Rôl dwysfwyd a roddir drwy’r dail a diagnosteg meinwe i wella ansawdd maethol india-corn

Nod y teulu Bowyer yw lleihau dwysfwyd a brynir i mewn drwy wneud cymaint o ddefnydd ag sy’n bosibl o ddwysfwyd a dyfir gartref i fwydo’r ddiadell o famogiaid croes a lloeau sydd newydd eu diddyfnu sy’n cael eu prynu i’w pesgi ar y fferm. Mae eu cylchdro tir âr hyblyg yn amrywio, gan gynnwys india-corn, pys a haidd cnwd-gyfan, haidd y gaeaf a’r gwanwyn a gwenith y gaeaf, gyda chnydau gorchudd yn cael eu hau o flaen cnydau’r gwanwyn.

Gyda chostau cynhyrchu’n cynyddu, mae’n bwysig i ffermwyr wneud y mwyaf o’u cynnyrch er mwyn cael y gorau o’u cnydau. Gall sawl elfen ddylanwadu ar botensial twf cnydau, megis cyflwr y pridd, hinsawdd, rheoli chwyn a maeth cnydau.

Bydd yr arbrawf hwn yn ymchwilio i weld a all rhoi dwysfwyd drwy’r dail i wella lefelau maetholion mewn india-corn arwain at fwy o gynnyrch a gwell ansawdd porthiant. Er mwyn pennu diffygion neu anghydbwysedd mewn Nitrogen, Ffosfforws, Potasiwm, Calsiwm, Magnesiwm, Sylffwr, Boron, Copr, Manganîs, Sinc, Haearn, cynhelir dadansoddiad prawf meinwe. Yn dibynnu ar y canlyniadau, bydd y cae’n cael ei rannu’n lleiniau prawf i fynd i’r afael â phob diffyg neu anghydbwysedd a nodwyd. Bydd y dull torri a phwyso yn cael ei ddefnyddio i bennu’r cynnyrch.

Bydd y prosiect yn cyfrannu at y canlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  • Defnyddio adnoddau’n effeithiol
  • Dŵr glân
  • Ecosystemau cydnerth