Mae’r enw ‘perllan’ yn cyfeirio at blanhigfa o goed sydd wedi’i bwriadu i gynhyrchu cnydau o ffrwythau a chnau. Gan fod perllannau yn aml mewn lle am 15 mlynedd neu fwy, mae’n bwysig cynllunio’n ofalus cyn plannu er mwyn cael y canlyniadau gorau. Y ffrwythau sydd fel arfer yn cael eu tyfu yw afalau, eirin a gellyg. Ymhlith y rhai llai arferol mae afalau agored (medlars), mwyar Mair, a chwins. Mae coed cnau hefyd yn cael eu tyfu mewn perllannau, ond mae'n well tyfu coed ffrwythau eraill fel ceirios, bricyll ac eirin gwlanog o dan amddiffyniad.
Mae gwerthu a marchnata yn brif bethau i’w hystyried. Mae archfarchnadoedd a groseriaid yn tueddu i gael eu cyflenwi’n dda gan berllannau mawr a mewnforion am brisiau rhad iawn. Gall marchnadoedd lleol a gwerthu ar-lein fod yn opsiynau da. Mae gan berllannau botensial hefyd ar gyfer twristiaeth, mentrau cymunedol, addysg a phrosiectau eraill sydd ddim yn seiliedig ar gynhyrchu. Gall perllan hefyd gyfrannu at atafaelu carbon yn y tymor hir ac ychwanegu'n sylweddol at gynefin bywyd gwyllt.
Ansicr beth yw BOSS? [Ffeindiwch allan mwy]