Sam Alexander

Enw: Samantha Alexander

Lleoliad: Ceredigion/Yn gweithredu o gwmpas Canolbarth a De Cymru 

E-bost: sam.alexander@agrisgop.cymru      

Symudol: 07770 669418 

Arbenigeddau:  Rheoli tir yn gynaliadwy, rheoli glaswelltir a phriddoedd, Geneteg, Datblygiad personol, Mentrau ar y Cyd

Busnes fferm presennol

  • Mae Sam Alexander, a raddiodd mewn amaethyddiaeth, a’i phartner – sy’n astudio amaethyddiaeth ar hyn o bryd – wedi bod yn ffermwyr tenant ac yn rheolwyr fferm.  Ar hyn o bryd maent wedi camu’n ôl o ffermio da byw i flaenoriaethu eu datblygiad personol eu hunain ac i adeiladu eu busnes ymgynghori, gan weithio gyda chleientiaid megis Cyswllt Ffermio, Cymdeithas y Pridd a’r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth.  Mae'r bartneriaeth yn gweithio gyda ffermwyr ar bynciau gan gynnwys cloffni mewn gwartheg, rheoli tir yn gynaliadwy, cyfrifo ôl troed carbon a datblygu busnes. 
  • Mae Sam yn dod â’i gwybodaeth ymarferol am ffermio da byw ynghyd ochr yn ochr ag ymchwil a data, sy’n rhan allweddol o’i rôl fel rheolwr cynaliadwyedd gyda chwmni blaenllaw ledled y DU lle mae’n arwain ar ddatblygu a chyflwyno rhaglenni cynaliadwyedd ar ran hufenfeydd.  
  • Mae ei rôl yn cynnwys rhoi cyngor ymarferol i ffermwyr ar y defnydd o faetholion, gofynion cnydau ac iechyd y pridd, ochr yn ochr â gweithio gyda ffermwyr i gynhyrchu adroddiadau ar gyfer yr hufenfa.  Mae'n aelod o dîm rheoli'r cwmni, gan gyfrannu at benderfyniadau ar gynllunio strategol, treialon, ymgyrchoedd a digwyddiadau.   Mae hyn i gyd yn ychwanegu at wybodaeth ac arbenigedd sylweddol y mae hi'n edrych ymlaen at eu rhannu yn ei rôl ddiweddaraf fel arweinydd Agrisgôp. 
  • Mae Sam yn mwynhau'r hetiau niferus y mae'n eu gwisgo ar y fferm, gyda phrofiad mewn gwahanol rolau yn caniatáu iddi gymryd 'golygfeydd hofrennydd' o'r busnesau.  Mae Sam yn gwybod nad yw unrhyw beth fel arfer yn digwydd ar ei ben ei hun ar y fferm, gan fod gan gryfderau a phroblemau achos ac effaith gymhleth, fel arfer. Mae Sam yn rhagori mewn datrys problemau ac arwain ffermwyr trwy newid. Drwy bwyso a mesur yr hyn sy'n gweithio'n dda ar y fferm, yr hyn efallai nad yw’n mynd cystal, a lle mae'r busnes eisiau bod ymhen 5-10-15 mlynedd, mae cael cynllun strategol yn rhywbeth y mae Sam yn teimlo'n angerddol yn ei gylch. 
  • Pa bynnag bwnc sydd o dan y chwyddwydr yng ngrŵp Agrisgôp Sam, byddwch yn dawel eich meddwl y byddwch yn magu’r hyder a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i’ch helpu chi ac aelodau eraill y grŵp i ddysgu a chaffael gwybodaeth mewn amgylchedd cefnogol sy’n eich galluogi i ganolbwyntio ar gynaliadwyedd a phroffidioldeb eich busnes fferm neu fenter arallgyfeirio. 

Profiad/cymwysterau/sgiliau

 

  • Prifysgol Aberystwyth, BSc (Anrh) Dosbarth Cyntaf mewn Amaethyddiaeth    
  • Derbynnydd Ysgoloriaeth Thomas Davies ac Enillydd Gwobr CAFC am y Myfyriwr Gorau mewn Amaethyddiaeth yn IBERS 2018 Sgiliau Negodi - 2019 
  • Cofrestr Sgorwyr Symudedd (RoMS) - Sgoriwr Symudedd Achrededig - 2021 (parhaus)
  • Gwobr Sylfaen BASIS mewn Ffermio Organig - Mawrth 2022
  • Rheoli Coetiroedd ar gyfer Cadwraeth - Rhagfyr 22
  • BASIS FACTS - Mawrth 2023
  • Arweinydd, Rhaglen Iau yr Academi Amaeth (2023 ymlaen)
  • Profiad gydag Agrinet a Farm Carbon Toolkit 

Gwobrau/Datblygiad personol

  • Ysgolhaig Henry Plumb 2018
  • Enillydd - Myfyriwr Amaethyddiaeth Gorau Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn IBERS 2018
  • Rownd Derfynol - Gwobr Richard Phillips ar gyfer Myfyriwr Amaethyddol y Flwyddyn 2018
  • Tesco Future Farmers 2019