Mae cyflawni sero net yn gam hanfodol fel rhan o ymrwymiadau wedi’u rhwymo mewn cyfraith a wnaeth y DU fel rhan o Gytundeb Paris, a fabwysiadwyd yn 2015 ac a ddaeth yn ddeddf yn 2016. Nod yr ymrwymiadau hynny yw cyfyngu ar gynhesu byd-eang i lai na 2˚C, ac yn ddelfrydol, llai na 1.5˚C. Rhaid lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr i sero erbyn 2050.
Bydd cyflawni sero net yn y DU yn gofyn am newidiadau helaeth y bydd yn rhai eu gweithredu ledled yr economi. Bydd hyn yn cynnwys rhoi’r gorau i ddefnyddio tanwyddau ffosil a mynd ati i drydaneiddio’n helaeth a datblygu economi sy’n seiliedig ar ddefnyddio hydrogen.
Bydd angen arbed llawer iawn mwy o ynni ac adnoddau, a bydd angen newidiadau ar lefel unigolion o ran y galw am rai gweithgareddau dwys o ran carbon a newidiadau mawr mewn arferion rheoli tir presennol.
Ansicr beth yw BOSS? [Ffeindiwch allan mwy]