Strategaethau i gynyddu bioleg y pridd – Diweddariad Terfynol

Prif ganlyniadau
 

  • Gallai gwasgaru cynnyrch ‘Goop' ar gyfradd is fod yr un mor effeithiol â gwasgaru ar gyfradd uwch
  • Mae cynnwys microbaidd yn aros yn y pridd am o leiaf 7 mis ar ôl ei wasgaru
  • Roedd gwerth maethol y pridd yn uwch ar y lleiniau lle gwasgarwyd cynnyrch ‘Goop’ o’i gymharu â lleiniau heb eu trin

Cefndir

Mynychodd Sam gwrs iechyd y pridd a gynhaliwyd gan Dr Elaine Ingram, sy’n awdurdod ar ficrobioleg y pridd ac wedi derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol, ac fe amlygodd y cwrs bwysigrwydd y pridd a chynnal iechyd y pridd fel yr ased fwyaf ar y fferm. Fe wnaeth y cwrs ei ysbrydoli i geisio deall mwy am hybu’r ficrobioleg sy’n bresennol yn ei briddoedd.

Dewiswyd cynnyrch echdynnyn compost newydd arbrofol, sef ‘The Goop’ i’w ddefnyddio, a gynhyrchir gan Soil Ecology Lab (soilecologylab.co.uk). 

Mae’r cynnyrch hwn yn cynnwys cannoedd o rywogaethau o facteria, ffyngau, protosoa a nematodau buddiol a dyfwyd gan ddefnyddio compost fel deorydd mewn proses dan reolaeth. Gyda’i gilydd, maent yn creu ecosystem pridd iach wedi’i lunio i gefnogi cnydau. Mae’r rhan fwyaf o briddoedd amaethyddol yn cynnwys gweoedd bwyd diffygiol neu anweithredol, ac mae’r cynnyrch yn gweithredu fel hwb i’ch priddoedd. Mae cynnyrch ‘The Goop’ yn cynnig yr holl fuddion o gompost heb i chi orfod dysgu, rheoli, echdynnu na chynhyrchu. Mae’n debyg i gael holl elfennau gorau compost mewn potel gyfleus.

Diben y gwaith

  1. Canfod ffyrdd effeithlon o wella bioleg y pridd (bacteria, ffwng, protosoa a nematodau) trwy ail-drin gydag echdynion compost
  2. Canfod faint o’r echdynnyn sydd angen ei wasgaru ar y pridd i fesur gwelliannau mesuradwy o ran lefelau bioleg y pridd

Yr hyn a wnaed

  • Defnyddiwyd 6 chae, (4.7ha ar gyfartaledd), a rhannwyd pob cae yn ei hanner
  • Chwistrellwyd cynnyrch Goop ar hanner pob cae, ac nid ar yr hanner arall
  • Defnyddiwyd cyfraddau gwasgaru amrywiol ar bob cae: 2, 4, 6, 8, 10, neu 12 L/ha o’r cynnyrch Goop
  • Gwasgarwyd y cynnyrch Goop ym mis Ebrill 2024
  • Cymerwyd samplau pridd ym mis Tachwedd 2024 a’u hanfon i gael eu dadansoddi

Canlyniadau

Cafodd cyfraddau gwasgau o 2, 4 a 6 litr fesul hectar eu grwpio i’r gyfradd wasgaru isel, a chafodd y cyfraddau gwasgaru 8, 10 a 12 litr fesul hectar eu grwpio i’r gyfradd wasgaru uchel. 
 

Graff 1: N, P a K sydd ar gael yn y pridd yn dilyn gwahanol driniaethau

Graff 2: Cynnwys Microbaidd y Pridd (noder gwahanol fformat y mesuriadau)

Roedd ychydig mwy o nitrogen ar gael yn y pridd a dderbyniodd driniaeth Goop o’i gymharu â’r caeau heb eu trin, ychydig iawn o wahaniaeth o ran lefelau ffosfforws, a dim ond gwahaniaeth yn y lefel potasiwm ar y gyfradd wasgaru Goop isel o’i gymharu â’r gyfradd wasgaru uwch a’r llain reoli (Graff 1).

Yn ôl y disgwyl, roedd y caeau a oedd wedi’u trin â’r cynnyrch Goop yn cynnwys mwy o ffyngau, amebâu a nematodau o’i gymharu â chaeau heb eu trin, ac mae’r lefelau hyn wedi cael eu cynnal dros y 7 mis (Ebrill - Tachwedd).

Fodd bynnag, nid oedd unrhyw wahaniaeth o ran cynnwys bacteriol. Mae’n galonogol gweld nad oedd unrhyw wahaniaeth o ran amebâu a nematodau rhwng gwasgaru cynnyrch Goop ar gyfraddau uchel ac isel. Mae hyn yn awgrymu bod y cyfraddau gwasgaru isel yr un mor effeithiol â’r cyfraddau gwasgaru uchel. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi na chanfuwyd unrhyw amebâu mewn caeau a oedd wedi cael eu trin gyda 4, 6, 8 a 10 L/ha.

Elw ar fuddsoddiad

  • Mae’r gyfradd wasgaru isel yn 4L/ha ar gyfartaledd
  • Mae’r gyfradd wasgaru uchel yn 10L/ha ar gyfartaledd
  • Gyda chynnyrch Goop yn costio £4/L:
    • Costau cyfradd wasgaru isel ~£16/ha
    • Costau cyfradd wasgaru uchel ~£40/ha
  • Byddai mesuriadau twf glaswellt/cnydau yn dueddol o awgrymu elw ar fuddsoddiad, ond mae’n amlwg bod gwahaniaeth mawr o ran costau rhwng y gwahanol gyfraddau gwasgary a cheir awgrym fod cyfraddau gwasgaru is yr un mor effeithiol ar gyfer hybu cynnwys microbaidd y pridd â’r cyfraddau uwch

Graff 3: Gwerth Maethol y Pridd

Wrth gymharu pob gwasgariad o gynnyrch Goop gyda’r llain reoli berthnasol (yr hanner arall o’r cae heb ei drin), roedd y cyfraddau gwasgaru uwch yn dangos mwy o werth maethol ar gael yn y pridd. 

Mae’n anodd rhoi gwerth ar y cynnwys maethol uwch heb fesur ei effaith ar dwf glaswellt/cnydau. Os oes modd iddo ddisodli gwrtaith nitrogen i ryw raddau, gallai arbedion nid yn unig fod yn sylweddol, ond gyda’r gwelliannau i iechyd y pridd, gallant fod yn hirdymor hefyd.

Sut i’w roi ar waith ar eich fferm

Mae’r arbrawf hwn yn dangos buddion hybu microbioleg da yn y pridd sy’n cynnwys poblogaeth amrywiol o ficro organebau. Mae’n bosibl cynhyrchu eich compost hylifol eich hun a defnyddio meithriniad cychwynnol o nifer o wahanol ffynonellau. Bu Sam yn gweithio’n agos gyda Daniel Tyrkiel o gwmni Soil Ecology Laboratory a fu’n cynghori ar yr echdynnyn compost ‘The Goop’ ac yn cyfrannu o ran y profion sydd ar gael megis prawf microsgopeg Gwe Fwyd y Pridd.

Os hoffech wybodaeth bellach am waith y prosiect, cysylltwch â timtechnegolcff@mentera.cymru