Yn ôl ystadegau Llywodraeth y DU, roedd ynni gwynt yn cyfrif am 28.8% o gyfanswm trydan grid y DU yn 2023. Heblaw am yr ynni a ddefnyddir i adeiladu a gosod tyrbinau gwynt eu hunain, mae'r trydan y maent yn ei gynhyrchu yn adnewyddadwy a heb garbon oherwydd nid yw'r tyrbinau'n defnyddio ffynhonnell tanwydd disbyddadwy fel diesel neu nwy. Felly, cyn belled â bod y gwynt yn chwythu, mae tyrbinau gwynt yn cynhyrchu trydan glân sy'n lleihau ein dibyniaeth ar y grid trydanol a thanwydd ffosil.
Ansicr beth yw BOSS? [Ffeindiwch allan mwy]