gyda 2000 o famogiaid magu ynghyd â rhai cyfnewid a 120 o heffrod llaeth wedi’u magu ar gontract ar system mewnbwn isel, yn seiliedig ar laswellt. Mae’r fenter ar y cyd yn rhoi’r cyfle i’r bugail ddatblygu profiad ac ecwiti er mwyn galluogi dilyniant i fyny’r ysgol ffermio.

Mae rheoli a gweinyddu dau fusnes ffermio da byw gwahanol sy’n gynaliadwy yn ariannol ac yn amgylcheddol ac sy’n rhoi cyfle i bobl ffynnu yn rhoi Rhys mewn sefyllfa gref i arwain ffermwyr i fodloni’r heriau sydd i ddod sy’n wynebu amaethyddiaeth yng Nghymru.

Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad

  • BSc mewn Amaeth
  • Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg
  • Darlithydd Amaeth
  • Rheolwr Coleg Addysg Bellach
  • Partner mewn busnes ffermio da byw teuluol
  • Cyfarwyddwr cwmni ffermio cyfranddaliadau da byw
  • Cyd-sylfaenydd a hwylusydd cynhadledd ffermio da byw cynaliadwy DaByw
  • Ymgynghorydd Busnes Fferm

Awgrym /Dyfyniad

“Mae ceisio cyngor ac arweiniad a chydweithio yn hanfodol i alluogi busnesau ffermio i groesawu newid, datblygu arloesedd a chyflawni eu nodau personol a busnes”.